Mae Lynne Connolly, Rheolwr Helplu Cymru, yn myfyrio ar y datganiad diweddar gan Brif Swyddog Gweithredol ymadawol Helpforce UK am yr effaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
HELPFORCE UK
Yn ddiweddar, bu cyn Brif Swyddog Gweithredol Helpforce UK, Mark Lever, *daflu goleuni ar yr effaith anhygoel mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hyn wedi fy ysbrydoli i feddwl sut mae’r gwersi hyn yn atseinio gyda’n profiadau ni yng Nghymru.
GWIRFODDOLI MEWN IECHYD & GOFAL CYMDEITHASOL: DYSGU O’R PANDEMIG
Fel y nododd Mark, gwnaeth pandemig y Coronavirus danlinellu y gallwn gyflawni mwy drwy weithio mewn partneriaethau cydweithredol yn hytrach na mewn seilos. Daeth gwirfoddolwyr a mudiadau lleol i’r adwy, gan gynnig cymorth hanfodol, rhannu adnoddau a chreu rolau newydd.
Enghraifft nodedig o’r cydweithrediad hwn yw menter wirfoddoli mewn cartrefi gofal gan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg. Dechreuodd hon yn ystod y pandemig ac arwain at ddull mwy rhanbarthol o fynd ati i wirfoddoli yn y cartrefi hyn.
Mae’r profiad hwn yn profi gwerth cydweithio parhaus ar bob lefel a phwysigrwydd manteisio ar arbenigeddau ein gilydd.
PLEDIO’R ACHOS DROS WIRFODDOLI
Nid dim ond trwy gyfri’r oriau mae pennu llwyddiant gwirfoddoli. Mae’n ymwneud â’r gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau, staff a chymunedau, heb sôn am yr effaith ar y gwirfoddolwyr eu hunain.
Mae mesur canlyniadau fel llai o unigrwydd nid yn unig yn cyflwyno achos cymhellgar i gyllidwyr; mae hefyd yn helpu gwirfoddolwyr i ddeall y gwahaniaeth diriaethol y maen nhw’n ei wneud.
I ddysgu mwy am sut i fesur y canlyniadau hyn, edrychwch ar yr adnoddau sydd ar gael gan Gwerth Cymdeithasol Cymru.
MAE DYLUNIAD YN BWYSIG!
Pwysleisiodd Mark fuddion integreiddio gwirfoddolwyr yn effeithiol, gan sicrhau bod staff yn llwyr ddeall rolau gwirfoddolwyr. Mae hyn yn galluogi pawb i ganolbwyntio ar eu cryfderau.
Mae rhannu strategaethau llwyddiannus a dysgu o’n gilydd yn hanfodol. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a dysgu mwy:
- Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwirfoddoli yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Adnodd rhyngweithiol i gynnal ac integreiddio gwirfoddoli ar draws gwasanaethau.
- Ymunwch â Rhwydwaith Helplu Cymru i gysylltu â chydweithwyr o’r un anian sy’n datblygu gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Cysylltwch â Lynne Connolly, Rheolwr Helplu Cymru am ragor o wybodaeth – lconnolly@wcva.cymru.
- Ymunwch â *Rhwydwaith Helpforce UK i gael gafael ar gymuned ar-lein am ddim o weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal a chael gwybod am fforymau, adnoddau a llawer mwy.
Mae prosiect Helplu Cymru a Chomisiwn Bevan wedi cyhoeddi papur sy’n amlygu sut i wella cydweithio rhwng y sector gwirfoddol a’r sector statudol.
CREU DYFODOL CYNALIADWY AR GYFER GWIRFODDOLI
Mae’n werth dathlu’r cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud mewn gwirfoddoli, heb os. Ond mae angen i ni sicrhau bod gan wirfoddoli ddyfodol cynaliadwy. Gallwn wneud hyn drwy gydweithio â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chanolbwyntio ar:
- integreiddio gwirfoddoli mewn modd strategol
- mesur a dangos effaith gwirfoddoli
- rhannu gwybodaeth
- cryfhau partneriaethau cydweithredol
MWY O WYBODAETH
Rhagor o wybodaeth am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
*Saesneg yn unig