Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru sy’n sôn am fanteision cydweithio â mudiadau eraill.
Mae nifer o elusennau yn wynebu her hynod anodd – mae angen eu gwaith yn fwy nag erioed ond maen nhw’n profi colledion incwm gwbl ddigynsail. Gall cymorth y llywodraeth a chymorth unigolion hael helpu i fynd i’r afael â hyn ond bydd angen i elusennau Nghymru barhau i wneud mwy am lai. Bydd partneriaethau strategol yn bwysicach nag erioed wrth i fudiadau geisio dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud eu gwaith hollbwysig.
Mae Covid-19 eisoes wedi pylu’r ffiniau rhwng sectorau gan fod mudiadau masnachol wedi canolbwyntio ar weithio gyda’r GIG ac elusennau i warchod iechyd pobl. Er enghraifft, defnyddiodd y Bathdy Brenhinol eu safle gweithgynhyrchu yn Llantrisant i greu feisors diogelwch i staff y GIG, tra bod Hiut Denim wedi defnyddio eu safle yn Aberteifi i gynhyrchu sgrybs oedd dirfawr eu hangen ar staff y GIG.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn cydnabod cyfyngiadau’r hyn y gallwn ei wneud ar ein pennau ein hunain a’r cyfleoedd i gyflawni mwy drwy gydweithio. Yn hytrach na niweidio brand, gall partneriaethau hefyd helpu mudiadau i dyfu cefnogaeth a dylanwad. Mae elusennau eisoes yn arwain y ffordd gyda phartneriaethau newydd er mwyn arloesi a chyrraedd mwy o bobl, ac mae angen i ni rannu’r dysgu hwn a chreu ecosystem yng Nghymru sy’n cefnogi partneriaethau mwy effeithiol.
Sbarduno arloesedd
Yn Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF), rydym yn adeiladu ar bartneriaethau technoleg cyfredol gyda Freshworks a Microsoft i gryfhau ein llinell gymorth y galon lle gwelwyd cynnydd o 400% yn y galwadau ganol Mawrth. Rydym yn creu ffyrdd newydd i bobl gysylltu â nyrsys y galon BHF gan gynnwys Sgwrs Fyw ac mae gennym gynlluniau am llinell gymorth sgyrsfot.
Drwy weithio gyda’r GIG, rydym hefyd wedi gallu datblygu adnoddau digidol newydd, sef rehab y galon yn y cartref yn absenoldeb gweithgareddau wyneb yn wyneb. Heb weithio gydag eraill, ni fyddai’r BHF wedi gallu datblygu cynnyrch arloesol newydd i gefnogi cleifion pan darodd Covid-19 a’r cyfnod clo.
Un enghraifft o arloesedd mewn gwasanaethau yng Nghymru sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru yw prosiect ‘Together as One’ Leonard Cheshire. Cynyddodd hyn yr amrywiaeth o weithgareddau y gallai pobl anabl gael mynediad atyn nhw ac arbed arian drwy osgoi gwneud popeth yn unigol a chyfuno taliadau uniongyrchol gyda’i gilydd. Datblygwyd y prosiect hwn mewn partneriaeth â Nesta, Prifysgol Caerdydd a thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC.
Gall cydweithio lywio arloesedd am sawl rheswm. Gall gweithio gyda phartner allanol newydd helpu mudiad i ddiffinio a deall sialensiau’r mudiad yn gliriach. Mae cydweithio dod â phobl â gwahanol brofiadau, sgiliau a syniadau at ei gilydd. Nid cefnogi syniadau newydd yn unig y mae partneriaethau ond hefyd y ffyrdd ymarferol o’u rhoi ar waith – er enghraifft, cyfuno adnoddau a lleihau risgiau.
Cynyddu cyrhaeddiad ac effaith
Mae gweithio gyda mudiadau eraill hefyd yn ffordd effeithiol o gyrraedd mwy o bobl. Er enghraifft, mae’r BHF wedi gallu rhoi offer hyfforddi CPR i dros 240 o ysgolion uwchradd yng Nghymru – a thua 5,600 o ysgolion ledled y DU – drwy weithio gyda’r busnes gofal iechyd byd-eang Laerdal. Rydym hefyd wedi gallu cefnogi mwy o ymchwilwyr drwy weithio mewn partneriaeth â chyllidwyr eraill.
Mae elusennau banciau bwyd wedi bod yn effeithiol iawn wrth weithio mewn partneriaeth ag archfarchnadoedd a mudiadau eraill i gynyddu rhoddion a helpu mwy o bobl. Mae Covid-19 hefyd wedi creu cyfleoedd hysbysebu masnachol newydd i rai elusennau drwy eu partneriaethau corfforaethol. Er enghraifft, cyfrannodd Nationwide eu gofod hysbysebu ar deledu i Shelter a roddodd blatfform iddyn nhw gyrraedd cynulleidfaoedd mawr a fyddai wedi costio miloedd o bunnoedd iddyn nhw fel arall.
Gall creu partneriaeth gyda chwmnïau ar ymgyrchoedd marchnata a chyfleoedd nawdd o’r un achos hefyd fod o fudd i elusennau. Mae’n eu galluogi i gyrraedd mwy o bobl a chodi arian ychwanegol ar yr un pryd. Mae partneriaeth CRUK gyda Nivea yn un o’r enghreifftiau gorau o hyn. Gall weithio gyda chwmnïau llai hefyd. Cynhyrchodd y bragdy o Gasnewydd, Tiny Rebel, gwrw ‘Stay Put’ newydd yn ystod y cyfnod clo a chododd dros £30,000 i’r GIG o fewn oriau i’w lansio.
Rhyddhau pŵer partneriaethau
Dydyn ni ddim yn cychwyn o’r dechrau’n deg. Mae gan bob mudiad nifer o berthnasoedd a phartneriaethau fel hyn yn barod. Nid yw’n syniad newydd chwaith. Nododd CGGC cydweithio fel prif flaenoriaeth y sector yn 2019 i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru mewn ffyrdd newydd. Serch hynny, mae effaith Covid-19 ar iechyd a llesiant pobl a’r economi yn golygu bod angen i ni nawr gydweithio’n fwy ac adeiladu partneriaethau cynaliadwy i helpu i ddefnyddio adnoddau prin gyda’r effaith fwyaf.
Mae manteision i’r ddwy ochr sy’n cydweithio – elusennau a mudiadau masnachol. Mae angen i elusennau rymuso ac ymddiried yn eu staff i adeiladu’r perthnasoedd allanol hyn. Gall cyrff buddsoddi trydydd sector hefyd helpu drwy ddarparu cymhellion i gydweithio wrth ddyrannu cyllid – er enghraifft, gofyn am dystiolaeth o weithio mewn partneriaeth wrth ddyfarnu grant penodol i sicrhau cynaliadwyedd. Gyda’n gilydd gallwn greu amgylchedd yng Nghymru lle gall partneriaethau wella a bod o fudd i’r cymunedau rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw.