Ar ôl i ragor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ddod i’r amlwg, rydym yn diwedariad i chi am yr hyn a wyddom hyd yn hyn.
Lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol Brosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ebrill 13, ychydig cyn y cyfnod cyn etholiad a ddechreuodd ar Ebrill 14. Rhoddodd y cyfarwyddyd cyn-lansio a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, amlinelliad sylfaenol o sut fydd y Gronfa’n ariannu ac yn cael ei reoli, a phwy fydd yn gwneud y penderfyniadau. Bydd y prosbectws yn cynnig gweddill y manylion ynglŷn â dyddiadau, dyraniadau a manylion pellach ynglŷn â’r mathau o ymyraethau mae’r Gronfa’n bwriadu ei gefnogi.
BLAENORIAETHAU A PHOLISI
Mae gan y Gronfa dair blaenoriaeth buddsoddi: cymuned & lle, cefnogi busnes lleol a phobl & sgiliau. Mae llawer o’r hyn a gyfeiriwyd ato yn chwarae ar gryfderau’r sector – gwella llesiant, cynyddu ymgysylltiad â’r gymuned leol a diwylliant a chynyddu tâl, cyflogaeth a chynhyrchiant (yn enwedig ar gyfer y sawl sydd bellaf o’r farchnad lafur). Caiff cyfran sylweddol o’r ariannu ei glustnodi ar gyfer y rhaglen rhifedd i oedolion ar draws y DG,sef Multiply.
NId o fewn polisi trosfwaol y mae’r heriau ar gyfer y sector yn gorwedd, ond yn hytrach yn y perygl o ddatgysylltiad rhwng yr uchelgais a osodwyd yn y polisi a’r llywodraethiant ymarferol, ymgysylltiad a chyflenwad y Gronfa.
AWDURDODAU ARWEINIOL
Un o’r cwestiynau na wyddom yr ateb iddo o hyd yw (ac na fyddwn yn gwybod am rai wythnosau oherwydd y cyfnod cyn-etholiadol) yw pwy fydd yr awdurdodau arweiniol yn y pedwar rhanbarth a sut gynnydd fydd y trafodaethau hyn yn eu gwneud o fewn Llywodraeth leol.
Mae’r awdurdodau lleol yn fan canolog i lawer o weithgarwch y Gronfa. Byddant yn derbyn dyraniad yr ardal i reoli, cymryd gofal o ddatblygu Cynllun Buddsoddi’r Rhanbarth, asesu a chymeradwyo ceisiadau ac ymgysylltu â phartneriaid lleol – gan gynnwys cynrychiolwyr y sector gwirfoddol.
YMGYSYLLTIAD Â’R SECTOR GWIRFODDOL
Mae’r prosbectws yn glir ar yr angen i ymgysylltu ac ymglymu â phartneriaid lleol yn natblygiad Cynlluniau Buddsoddi’r Rhanbarth, gan gynnwys y modd y byddant yn gweddu’n strategol gyda pholisi a darpariaeth gyfredol. Bydd gofyn i awdurdodau sy’n arwain ymgynnull partneriaeth leol, gan sicrhau fod unrhyw banel yn hollol gynrychiolgar ac os yw panel sy’n bodoli eisoes yn cael ei ddefnyddio, fod y cylch gorchwyl yn diwallu anghenion y Gronfa’n gywir.
Gan bob awdurdod arweiniol mae’r hawl i ddewis union gyfansoddiad y bartneriaeth, ond caiff y sector gwirfoddol ei restri fel partner allweddol yn y prosbectws. Hyd yn oed gyda’r cyfarwyddwyd yma, ceir perygl o hyd bydd y sector yn cael ei esgeuluso a bydd y CGGC yn parhau i wthio am i’r sector gael sedd gyfartal o amgylch unrhyw fwrdd sy’n gwneud penderfyniadau.
SWYDDOGAETH LLYWODRAETH CYMRU
Mae’r prosbectws hefyd yn dangos arwyddion peth cynnydd ynglŷn â swyddogaeth ac ymglymiad Llywodraeth Cymru yn y Gronfa. Er bod ei ran wedi lleihau’n sylweddol o gymharu â’i swydd fel corff rheoli o dan Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru’ gyhoeddus yn anghefnogol o’r mwyafrif o’r hyn sy’n cael ei argymell o dan y Gronfa, fe fydd hi’n rhan o fforwm gweinidogol ar hyd y DG i gefnogi cyflenwi’r Gronfa a bydd yn cefnogi datblygiad Cynlluniau Buddsoddi’r rhanbarthau ac yn mynychu’r holl bartneriaethau lleol.
O dan y rhaglenni Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogwr brwd ac yn eiriolydd ar ran y sector gwirfoddol. Gobeithiwn bydd eu swydd yn natblygiad cynlluniau a phartneriaid lleol yn helpu cryfhau safle’r sector ac ymglymiad gyda’r Gronfa.
CYMORTH GALLU
Nodyn cadarnhaol arall yn y prosbectws yw ymrwymiad Llywodraeth y DG i chwilota’r angen am gymorth gallu ar gyfer llywodraeth leol a phartneriaid eraill er mwyn uchafu cyrhaeddiad a buddsoddiad y Gronfa. Gallai hyn fod yn debyg i’r cymorth technegol sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd gan y Timoedd Ymgysylltu Rhanbarthol (TYRh), y CGGC a Thîm Ewropeaid y Drydedd Sector (3-SET), o dan reolau rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru. Mae’r gwerthusiad 3 SET ddiweddaraf yn dangos fod y sector yn perfformio ar ei orau pan fydd yn cael ei gefnogi’n gywir a bod adnoddau’n dod iddo gan swyddogaeth cymorth sydd wedi ei osod o fewn y sector.
GRADDFEYDD AMSER A’R CAMAU NESAF
Caiff cynlluniau buddsoddi eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf, gyda ffenest ar gyfer cyflwyno yn agor ar ddiwedd mis Mehefin ac yn cau ar Awst 1. Mae Llywodraeth y DG yn disgwyl asesu’r cynlluniau dros yr haf a chyhoeddi cymeradwyaeth o fis Hydref gyda’r taliadau cyntaf yn cael eu gnwued cyn bo hir iawn wedi hynny. O ystyried profiadau diweddar gyda chronfeydd newydd Llywodraeth y DG (fel y Cronfeydd Adfywio Cymunedol a Pherchnogaeth Cymunedol), ymddengys y graddfeydd amser hyn ychydig yn optimistaidd. OS ydym wedi dysgu unrhyw beth gan y CRF, yr hyn a ddysgom yw bod yr ansicrwydd sydd yn gysylltiedig gyda’r cronfeydd mawr newydd ar hyd y DG yn anochel yn mynd i achosi oedi.
Dyma un o bryderon mwya’r sector. Mae’r sector gwirfoddol yn derbyn swm sylweddol o arian gan raglenni Ewropeaidd yng Nghymru ac fe fydd y rhan fwyaf ohono wedi mynd erbyn diwedd y flwyddyn. Mae rhai projectau eisoes wedi gorffen a heb unrhyw beth addas i gymryd eu lle o ran ariannu yn weithredol eto, bu rhaid iddyn nhw adael staff profiadol i fynd a chau gwasanaethau. Cafodd trefniadau dros dro eu hargymell ynn Lloegr ac mae CGGC wedi codi’r angen am drefniant tebyg yng Nghymru gyda Llywodraeth y DG.
Er mwyn derbyn mwy o ddiweddariadau fel hyn a gwahoddiadau i sesiynau briffio ariannu a digwyddiadau eraill yn y dyfodol, byddwch cystal ag ymuno â’n rhestr bost Diweddariadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU newydd.