Delwedd agos o ddau berson yn dal dwylo ac yn cefnogi ei gilydd

Pwysigrwydd gwybodaeth a gwasanaethau cymorth canser

Cyhoeddwyd: 04/02/24 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: Eleanor Jones

Eglura Eleanor Jones, Rheolwr Arloesi Cymunedol Macmillan, bwysigrwydd cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau cymorth canser o’i phrofiad ei hun.

Mae heddiw’n *Ddiwrnod Canser y Byd. Mae Diwrnod Canser y Byd yn codi ymwybyddiaeth o ganser a pha mor bwysig yw hi i bawb gael mynediad at ddiagnosis, triniaeth a gofal canser a all achub eu bywydau.

Y DIWRNOD Y CHWALODD EIN BYD

Mae fy mam yn cael gwybod bod angen iddi gael ei hatgyfeirio ar frys i’r ysbyty. Rydyn ni’n gadael y feddygfa sy’n dweud y byddwn yn derbyn galwad ffôn y prynhawn hwnnw. Alla’ i ddim edrych ar fy mam, mae arna i ofn, ofn ein bod yn mynd i glywed y gair sy’n dechrau gydag ‘C’. Mae’n cael ei derbyn i’r ysbyty. Arhoswn am newyddion. Mae’r ddwy ohonom ni’n gwybod beth sy’n dod.

Rydyn ni’n clywed y geiriau:

‘Mrs Davies, mae gennych chi ganser endometriaidd.’

Chwalodd ein byd.

  • Beth sy’n digwydd nawr?
  • Beth ydyn ni’n ei wneud?
  • A yw’n angheuol?
  • Beth yw’r driniaeth?
  • Pwy all ein helpu ni?
  • Beth ydyn ni’n ei wneud?

Ac yn bwysicach oll, beth yn y byd yw canser endometriaidd?

Cafodd llawer o’r cwestiynau hyn eu hateb, ond nid pob un ohonynt. Fe wnes i lawer o waith ymchwil a chanfod bod modd trin canser endometriaidd a’i fod yn cael ei ddosbarthu yn bedwar categori. Ond roeddwn i’n parhau i deimlo ar goll, d’oedd gen i ddim syniad:

  • Ble i droi?
  • Pwy i ofyn am help?
  • Pwy i siarad ag ef?
  • Beth i’w wneud?
  • Beth sy’n digwydd nesaf?
  • Beth yw’r cynllun triniaeth?

GWYBOD BLE I DROI

Buon ni’n crio, yn cofleidio, yn siarad ac yn sydyn, cawson ni help. Cawson ni ein rhoi mewn cysylltiad â nyrs Macmillan a wnaeth ein helpu ni gyda phopeth. Yn sydyn, roedd gennyf rywun a oedd yn gwybod beth i’w wneud, yn gwybod sut i’m helpu i a’m mam ac, yn bwysicach oll, rhywun a oedd â’r holl atebion roeddwn i wedi bod yn chwilio amdanynt.

Ym mis Rhagfyr, 20 mlynedd yn ddiweddarach, gwelais y nyrs honno mewn cynhadledd yr oeddwn ynddi, ac o’r diwedd, gallais ddiolch iddi am bopeth a wnaeth hi i’m mam a finnau.

Gwnaeth gwybod pa help oedd ar gael a ble i’w gael wneud byd o wahaniaeth ar adeg anodd iawn.

Dyma pam y dewisais fod yn Rheolwr Arloesi Cymunedol Macmillan. Mae angen i bawb wybod pa wybodaeth a gwasanaethau cymorth canser sydd ar gael iddyn nhw pan gânt ddiagnosis. Ni ddylai unrhyw un deimlo ar goll nac yn ofidus; ni ddylai unrhyw un deimlo ar ei ben ei hun.

PROSIECT ARLOESI CYMUNEDOL MACMILLAN

Mae CGGC yn gweithio gyda Macmillan ar hyn o bryd i sicrhau bod gan bobl fynediad cyfartal at wybodaeth a gwasanaethau cymorth canser.

Mae Macmillan yn cynnig amrywiaeth enfawr o *wybodaeth a gwasanaethau cymorth gan gynnwys llinell gymorth, taflenni gwybodaeth a fideos mewn gwahanol ieithoedd.

Mae cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn hanfodol i unrhyw un ar y daith ganser, boed hwnnw’n unigolyn sydd wedi’i ddiagnosio â chanser, aelod o’r teulu, ffrind, neu rywun sydd dim ond eisiau gwybod mwy. Mae gwybodaeth a gwasanaethau cymorth Macmillan yno i bwy bynnag a allai fod eu hangen.

Rhagor o wybodaeth am brosiect arloesi cymunedol Macmillan.

*Gwefannau Saesneg yn unig