Mae gwirfoddolwyr newydd yn ysgwyd llaw â chydlynydd gwirfoddolwyr

Recriwtio a chroesawu gwirfoddolwyr – ydyn ni’n parhau i wneud pethau’n iawn?

Cyhoeddwyd: 08/09/22 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Felicitie (Flik) Walls

Mae Flik, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn myfyrio ar fewnwelediadau gan arweinwyr gwirfoddoli ledled Cymru ar y pwnc recriwtio, ac yn benodol, ar groesawu gwirfoddolwyr newydd.

Yn y blog hwn, byddaf yn canolbwyntio ar yr hanfodion o groesawu gwirfoddolwyr ar ôl y pandemig.

Trwy fyfyrio â chydweithwyr o’r sector gwirfoddol ar hyd a lled Cymru, rydyn ni wedi dysgu’r canlynol:

  1. Mae pobl sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn ystod y pandemig wedi dioddef o orflinder
  2. Mae’r cynnydd mewn gwirfoddoli digidol wedi gwneud gwirfoddoli’n fwy hygyrch i rai ac yn llai hygyrch i eraill
  3. Mae gwirfoddoli wedi rhoi ymdeimlad o lesiant a chysylltiad i bobl
  4. Ein bod ni’n gallu gwneud pethau’n wahanol (a gobeithio, yn well)
  5. Bodd dulliau gweithredu anffurfiol a mwy hyblyg yn ddeniadol i bobl sydd eisiau gwirfoddoli

Mae’r cyfnod dysgu cyflym hwn wedi bod yn werthfawr a gall ein helpu ni i feddwl am sut rydyn ni’n ailgysylltu â’n gwirfoddolwyr presennol ac yn croesawu rhai newydd i ymuno â’n mudiadau.

Fel rhan o’n cyfarfod gydag arweinwyr gwirfoddoli ledled Cymru yn ystod haf 2022 (Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru), gwnaeth y mwyafrif nodi ei bod hi’n anodd recriwtio weithiau neu bob amser.

Drwy bleidlais gyflym, gwnaethon ni ddysgu bod amrywiaeth enfawr rhwng pryd y cafodd pecynnau cynefino eu hadolygu ddiwethaf a phryd oedd y tro diwethaf y gwnaeth cydweithwyr roi cynnig ar ddull recriwtio newydd. Roedd dros hanner y cydweithwyr yn ymateb i ymholiadau gwirfoddolwyr ar ôl cwpwl o wythnosau neu ragor a llawer o gydweithwyr yn nodi eu bod yn teimlo eu bod yn rhoi ‘gormod o wybodaeth’ yn ystod eu proses gynefino (53%).

SUT FELLY GALLWN NI BARATOI A CHROESAWU GWIRFODDOLWYR ORAU?

Er ein bod yn gweld rhai newidiadau allweddol mewn tueddiadau o ran gwirfoddoli yng Nghymru, fel diddordeb mewn ffurfiau mwy hyblyg o wirfoddoli, gwyddom fod rhai hanfodion sy’n werth eu hystyried wrth groesawu gwirfoddoli.

‘MAE AMSER YN WERTHFAWR’

Mae pobl sy’n gwirfoddoli yn gwerthfawrogi eu hamser, ac ers pandemig COVID, mae llawer yn sylweddoli bod eu hamser yn fwy gwerthfawr nag erioed. Gan ystyried hyn, gwnaeth mudiadau fyfyrio ar bwysigrwydd sicrhau bod pobl sy’n gwirfoddoli  yn teimlo bod eu hamser ‘wedi’i dreulio’n dda’. (Mae Time Well Spent (Saesneg yn unig) yn rhaglen ymchwil gan NCVO sy’n canolbwyntio ar brofiad y gwirfoddolwr)

I un mudiad, roedd hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod cymhellion gwirfoddolwr yn cael eu deall yn dda, fel bod y cyfle gwirfoddoli yn gallu cael ei deilwra’n briodol i’w ddyheadau. Gallai hynny olygu gwirfoddoli mewn modd sy’n galluogi unigolyn i gael profiad gwerthfawr ar gyfer gwaith yn y dyfodol, neu sicrhau bod y gwirfoddoli’n caniatáu digon o ryngweithio cymdeithasol i rywun sy’n gobeithio adeiladu ei gysylltiadau.

MAE ARGRAFF GYNTAF YN BWYSIG

Gall ein holl bartneriaid ac ymarferwyr gwirfoddoli ar hyd a lled Cymru adrodd hanesion o brofiadau gwirfoddoli negyddol, fel adeg pan wnaeth unigolyn gynnig ei amser i wirfoddoli, ond na chysylltwyd ag ef, neu wirfoddolwyr nad oedd yn gwybod beth oeddent i fod i’w wneud (weithiau yn ystod y sesiwn gyntaf, weithiau dros yr holl brofiad gwirfoddoli!)

Gwnaeth cydweithwyr drafod pwysigrwydd cael y cam cyntaf hwnnw ar y daith wirfoddoli yn iawn – waeth ai’r e-bost cyntaf y maen nhw’n ei anfon i’ch mudiad yw hwnnw, neu’r tro cyntaf y maen nhw’n siarad â rhywun dros y ffôn neu’r tro cyntaf y maen nhw’n cyrraedd (yn rhithiol neu yn y cnawd) i wneud tasg wirfoddol. Anogir mudiadau i feddwl am sut gallant wneud yn siŵr bod y rhyngweithiad cyntaf yn un positif.

MAE CYFATHREBU’N ALLWEDDOL

O’r cyfarfod cyntaf, i’r holl gyfarfodydd, mae cyfathrebu’n dda â gwirfoddolwyr presennol a phosibl yn helpu i feithrin cydberthnasau positif ac yn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gwybod yn gwmws beth a ddisgwylir oddi wrthynt (sy’n ddefnyddiol iddyn nhw ac yn ddefnyddiol i chi!).

PAWB AT Y PETH A BO

Fel y nodwyd ynghynt, mae pandemig COVID wedi dod â phobl newydd i’r byd gwirfoddoli ac wedi galluogi llawer o fudiadau i newid y ffordd y maen nhw’n gwneud pethau, waeth a yw hynny wedi bod drwy ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli ar-lein, galluogi gwirfoddolwyr i fod yn weithredol o’u cartrefi neu ehangu’r mathau o bethau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud.

Mae hwn yn cynnig cyfle gwych i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i barhau i ehangu eu cynnig gwirfoddoli i wirfoddolwyr, gan ei wneud yn fwy cynhwysol a hygyrch gan hefyd, gobeithio, galluogi mudiadau i ddarparu gwasanaethau gwell a gwneud gwaith gwell.

BETH ARALL ALLWN NI ROI CYNNIG ARNO?

Er ein bod wedi canolbwyntio ar yr hanfodion, nid yw hynny’n golygu nad yw’n bryd rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol. Dywedodd nifer o’r mudiadau sy’n dod i gyfarfodydd y rhwydwaith eu bod yn rhoi cynnig ar ddull recriwtio neu groesawu newydd. I rai, roedd hyn yn golygu rhoi cynnig ar sesiynau blasu i wirfoddolwyr newydd, i eraill, roedd yn golygu adnodd recriwtio digidol.

Os ydych chi’n dod o hyd i rywbeth newydd sy’n gweithio, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu i ddod o hyd i ffordd o rannu eich arbenigedd.

CROESAWU POBL NEWYDD

Popeth yn iawn, medde chi, unwaith rydych chi wedi dod o hyd i bobl i wirfoddoli, ond beth am gael pobl newydd i wirfoddoli? Byddaf yn sgwrsio â chydweithwyr yn ystod y misoedd nesaf i ganfod beth maen nhw’n ei wneud i gael pobl newydd i mewn i wirfoddoli ac yn rhannu fy nghanfyddiadau mewn blog yn y dyfodol.

RHAGOR O WYBODAETH

I gael rhagor o ganllawiau a gwybodaeth am recriwtio gwirfoddolwyr, ewch i Hwb Gwybodaeth TSSW (Cefnogi Trydydd Sector Cymru).

Mae croesawu a recriwtio gwirfoddolwyr yn un o ddangosyddion ansawdd y safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. I ddeall beth a olygir wrth ansawdd da yn y maes hwn, edrychwch ar faes ansawdd pedwar.

Os ydych chi’n fudiad cenedlaethol sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a hoffech ymuno â’n rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer mudiadau sy’n gweithredu yng Nghymru, cysylltwch â’r Tîm Gwirfoddoli yn gwirfoddoli@wcva.cymru.

GWIRFODDOLI CYMRU

Cofiwch mai un o’r platfformau allweddol a hyrwyddir ledled Cymru am gyfleoedd gwirfoddoli yw gwefan www.gwirfoddolicymru.net, felly mae’n werth hyrwyddo eich cyfleoedd yma.

Mae rhai datblygiadau gwych wedi’u gwneud yn ddiweddar i gynorthwyo mudiadau i recriwtio siaradwyr a dysgwyr Cymraeg – felly os yw hwn yn sgil sydd ei angen ar eich mudiad neu’n un yr hoffech weld mwy ohono, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu un o’r bathodynnau Cymraeg newydd!