Mae Natalie Zhivkova, Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, yn crynhoi’r datblygiadau diweddaraf o ran y gyllideb ddrafft wrth i chwech o naw pwyllgor y Senedd gadw cefn y sector.
Mae wedi bod yn flwyddyn newydd brysur i staff polisi a Phrif Swyddogion Gweithredol mudiadau gwirfoddol. Mae’r sector wedi bod yn cyflwyno achos cryf gerbron Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau lliniaru mewn ymateb i’r cynnydd i ddod yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr (NICs).
Roedd yn wych gweld trafodaeth y Senedd ar y gyllideb ddrafft yn adlewyrchu ein hymdrechion wrth i ofynion y sector gael eu hadleisio mewn argymhellion adroddiadau pwyllgor a’u cwestiynu gan yr wrthblaid.
CYNYDDU’R PWYSAU
Gwnaeth galwadau CGGC barhau i dderbyn sylw cenedlaethol yn y cyfryngau drwy gydol mis Ionawr. Amlygwyd ein pryderon gan *Nation Cymru a *Business News Wales. Cawsom ein gwahodd i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid, a gwnaeth hyn ddenu sylw pellach yn y cyfryngau gan *Wales Online a *newyddion chwech o’r gloch ITV Wales.
Daeth elusennau Cymru ynghyd yn gyflym a rhoi tystiolaeth aruthrol i ni, a wnaeth ein galluogi i gyflwyno achos cryf iawn ar ran y sector. Ond yn ogystal â’r ymdrech gyfunol, gwelsom hefyd rai ymgyrchoedd unigol ardderchog a fachodd sylw’r cyhoedd a gwleidyddion.
ARGYMHELLION PWYLLGOR
Gwnaeth chwech o’r naw pwyllgor Senedd gefnogi pryderon ein sector o ran cynyddu NICs Cyflogwyr. Mae gweld bron pob pwyllgor yn rhoi cefnogaeth a sylw i fater gan y sector gwirfoddol yn beth anarferol iawn. Cafodd y gofynion a wnaethom eu rhestru eu nodi yn y pum prif bwnc craffu ar y gyllideb gan Ymchwil y Senedd eleni. Mae hwn yn dyst i ddifrifoldeb y sefyllfa a phŵer ein llais cyfunol.
Y Pwyllgor Cyllid
Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno asesiad ar yr effaith ar fudiadau gwirfoddol cyn y drafodaeth derfynol ar y gyllideb (argymhelliad 11). Gwnaethant alw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i ddosbarthu cyllid ychwanegol i wasanaethau a gomisiynir a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynnydd (argymhelliad 13)
Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26.
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gofynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am asesiad brys o’r effaith ar fudiadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal a sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cynorthwyo (argymhelliad 20).
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26.
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Galwodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau ar yr effaith ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru i Lywodraeth y DU a diweddaru’r Senedd ar ganlyniad y trafodaethau (argymhelliad 7).
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26.
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lywodraeth Cymru egluro pa gymorth lliniaru ar gyfer y cyfraniadau Yswiriant Gwladol bydd yn ei roi i fudiadau gwirfoddol sy’n darparu ymyraethau rheng flaen tyngedfennol ar gyfer plant a phobl ifanc (argymhelliad 5).
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 – Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Gofynnodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am asesiad o’r effaith ar fudiadau gwirfoddol sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a pha gyfran o gyllid y Gyllideb Ddrafft a glustnodwyd fydd yn cael ei hamsugno gan y cynnydd yn y cyfraniadau Yswiriant Gwladol (argymhelliad 6).
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Er na gyflwynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol unrhyw argymhellion ysgrifenedig o ran yr Yswiriant Gwladol, gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor dynnu sylw at y mater yn ystod y drafodaeth ar y gyllideb ddrafft. Nododd y Cadeirydd nad yw’r Pwyllgor yn gallu asesu a fydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol yn ddigon i wneud iawn am y treuliau uwch. Gofynnodd i Lywodraeth Cymru am eu hasesiad o effaith y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Y DRAFODAETH AR Y GYLLIDEB DDRAFFT
Serch holl gyfraniadau’r pwyllgorau a’r sylwadau angerddol gan siaradwyr yr wrthblaid, ail-gadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ei safbwynt. Gwrthododd gyflwyno mesur lliniaru penodol ar gyfer mudiadau gwirfoddol. Daeth hyn â thon newydd o siomedigaeth i’r sector.
Ar ôl y drafodaeth, enillodd Llafur Cymru bleidlais heb ei rhwymo ar y gyllideb ddrafft, a gynorthwywyd gan ymataliad Jane Dodds AS.
CWRDD AG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS GYFIAWNDER CYMDEITHASOL
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) gwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Mynegodd cynrychiolwyr eu siomedigaeth dros y diffyg strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r effaith negyddol y mae cynyddu’r Yswiriant Gwladol yn ei chael ar y sector gwirfoddol. Amlygodd aelodau’r TSPC nad oes unrhyw gysondeb mewn sut y mae cyrff cyhoeddus yn ymdrin â’r sefyllfa ran chwyddo contractau presennol. Gwnaethant rybuddio y bydd y penderfyniadau anodd y bydd mudiadau gwirfoddol yn cael eu gorfodi i’w gwneud yn cael effaith gynyddol ar y GIG ac ar awdurdodau lleol.
Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet y pryderon a chadarnhaodd y bydd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau a wynebir gan y sector gyda’i chydweithwyr. Gwahoddodd aelodau i gyflwyno enghreifftiau sy’n dangos yr ymatebion amrywiol y maen nhw wedi’u cael gan gyllidwyr cyhoeddus hyn yma. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet mai dogfen ddrafft yw’r gyllideb o hyd a dylai’r sector barhau i awgrymu datrysiadau.
CAMAU NESAF
Rydym eto i weld a fydd Llywodraeth Cymru yn dilyn argymhellion y pwyllgorau ac yn cyflwyno asesiad trwyadl o’r effaith a sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â hi. Bwriedir cyhoeddi’r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror 2025. Bydd trafodaeth a phleidlais derfynol yn cael eu cynnal ar 4 Mawrth 2025.
Darllenwch ein herthyglau blaenorol ar y mater:
CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynyddu’r Yswiriant Gwladol
Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol
Ble mae’r sector gwirfoddol yn y gyllideb ddrafft?
*Saesneg yn unig