Dr Karen Salt a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn cyfnewid sylwadau ar gydgynhyrchu.

Potensial trawsnewidiol cydgynhyrchu

Cyhoeddwyd: 26/06/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: David Cook

Mae David Cook, Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o’r Gynhadledd Genedlaethol ddiweddar ar Gydgynhyrchu.

Dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu dylunio mewn partneriaeth â’r bobl sy’n eu defnyddio, yn hytrach na chael eu gorfodi ar gymunedau. Dyna gydgynhyrchu yn ei hanfod.

Mae CGGC yn credu’n gryf mewn cydgynhyrchu. Rydym yn amlygu’r buddion i benderfynwyr ledled Cymru, rydym yn cysylltu mudiadau sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn modd cydgynhyrchiol ac mae gennym ein grŵp Hyrwyddwyr Cydgynhyrchu mewnol ein hunain, sy’n cynghori staff ar bopeth sy’n ymwneud â chydgynhyrchu.

Rydym yn frwd iawn yn ei gylch, felly roeddem yn llawn cyffro i fynd i’r Gynhadledd Genedlaethol ddiweddar ar Gydgynhyrchu a gynhaliwyd gan Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, a ddaeth â phobl ynghyd o sectorau amrywiol.

Roeddent yn awyddus i ddysgu mwy am sut gall cydgynhyrchu gael ei roi ar waith yn well ledled Cymru a gwneud bywydau pobl yn well.

Gwendolyn Sterk, Prif Swyddog Gweithredol Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, yn croesawu cynrychiolwyr i’r diwrnod.

RÔL HANFODOL CYDGYNHYRCHU

Dechreuodd y diwrnod gydag anerchiad gan Brif Swyddog Gweithredol Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Gwendolyn Sterk. Amlygodd fod fwyfwy o ddealltwriaeth o beth yn gwmws yw cydgynhyrchu a beth all ei wneud, ond amlygodd hefyd pa mor gyndyn yw llawer o benderfynwyr i gofleidio’r hyn sydd ei angen i wneud y gwahaniaeth y gallai ei wneud.

Dilynwyd hyn gan fideo byr gan Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Siaradodd am y rôl hanfodol sydd gan gydgynhyrchu i’w chwarae mewn cyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn llwyddiannus. Trafododd hefyd sut mae’n darparu’r sylfeini ar gyfer y Weledigaeth newydd ar gyfer Gwirfoddoli, a fydd yn cael ei lansio yn gofod3, digwyddiad am ddim CGGC, ym mis Gorffennaf.

DIM CYDGYNHYRCHU, DIM DATRYSIADAU

Nesaf daeth ‘sgwrs cil pentan’ rhwng yr academydd, Dr Karen Salt a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ar sut mae cydgynhyrchu yn cael ei roi ar waith. Nododd Dr Salt ‘nad yw dysgu cyfranogol yn cael ei drosi’n ymarferol yn aml’, a nododd y Comisiynydd ‘nad yw Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cyrraedd y pwynt rydyn ni eisiau iddi fod’.

Os na chaiff y datrysiadau i broblemau Cymru eu cydgynhyrchu, ni ellir datrys y problemau mawr. Gwnaethant siarad am bwysigrwydd sicrhau bod ‘moeseg gofal’ yn treiddio trwy gydgynhyrchu.

Mewn panel arall, nodwyd ba mor hawdd yw hi i syrthio’n ôl i’r drefn o ddim ond hysbysu pobl am wasanaethau, yn hytrach na mynd ati’n wirioneddol i gydgynhyrchu’r rhain gyda nhw. Amlygwyd hefyd faterion o ran symud o gyllid seiliedig ar grantiau i gyllid sy’n seiliedig ar gomisiynu, sy’n creu mwy o gystadleuaeth ac yn mygu cydweithio.

YMWELD Â’R ORACL

Dilynwyd hyn gan weithdai, araith ar y grefft o hwyluso cydgynhyrchu, ac yna panel arall, y tro hwn ar y pwnc o roi cydgynhyrchu ar waith, lle y gwnaeth pobl sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus a gyd-gynhyrchir drafod eu profiadau.

Cafwyd ymweliad â’r *‘Oracl Cydgynhyrchu’, sy’n defnyddio cardiau i helpu pobl i feddwl am safbwyntiau newydd i gydgynhyrchu, gweithio gyda’i gilydd mewn modd cydweithredol a chael mwy o ddealltwriaeth o heriau cydgynhyrchu.

Ar ôl y digwyddiad, nododd Sara Sellek, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phobl CGGC: ‘gwnaeth y gynhadledd ein hatgoffa mewn modd pwerus i gydweithio, ystyried profiadau bywyd ac i rannu’r berchnogaeth dros lunio gwasanaethau sy’n wirioneddol gweithio i bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru. Gadawais i’r gynhadledd gydag egni newydd, mewnwelediadau ymarferol, a mwy o ddealltwriaeth o botensial trawsnewidiol cydgynhyrchu.’

GWERSI A DDYSGWYD

Beth wnaethom ni ei ddysgu felly? Wel, gwnaethon ni ddysgu mwy am y rôl sylfaenol y mae’n rhaid i gydgynhyrchu ei chwarae mewn creu gwasanaethau cyhoeddus gwydn. Gwnaethom ni ddysgu am rwystrau, o’r diffyg cefnogaeth ddiwylliannol i brinder amser, adnoddau a hyd yn oed ymddiriedaeth ar brydiau rhwng partneriaid.

Gwnaethom ni ddysgu nad yw cydgynhyrchu bob amser yn hawdd, mae’n cymryd amser ac ymdrech i weithio mewn modd cwbl gydweithredol, ond os caiff hyn ei wneud yn iawn, mae’r gwobrau yno i bawb. A gwnaethom ni ddysgu os oes gennych chi broblem gymhleth iawn, mae’n ddefnyddiol cael oracl wrth law.

Roedd hwn yn ddiwrnod defnyddiol ac ysbrydoledig iawn i bawb â diddordeb mewn cydgynhyrchu a sut gall effeithio ar newid positif. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod!

AM FWY O WYBODAETH

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith ar gydgynhyrchu, cysylltwch â gofalaciechyd@wcva.cymru. Ac am ragor o wybodaeth am waith y sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ewch i dudalen we’r Prosiect Iechyd a Gofal.

Mae CGGC yn ymateb i ymgynghoriad diweddar y Senedd ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, lle byddwn yn rhoi rhai sylwadau ar weithredu’r Ddeddf. Pan fydd yn barod, byddwn yn postio ein hymateb ar ein tudalen Ymgynghoriadau.

*Saesneg yn unig