Korina Tsioni, Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd yn CGCC, sy’n blogio am ffyrdd i sicrhau nad yw ansawdd yn diflannu oddi ar agenda eich mudiad chi yn ystod argyfwng COVID-19.
Mae sicrhau ansawdd yn bwysig i fudiadau’r sector gwirfoddol. Mae angen i ni fod yn siŵr ein bod yn darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i’r bobl a wasanaethwn, boed hynny drwy gyflawni’r marciau ansawdd cydnabyddedig neu drwy weithio’n unol â safonau cytunedig y sector.
Gall sicrhau ansawdd edrych fel rhywbeth dianghenraid yng nghanol argyfwng pan fo mudiadau yn brwydo i ddarparu eu gwasanaethau, heb sôn am ddim byd arall. Mae hi cyn bwysiced ag erioed, fodd bynnag, i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn cyrraedd y safonau sy’n ddisgwyliedig ohonom.
Mae cadw ar ben eich gwaith llywodraethu, rheoli a monitro yn golygu y byddwch yn gweithredu’n gyson ac yn ddiogel ac y byddwch yn barod i wynebu unrhyw newidiadau dirybudd yn eich amgylchedd proffesiynol, a phrofi canlyniadau.
Dyma ambell i syniad ar gyfer dod i ben â’ch gwaith sicrhau ansawdd yn ystod argyfwng COVID-19:
- Estyn allan at fudiadau eraill, rhannu a dysgu
Mae addasu i’r sefyllfa newydd a’i gofynion yn her i bob un ohonom. Ledled Cymru, cynyddodd ymholiadau am wirfoddolwyr yn aruthrol wrth i fudiadau orfod newid ar fyrder y ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau.
Nid yw’n beth rhwydd i’w wneud bob amser, ond mae estyn allan, rhannu profiadau da a dysgu oddi wrth fudiadau tebyg, yn arfer ardderchog.
Mae mudiadau wedi troi at eu cynghorau gwirfoddol lleol, ac wedi uno â phartneriaid newydd, er mwyn gallu parhau i weithio mewn capasiti newydd. Mae partneriaethau newydd wedi dod i’r amlwg a ffurfiwyd sawl grwp gwirfoddol anffurfiol dros dro, ar raddfa leol, er mwyn diwallu anghenion pobl.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw mewn cysylltiad â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol. Gall eich helpu mewn nifer o ffyrdd.
- Defnyddio technoleg i fonitro’r effaith a gewch
Mae monitro a chofnodi yn hynod bwysig, gan fod hyn yn eich helpu i amlygu’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r elfennau y mae angen eu gwella. Gellir defnyddio tystiolaeth i gyflawni marc ansawdd, i adrodd i’ch arianwyr, i hyrwyddo eich gwaith yn ehangach i fuddiolwyr a phartneriaid, neu i ymgeisio am gyllid newydd. Fodd bynnag, mae monitro yn cymryd llawer o amser ac ni fydd hyn yn flaenoriaeth i chi, o bosib, pan fyddwch wrthi’n brysur yn delio ag argyfwng!
Ffordd syml a chyflym iawn o fonitro a chofnodi, pan fo hynny’n bosib, yw trwy ddefnyddio technoleg: recordio fideo, tynnu lluniau, recordio llais rhywun yn siarad am eu profiad.
Wrth gwrs, bydd angen caniatad cyn ffilmio pobl, ond nid oes raid cynnwys pobl yn y darnau hyn o ffilm, os nad ydynt yn dymuno ymddangos ynddynt. Byddwch yn greadigol.
Gall y lluniau neu’r fideos gynnwys bwyd, offer, adeilad, cerbydau – unrhyw beth i gefnogi datganiad i’r wasg neu astudiaeth achos fer. Er enghraifft, gwnaed y fideo hwn gan FareShare a CGG Castell-nedd Port Talbot i ddangos sut y maent yn cefnogi’r gymuned yn ystod y pandemig.
Os oes diddordeb gennych mewn hwyluso eich gwaith o fesur effaith, darllenwch y blog hwn gan Mair Rigby, ein Rheolwr Llywodraethu a Diogelu.
- Uchafbwyntiau’r dydd – cadw nodyn dyddiol
Hyd yn oed os nad ydych wedi llwyddo eto i gyrraedd eich targedau, mae monitro cynnydd hefyd yn ffordd dda i brofi i chi eich hun, eich buddiolwyr, eich partneriaid a’ch arianwyr bod eich mudiad yn wydn iawn ac y gellwch oresgyn anawsterau.
Ceisiwch nodi yn ddyddiol uchafbwynt eich diwrnod, hyd yn oed os mai gwaith ar y gweill yw hynny. Mae hon yn ffordd dda o adnabod patrymau, o danlinellu cysyniad eich nod a’ch gweledigaeth fel mudiad ac, yn y pen draw, i gael syniadau am ffyrdd o ddangos canlyniadau eich arfer da.
Bydd cadw nodyn beunyddiol o rywbeth yn eich ymarfer sydd wedi sefyll allan, yn atgyfnerthu eich ymroddiad ac yn cynyddu cymhelliant hefyd.
- Siarad gyda’r asesydd /ymgynghorydd a llunio cynllun
Os ydych chi yn y broses o weithio tuag at farc ansawdd, neu os ydych yn adnewyddu marc, dylai fod arbenigwyr ar gael (eich aseswyr neu ymgynghorwyr) i weithio gyda chi ar lunio cynllun i wneud y defnydd gorau posib o’ch adnoddau chi ac amser y staff yn ystod yr argyfwng.
Gall rolau newid, gall amserlenni newid, a gall dulliau cyflenwi newid – ond er hynny, gall llunio cynllun hyblyg eich cadw chi a’ch cydweithwyr yn hyfyw, ar lefel bersonol a phroffesiynol.
Bydd diffyg cyswllt wyneb yn wyneb yn rhoi cyfle, o bosib, i’ch mudiad chi fyfyrio a gwneud gwaith papur nad oedd gennych yr amser i’w wneud o’r blaen. Gallai rhannu tasgau a gweithio mewn timau helpu gyda chymhelliant a chefnogi iechyd meddwl a lles.
- Gwneud nodiadau ar gyfer meysydd i’w gwella
Mae hunanwerthuso yn ddefnyddiol iawn os yw’n onest! Yn ystod pandemig anodd, mae’n bosib y cewch gyfle i adnabod meysydd yn eich ymarfer y gellid gwella arnynt. Nodwch y rheiny hefyd, a rhowch nhw o’r neilltu am y tro. Bydd yn ddefnyddiol gweithio ar y meysydd hynny ar ôl i’r argyfwng fynd heibio.
Bydd gweithio mewn modd strategol ar eich gwendidau yn eich helpu i wella eich ymarfer a hwyluso’r gwaith tuag at gyflawni marc ansawdd. Gall nodi’r meysydd gwanaf eich cyfeirio at y partner cywir i ategu eich camau gweithredu, a goleuo eich cynlluniau at y dyfodol o ran ceisiadau am gyllid a recriwtio.
Dechrau ar y gwaith o Sicrhau Ansawdd a Mesur Effaith
Os ydych chi’n fudiad gwirfoddol, gellwch ddefnyddio’r Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel fframwaith i wella eich ymarfer o ran rheoli eich gwirfoddolwyr.
Os mai elusen ydych, a’ch bod eisiau gweithio ar eich llywodraethu trwy ddefnyddio dull cyfannol, edrychwch ar Trusted Charity Essentials, pecyn ar-lein yr NCVO. Mae’n fframwaith syml, sy’n rhad ac am ddim, ar gyfer arferion llywodraethu rhagorol.
Gellwch ddefnyddio’r uchod fel rhestr gyfeirio neu fel man cychwyn i drafodaeth gyda’ch cydweithwyr.
Os carech wella’ch proses o fesur Effaith, mae llawer o adnoddau i’w cael yn rhad ac am ddim ar wefan Inspiring Impact https://www.inspiringimpact.org/
Heriau ariannol
Os yw eich mudiad yn wynebu anawsterau ariannol, mae cronfa argyfwng wedi’i rhyddhau gan CGGC, er mwyn cefnogi’r sector gwirfoddol.
Fe wyddom am yr holl waith rhyfeddol a wneir yn lleol trwy gydweithio, a chan bartneriaethau hen a newydd, a byddem yn eich annog i ymgeisio am unrhyw gyllid sy’n addas ar eich cyfer chi.
Rydym hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi amrywiaeth o fudiadau, felly sylwch ein bod yn barod i weld rhagor o fudiadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a mudiadau cam-drin domestig, yn ymgeisio am y cyllid hefyd.
Os nad yw pethau’n gweithio i chi, ac os nad yw’r cyllid yn gallu diwallu eich anghenion, bydd CGGC a’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol hefyd yn falch o glywed oddi wrthych, ac yn ceisio eich helpu gorau y gallant. Rydym eisiau gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd!
Mae Korina yn gweithio ar brosiect Sicrhau Ansawdd i CGGC gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am sicrhau ansawdd yn ein sector ni yng Nghymru, ac ymchwilio i hoffterau ac anghenion y sector. Byddai’n hapus i ddarparu gwybodaeth am y prosiect ac, yn benodol, am farc ansawdd Elusen Ddibynadwy a Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Cysylltwch â hi gyda’ch ymholiadau, syniadau neu feddyliau:
Ktsioni@wcva.org.uk
Trydar: @korinations