Gwraig ifanc hapus yn eistedd wrth ddesg gyda gliniadur mewn swyddfa fodern yn llawenhau mewn llwyddiant

Recriwtio yn sector gwirfoddol Cymru

Cyhoeddwyd: 04/10/22 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Tim Deeks

Mae Tim Deeks yn Rheolwr Hysbysebu ar gyfer cyflenwr dibynadwy, recruit3. Yma, mae’n amlinellu’r heriau recriwtio yn ein sector a sut gall recruit3 helpu aelodau CGGC.

Rwyf wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector ers chwe blynedd bellach ac rwy’n parhau i deimlo fy mod yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ac yn gweld bod y dirwedd yn newid yn rheolaidd. Un peth sy’n gyson, ac rwy’n gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn rhywbeth a glywir dro ar ôl tro, yw bod y gwaith bob amser yn werth chweil, gydag ymdeimlad go iawn o gyflawni rhywbeth a hefyd o deimlo eich bod wedi gwneud gwahaniaeth mewn rhyw fodd.

Ar ôl gweithio yn y byd cyhoeddi a’r cyfryngau yng nghanol Llundain am bron 20 mlynedd, mae fy rôl bresennol wedi bod yn gyferbyniad llwyr, ond rwy’n mwynhau gweithio yn y sector hwn yn fawr iawn.

Rwy’n credu mai’r bobl sy’n gweithio yn y sector hwn sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnaf, mae’r ymroddiad y maen nhw’n ei ddangos i’w hachos yn ysbrydoledig, gan weithio i gynnig gwasanaeth neu gyngor i’r bobl hynny sydd eu hangen mwyaf. Hefyd, y penderfyniad i barhau a dod o hyd i ffordd arall pan mae’r cyllid wedi dod i ben neu pan mae’r amgylchiadau wedi newid.

DOD O HYD I’R BOBL IAWN

Rwy’n gwerthfawrogi ei fod yn anodd tu hwnt i fudiadau trydydd sector o bob maint ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi swydd. Mae’n bosibl fod y broblem hon yn waeth yng Nghymru, gan ystyried ein daearyddiaeth unigryw a’r ffaith bod pob un o’n dinasoedd mawr ni yn y De.

Rydyn ni eisiau helpu mudiadau i lenwi swyddi gyda’r bobl iawn; mae gweithio yn y sector hwn yn wobrwyol ond hefyd yn heriol ac nid yw’n iawn i bawb. Mae’n arbennig o anodd ar hyn o bryd; mae prinder o weithwyr, felly mae mudiadau ar draws pob sector yn chwilio am bobl. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i gael eich gweld, yn enwedig ar hysbysfyrddau swyddi sefydledig prif ffrwd sy’n hysbysebu pob math o sector a gyda chymaint o swyddi gwag ar gael.

Efallai nad oes gan rai mudiadau’r gynulleidfa na’r cyrhaeddiad i ddenu ymgeiswyr i rôl, nid yw pob mudiad mor fawr nac mor adnabyddus ag eraill yn y sector. Mae recruit3 yma i helpu mudiadau trydydd sector i ddod o hyd i’r unigolyn iawn.

BETH ALL RECRUIT3 EI GYNNIG I AELODAU CGGC?

Mae recruit3 yn wasanaeth a gynigir i aelodau CGGC a mudiadau trydydd sector eraill yng Nghymru i’w helpu i hysbysebu swyddi gwag. Mae recruit3 yn bartneriaeth rhwng CGGC a Chylchgrawn ‘The Big Issue’ (Saesneg yn unig), yr wyf yn gweithio iddo. Rwyf mewn cysylltiad beunyddiol â naill ai fy nghydweithwyr yn ‘The Big Issue’, CGGC neu staff y mudiadau yr wyf yn eu helpu i hysbysebu swyddi gwag.

Mae recruit3 DIM OND yn hysbysebu swyddi gwag gan fudiadau trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru. Golyga hŷm y byddwch chi’n cyrraedd cynulleidfa o bobl sy’n chwilio am y math hwn o waith, mae’n helpu’r mudiad sy’n recriwtio i arbed llawer o amser ac egni coll drwy gyflwyno cynulleidfa darged.

Rydyn ni’n hysbysebu’r swyddi gwag ar draws nifer o blatfformau gwahanol, gan gynnwys Cylchgrawn ‘The Big Issue’, gwefan recruit3, gwefan CGGC a hefyd ein cyfrifon Facebook, Linkedin a Twitter. Mae hyn yn rhoi digonedd o gyfleoedd i ymgeiswyr weld y swyddi gwag, cael yr wybodaeth a gwneud cais am swyddi.

GWNEUD Y MWYAF CAEL GWERTH AM ARIAN O’CH CYLLIDEB

Rydyn ni’n gweithio gyda mudiadau i wneud yn siŵr bod pa bynnag gyllideb sydd ganddyn nhw i hyrwyddo’r swydd wag yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau bosibl drwy deilwra pecyn hysbysebu sy’n briodol i bob swydd wag. Rydyn ni hefyd yn falch o gynnig gostyngiad o 5% i aelodau CGGC ar y pecyn recriwtio y byddwch chi’n ei ddewis gyda ni.

Os oes gennych chi swydd wag yr hoffech chi ei hysbysebu, cysylltwch â mi ar tim.deeks@futurenet.com a gallaf drafod y pecynnau sydd gennym ni i gyd-fynd â’r hyn yr hoffech chi ei wneud.

Ac os ydych chi’n chwilio am waith yn y trydydd sector, ewch i www.recruit3.org.uk a chofrestrwch ar y wefan. Gallwch chi gadw eich CV yno a chofrestru i gael ein Hysbysiadau Swyddi ar e-bost er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n gweld y rolau cywir i chi.

Tim Deeks yw Rheolwr Hysbysebu recruit3, sef gwasanaeth hysbysebu swyddi gwag a gynigir gan CGGC a Chylchgrawn ‘The Big Issue’ i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.