interniadia newydd cggc yn gwenu

Pump o gynghorion ar gyfer creu meddiannaeth ryngweithiol dan law gwirfoddolwyr

Cyhoeddwyd: 06/07/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Iris & Emma

Pan feddiannodd dwy hyrwyddwraig gwirfoddolwyr CGGC, Iris ac Emma, gyfrif Trydar Gwirfoddoli Cymru yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, gwelodd cyfrif @VolWales gynnydd sylweddol yn ei ymgysylltiad a’i gyrhaeddiad. Yma, mae’r ddwy’n rhannu eu prif gynghorion ar gyfer creu meddiannaeth lwyddiannus dan law gwirfoddolwyr!  

Beth yw ‘meddiannaeth’ a pham ddylech chi ymgymryd ag un?

Profiad wedi’i drefnu gan fudiad neu gwmni er mwyn cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol yw meddiannaeth dan law gwirfoddolwyr. Ceir gwahanol raddau o ymglymiad yn ystod meddiannaeth, ac mae hyn i chi a’ch mudiad benderfynu yn ei gylch.

Tra’ch bod chi fel gwirfoddolwr yn cael y cyfle i ennill mewnwelediad i ddulliau gweithredu’r mudiad a datblygu’ch sgiliau, mae’r mudiad yn elwa o waed newydd yn llifo trwy’i wythiennau.

Gall y cyfle i ryngweithio ag unigolion na fyddai’r mudiad fel arfer yn ymgysylltu â nhw gynorthwyo i hyrwyddo’i agenda yn ogystal. Bydd gwirfoddolwyr, yn enwedig yn achos y cenedlaethau iau, yn aml yn cwblhau’u tasgau â brwdfrydedd ac angerdd, sy’n amlwg i’r gynulleidfa.

Sut mae dechrau ar feddiannaeth fel gwirfoddolwr?

Os ydych chi’n wirfoddolwr ac yn awyddus i gynnal meddiannaeth, yna siaradwch â’ch cydlynydd gwirfoddolwyr.

Fe ddylen nhw allu eich cynorthwyo ymhellach ymlaen a’ch rhoi mewn cysylltiad â’r person sy’n gyfrifol am gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich mudiad. Dylai meddiannaeth gynnwys deialog barhaus rhwng y mudiad a’r gwirfoddolwr yn ogystal â dealltwriaeth o roliau’r ddwy ochr.

Nawr, mae’r cyfan hyn yn swnio’n grêt, ond beth os ydych chi fel gwirfoddolwr wedi cael cais i feddiannu, ond nad oes gennych chi syniad sut i wneud? Gall y syniad o gyfathrebu’ch syniadau i holl gynulleidfa mudiad fod yn frawychus – cannoedd, miloedd o bosibl, o bobl. Felly dyma ni i’ch cynorthwyo gyda 5 o gynghorion hawdd ar sut i gynnal meddiannaeth dan law gwirfoddolwyr!

  1. BYDDWCH YN YMWYBODOL O’R HYN SY’N DDISGWYLIEDIG OHONOCH

Fel soniwyd, mae cyfathrebu da rhwng y mudiad a’r gwirfoddolwr yn hanfodol ar gyfer meddiannaeth lwyddiannus.

Mae’n bwysig bod y mudiad yn darparu amlinelliad clir o sut yr hoffen nhw i’r feddiannaeth edrych, gan wahaniaethu’n glir rhwng aelodau o staff y mudiad a’r gwirfoddolwyr.

Mae hyn yn sicrhau bod yr holl aelodau’n teimlo’n gyffyrddus ynglŷn â’r feddiannaeth, a bod y gwirfoddolwyr yn teimlo’n hyderus ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei wneud.

Tra dylid cytuno ar y gweithgareddau penodol yr ymgymerir â hwy yn ystod y feddiannaeth rhwng y mudiad, y tîm o staff a’r gwirfoddolwyr, rydym wedi amlinellu rhai syniadau o’r hyn y gallwch wneud:

  • Creu cynnwys ar gyfer y feddiannaeth, gan gynnwys erthyglau, blogiau, fideos, cyfweliadau a phostiadau cyfryngau cymdeithasol
  • Drafftio cynllun cynnwys y cyfryngau cymdeithasol
  • Darparu’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhannu postiadau a rhyngweithio â defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol
  • Adolygu’r profiad meddiannu
  1. CYNLLUNIWCH, CYNLLUNIWCH A CHYNLLUNIWCH ETO

Rydych chi am i’ch cynnwys ymddangos mor organig â phosibl, ond mae’n ddefnyddiol cael amlinelliad i’w ddilyn am dri rheswm allweddol.

Y cyntaf yw oherwydd bod angen i chi sicrhau bod rhywun yn bresennol i rwydweithio â defnyddwyr.

Gan ddibynnu ar eich amser a hyd yr ymgyrch, gallwch ymwneud ag un neu fwy o blatfformau yn ogystal â gosod amser ar gyfer meddiannu.

Os oes mwy nag un gwirfoddolwr (sy’n cael ei argymell yn gryf er mwyn i chi allu helpu’ch gilydd) gallech ymrwymo i wahanol slotiau amser.

Yn ail, er mwyn teimlo’n hyderus wrth feddiannu, mae’n bwysig eich bod wedi paratoi eich cynnwys o flaen llaw. Byddwch yn teimlo’n fwy cyffyrddus o wybod fod eich mudiad yn cytuno â’ch agweddau.

Mae canolbwyntio ar bwnc penodol neu thema arbenigedd yn lle gwych i ddechrau a chreu cynnwys. Gall drafftio cynllun cynnwys y cyfryngau cymdeithasol fod o gymorth pellach wrth godi’r pwysau yn ystod y feddiannaeth.

Y rheswm olaf dros gynllunio’ch postiadau yw oherwydd eich bod am weld ymgysylltiad da! Os rhowch wybod i bobl pryd fydd y feddiannaeth yn digwydd, a pha bwnc fydd yn berthnasol, byddwch yn cynyddu’r siawns o ryngweithio.

Ffordd wych o ennyn ymgysylltiad ar y dechrau yw trwy gael postiad cychwynnol sy’n eich cyflwyno’ch hunain. Bydd hyn yn cynefino’r defnyddwyr â’r feddiannaeth ac yn gwahodd llwyth o ryngweithio yn syth bin!

  1. BYDDWCH YN YMWYBODOL O FATERION CYFOES

Trydedd ffordd hawdd o sicrhau meddiannaeth dda yw diweddaru’ch hunain ynglŷn â materion cyfoes.

Allwch chi ddim cynllunio ar gyfer popeth; gall digwyddiadau a sefyllfaoedd annisgwyl ddigwydd drwy’r amser, gan darfu ar yr ymgyrch.

Mae’n hanfodol, felly, eich bod yn eich diweddaru’ch hunain ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, fel bod modd i chi deilwra’ch postiadau yn ôl yr angen.

Cofiwch wirio gyda’ch mudiad ynglŷn â’u polisi ar gynnwys â gogwydd gwleidyddol hefyd!

  1. SICRHEWCH FOD GENNYCH DÎM CEFNOGI WRTH LAW

Cyngor yw hwn ar gyfer y mudiad sy’n cynnal y feddiannaeth. Gall fod yn anodd gwybod sut i wreiddio gweithredu cymdeithasol gan bobl ifanc yn eich mudiad, ond, yn ffodus i chi, rydym ni a nifer o bobl eraill yma i’ch helpu!

Os bydd sefyllfa annisgwyl yn codi, neu os bydd rhywun yn gwneud sylwad negyddol, gall gwirfoddolwyr deimlo allan o’u dyfnder. Gall fod o gymorth mawr, felly, os oes tîm cefnogi ar gael sy’n cynnwys staff wrth law i gynnig cymorth mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Maen nhw wrth law i helpu gyda gwybodaeth ynglŷn â pholisïau’r mudiad a’i gyfryngau cymdeithasol. Yn sicr nid yw’n rhan o ddisgrifiad meddiannaeth i orfod rheoli argyfwng.

Ceir mwy o adnoddau defnyddiol ar sut i ymgorffori gweithredu cymdeithasol gan bobl ifanc yn eich mudiad yma.

  1. BYDDWCH YN CHI EICH HUN!

Mae’n swnio fel ystrydeb, ond does dim gronyn o amheuaeth mai dyma’r cyngor pwysicaf! Os gadewch i’ch cynllun, materion cyfoes neu’ch tîm cefnogi ymyrryd yn ormodol yna caiff eich llais personol ei golli ymysg llu o leisiau eraill.

Tra’i bod yn hawdd disgyn i’r rhigol o geisio ffurfio’r ymateb perffaith i sylwad, ein cyngor gorau ni yw i osgoi gorfeddwl. Peidiwch â gadael i ansicrwydd ynglŷn â brandio a ffurfioldeb sefydliadol lesteirio’ch personoliaeth yn llwyr.

Tra’i bod, wrth gwrs, yn bwysig dros ben eich bod yn ymwybodol o strwythur y feddiannaeth, nid oes angen i lais meddiannaeth gydymffurfio â llais arferol y mudiad.

Holl bwynt meddiannaeth yw cyflwyno persbectif arall i blatfform, felly gadewch i’ch angerdd ddisgleirio; bydd hyn yn siarad mwy â’r defnyddwyr nag unrhyw beth arall!

Cofiwch gael hwyl!                  

Yn olaf, ac, o bosibl, yn bwysicaf, cofiwch gael hwyl. Dylai meddiannaeth wneud i chi deimlo’ch bod yn cael eich gwerthfawrogi a bod gennych sgiliau gwerth eu rhannu. Ni ddylai beri i chi deimlo o dan straen nac yn bryderus.

Os cewch chi’r cyfle i gymryd rhan mewn meddiannaeth, rydym yn argymell eich bod yn mynd amdani! Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau, byddwch yn dysgu wrth wneud.

Roedden ni’n sicr o’r farn ei fod yn fodd cyffrous o gyfathrebu â chymuned wirfoddoli sydd wedi’i hymgysylltu!