Yn yr ail yn ei chyfres o flogiau, mae Karen Chalk, Cyfarwyddwr ‘Circus Eruption’, yn amlygu pwysigrwydd cymryd amser i fyfyrio wrth gynllunio cam nesaf eich mudiad.
O ddydd i ddydd, gall y galwadau ar ein mudiadau a’r amrediad o ystyriaethau a wynebir gan y rheini sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb canolog fod yn llethol. Rydyn ni’n gweithio’n galed, ac rydyn ni’n brysur. Yn aml, mae’n bosibl casglu safbwyntiau a syniadau, neu gael neu fabwysiadu syniad da sy’n dod i’r amlwg, a datblygu’r syniad hwnnw.
Mae hefyd yn bosibl glynu at yr amgylchiadau a’r gweithgareddau cyfredol ac osgoi dulliau cymesurol, cyfrifol o ymdrin â risg. Mae gwneud penderfyniadau, cynllunio a hyd yn oed cyllidebu yn fwy o gelfyddyd ar sail tystiolaeth na gwyddor, ond rwy’n credu bod angen gwneud mwy na thrafod a chael consensws wrth ystyried datblygu mudiad. Wrth i ni fynd ati i feddwl, rwy’n credu y gellir gofyn un cwestiwn newydd – ‘a yw’n ddoeth?’
CAMU NÔL
Mae ein helusen, ‘Circus Eruption’ wedi bod ar daith datblygu strategol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedden ni wedi cynllunio ar gyfer hyn cyn y pandemig, oherwydd roedd prynu lle parhaol ar gyfer ein gwaith yn newid newydd enfawr ar ôl 30 mlynedd o rentu a mannau ar osod i elusennau – ac mae’n hen eglwys, gyda dau ofod mawr, felly mae hefyd yn enfawr yn llythrennol!
Gan yr oedden ni’n ymwybodol bod angen dull newydd arnon ni o gynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn ceisio ymateb i’r anghenion y gallem ni eisoes eu gweld yn dod i’r amlwg (hyd yn oed cyn y pandemig), rydyn ni wedi plymio’n ddwfn i’n llywodraethiant a’n strategaeth, wedi cysylltu â nifer o rwydweithiau a chyrsiau ac – yn araf deg a fesul tipyn – rydyn ni wedi datblygu o fod yn elusen fechan a oedd yn byw o’r llaw i’r genau i fod yn fudiad llawer mwy sefydlog gyda chynllun.
Rydyn ni wedi cael ychydig o lwc ar ein taith yn bendant; mae cefnogwyr a’r gymuned ehangach wedi dangos llawer o haelioni ac ewyllys da, nid dim ond yn ariannol, ond hefyd gyda negeseuon cadarnhaol, cyngor arbenigol, gweithredu ymarferol a chydweithio.
GWNEUD LLE I FYFYRIO A CHYDWEITHIO
Ond, gwnaethon ni hefyd roi ein hunain yn ffordd pawb a allai ein helpu ni!
Ym mis Tachwedd 2018, er enghraifft, chwiliais fy hun ym man theatr yr YMCA yn Abertawe, yn gwrando ar nifer o siaradwyr yn siarad am ‘risg a gwydnwch’ ar yr union adeg roedden ni yng nghanol gwneud gwaith ‘diwydrwydd dyladwy’ sylweddol ar hen adeilad rhestredig Gradd II a oedd wedi bod yn wag a heb ei gynnal a chadw ers rhai blynyddoedd. Roedd yn ddiwrnod amserol a phwysig i ni.
Un o’r pethau a gefais o’r diwrnod hwnnw oedd cysylltiad newydd ffantastig â chynrychiolydd arall yr oeddwn i’n digwydd bod yn eistedd ar ei bwys. Roedd yn arbenigo mewn datblygu eiddo trydydd sector a daeth yn ymddiriedolwr yn y pen draw (!). Yr ail beth oedd cysylltiad newydd â Busnes Cymdeithasol Cymru.
Yn drydydd, rwy’n cofio Ann-Marie Pyart (cyfarwyddwr yr YMCA bryd hynny) yn siarad am ei thaith ac effaith y rhaglen ‘pilotlight’ ar ailddatblygiad yr YMCA. Ac, yn olaf ond nid lleiaf, rwy’n cofio cyfarwyddyd ynghylch sicrhau bod llywodraethiant yn ei le ac yn cael ei ystyried yn briodol.
Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ers hynny wedi’i drwytho mewn prosesau a dod yn fyw drwy gamau gweithredu – ond ni fyddai hyn wedi digwydd o gwbl pe na fydden ni wedi creu’r capasiti i mi gymryd cam yn ôl, ystyried ein hopsiynau, myfyrio ar ein cyfeiriad a chydweithio ag eraill i sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd.
Mae gennym ni gysylltiad parhaus â Busnes Cymdeithasol Cymru, ac mae’r cyngor a’r cymorth rydyn ni wedi’i gael gan ein cynghorydd yno wedi bod yn dyngedfennol. Rydyn ni bellach wedi cwblhau ein rhaglen ‘pilotlight’ ein hunain, mae dau ohonom ni wrthi’n dilyn rhaglen ‘Camau i Gynaliadwyedd’ yr Academi Mentrau Cymdeithasol, ac rwy’n rhan o garfan gyntaf rhaglen Arweinwyr Profiadol Cymru ‘Clore Social Leadership’. Rydyn ni wedi adnabod a llenwi bylchau ar ein bwrdd a’n tîm staff.
SYMUD YMLAEN…
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ewyllys y mudiad i feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a pham ein bod yn ei wneud. Mae cymaint o gyngor ac arweiniad ar gael – cwrs neu raglen i bob sefyllfa – ac rydyn ni’n dangos ein bod yn eu gwerthfawrogi! – ond wrth wraidd unrhyw gynnydd, unrhyw newid, dylid gofyn rhai cwestiynau sylfaenol – yn gyffredinol, mae’r rhain yn bethau fel:
- A yw hyn yn iawn?
- Ai nawr yw’r amser gorau?
- A oes pobl eraill wedi gwneud hyn o’r blaen; beth allwn ni ei ddysgu?
- A yw hyn yn cyd-fynd â’n gwerthoedd ni?
- A yw’n dyblygu neu’n effeithio’n negyddol ar unrhyw ddarpariaeth arall?
- A yw’n gweddu â’n hamcanion? Os nad yw, a ddylem ni newid ein hamcanion?
- Pa amserlen fyddai’n addas ar gyfer hyn, ac a yw’n bosibl?
- Beth ddylen ni ei wneud os na fydd yn gweithio?
- Sut byddwn ni’n gwybod a yw wedi gweithio?
- A all unrhyw un arall ddysgu o’n profiad; os felly, sut gallwn ni rannu hyn?
Er bod camau gweithredu ymarferol da sydd angen i ni eu cymryd i wneud cynnydd – pethau fel uwchsgilio a chysylltu, cydweithio, cynllunio – y tu ôl i’r rhain mae’r cwestiwn pwysicaf oll, sef ‘A yw’n ddoeth’?
Yn aml, mae ein dulliau yn rhai rhagweithiol, ymatebol, ‘bwrw iddi’, ac rwy’n credu y gallai ein mudiadau fod yn gryfach, yn fwy digynnwrf ac yn fwy cynaliadwy pe bai’r cwestiwn hwn yn un sylfaenol.
Gallwch chi ddysgu mwy am ‘Circus Eruption’ ar eu gwefan.
BWRSARIAETH ARWEINYDDIAETH WALTER DICKIE
Derbyniodd Karen Chalk Fwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie 2019. Nod y fwrsariaeth gan CGGC yw helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.
Mae bwrsariaeth arweinyddiaeth 2021 ar agor nawr am geisiadau. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar Fwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Chwefror 2022.
MWY GAN KAREN CHALK
Dycnwch a chreadigedd – neu, yr hyn a oedd eu hangen arnon ni i ddal ati!