Mae Rhun Dafydd yn rhannu ei daith i ddod yn ymddiriedolwr, ac yn annog pobl ifanc i wirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhun Wmffre Dafydd ydw i, dwi’n 25 mlwydd oed. Yn wreiddiol o’r Bontfaen, Bro Morgannwg ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dwi’n eistedd ar fwrdd rheoli Menter Bro Morgannwg, a’r rheswm y penderfynais ymuno â’r bwrdd oedd fy mod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’n hardal.
Bues i’n ddigon ffodus i gael fy magu ar aelwyd Gymraeg ond yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol, prin oedd y cyfleoedd i fy nghyd ddisgyblion gael cyfathrebu trwy’r Gymraeg tu fas i’r ystafell ddosbarth.
CYFLEOEDD I SIARAD CYMRAEG
Roedd y fenter iaith yn fach ar y pryd ond fe roddodd y fenter gyfleoedd i mi fedru cymdeithasu yn y Gymraeg, yn enwedig mewn partneriaethau gyda chyfleoedd yr Urdd.
Ar ôl dychwelyd yn ôl o’r Brifysgol roeddwn yn gweld twf pellach yn addysg y sir, ac roeddwn i eisiau medru cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith heb orfod teithio i mewn i’r ddinas.
Dwi’n gweld rôl y Fenter Iaith yn hanfodol i adfywiad y Gymraeg yn y Fro, trwy gynnig cyfleoedd i’r Gymraeg boed hynny yn gymdeithasol neu yn y gweithle.
Dwi’n helpu gyda gwaith cyfathrebu Cymdeithas y Cymod, mudiad sy’n ceisio codi proffil heddychiaeth yng Nghymru ac amlygu anghyfiawnder byd eang trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r gwaith gyda’r Cymod yn annatod i fy nghredoau fel dinesydd yng Nghymru ac yn rhoi’r cyfle i mi rannu tangnefedd gyda fy nghyd ddyn.
Dwi hefyd yn helpu gyda fy nghlwb rygbi, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ar yr ochr cyfathrebu a phrosiectau cymunedol. Mae hyn yn gyfle i mi roi yn ôl i gamp a chymuned sydd wedi cynnig gymaint i mi.
ADFYWIAD YR IAITH
Mae’r Gymraeg yn ail natur i mi, ond dwi’n credu bod cael defnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw rôl wirfoddol yn hawl i unrhyw un sydd eisiau ei defnyddio neu’n teimlo’n fwy cyfforddus yn ei defnyddio.
Rwyf hefyd yn gweld bod gwaith gwirfoddol yn fodd o godi ymwybyddiaeth y Gymraeg o fewn cymunedau a cheisio ei hyrwyddo fel iaith cwbl naturiol i’w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd.
Dwi’n meddwl bod pobl yn poeni bod swydd fel ymddiriedolwr yn llawer o faich ar unigolyn ond yn y bôn dydi o ddim o bell ffordd. Mae’n gyfle i chi wneud gwahaniaeth i bwnc sy’n agos i’ch calon.
Os ydi gwirfoddolwyr am ddefnyddio’r Gymraeg yn y dyfodol, byddwn yn awgrymu eu bod nhw’n mynnu eu hawl i ddefnyddio’r iaith. Mae’r iaith yn berchen i bawb yng Nghymru ac fe ddylai hi gael ei defnyddio ar bob cyfle posib ac ar unrhyw blatfform.
Mae hi’n bwysig ein bod ni’n ei gwneud hi mor hawdd â phosib i bob person ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn bwysicach fyth fod mudiadau yn galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth wirfoddoli.
Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol i bobl ifanc o gefndiroedd di-Gymraeg sydd bellach wedi gorffen addysg cyfrwng Cymraeg ac sy’n edrych am gyfleoedd i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg.
Am ddarllen mwy o straeon gan pobl sy’n gwirfoddoli’n Gymraeg? Darganfyddwch sut wnaeth gwirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg creu antur i wirfoddolwr a myfyriwr Mared.