Mae ein Pennaeth Ymgysylltu, Elen Notley yn crynhoi’r prif fewnwelediadau o’r pôl piniwn diweddaraf sy’n awgrymu tirwedd wleidyddol gyfnewidiol cyn Etholiad 2026 y Senedd.
A hithau’n un flynedd union tan Etholiad 2026 y Senedd, cynhaliodd ITV Cymru Wales drafodaeth amserol a mewnweledol yn y Senedd, gan ddatgelu eu pôl piniwn Barn Cymru diweddaraf. Gyda theimladau’r pleidleiswyr yn symud yn sydyn a dull bleidleisio newydd yn cael ei gyflwyno, amlygodd y digwyddiad lanw newidiol gwleidyddiaeth Cymru a’r angen tyngedfennol am ymgysylltiad a dealltwriaeth gyffredinol.
Wedi’i gadeirio gan Olygydd Gwleidyddol ITV Cymru Wales, Adrian Masters, roedd y panel yn cynnwys Dr Jac Larner o Brifysgol Caerdydd a Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) Cymru. Gyda’i gilydd, aethant ati i ddadansoddi pôl sy’n creu darlun o dirwedd wleidyddol ansicr.
Y MEWNWELEDIADAU DIWEDDARAF
Awgryma amcanestyniad y pôl fod symudiad seismig:
- Plaid Cymru: 35 sedd
- Reform UK: 30 sedd
- Llafur: 19 sedd
- Ceidwadwyr: 9 sedd
- Democratiaid Rhyddfrydol: 3 sedd
- Y Blaid Werdd: 0 sedd (gyda’r potensial i ennill 1)
Y duedd fwyaf trawiadol yw’r gostyngiad dramatig mewn cefnogaeth i Lafur a’r gefnogaeth uwch i Reform UK, gyda llawer o gyn-bleidleiswyr y Ceidwadwyr bellach yn cefnogi Reform. Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn elwa ar symudiad sylweddol ymhlith cyn-bleidleiswyr Llafur, gyda 33% o’r rheini a arferai bleidleisio dros Lafur bellach yn nodi eu bod yn symud i Plaid.
Amlygodd Jess Blair fod ‘llawer iawn o gyfnewidioldeb’ ym mwriadau’r pleidleiswyr a rhybuddiodd bleidiau i beidio â bod yn rhy hunanfodlon nac yn rhy bryderus, oherwydd gallai’r dirwedd symud eto cyn diwrnod yr etholiad. Nododd Dr Jac Larner fod yn well gan bleidleiswyr yn amlach na pheidio gefnogi’r rheini sydd, yn ôl pob golwg, yn geffylau blaen, sy’n golygu y gall y pleidleisiau eu hunain ddylanwadu ar ymddygiad pleidleiswyr.
Awgryma’r pôl fod llywodraeth glymblaid yn debygol iawn. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd i’r sector gwirfoddol ddylanwadu ar fwy nag un blaid i gyflawni nodau a rennir. Ond mae hefyd yn golygu y bydd angen mwy o amser ac egni i feithrin y cydberthnasau hynny.
Ynghyd â hyn, gyda’r pôl yn edrych yn wael i Lafur a llawer o ASau Llafur yn datgan na fyddant yn sefyll eto, bydd llawer o aelodau Senedd newydd i weithio gyda nhw. Efallai mai ychydig iawn fydd rhai yn gwybod am y sector, a gallai eraill fod wedi gweithio o’i fewn. Bydd angen i ni adeiladu cydberthnasau’n gyflym a rhannu’r hyn y mae’r sector yn ei wneud.
HER NEWID
Gyda newidiadau i’r system bleidleisio ar y gorwel, pryder allweddol arall yw cyfathrebu. Bydd pleidleiswyr yn dewis pleidiau bellach yn hytrach nag ymgeiswyr unigol. Mae’n hanfodol sicrhau bod pobl yn deall y newid hwn cyn iddynt gamu i mewn i’r bwth pleidleisio. Heb negeseuon clir, mae llawer yn pryderu y gallai’r dryswch hwn fod yn niweidiol.
Mae gennym ni fel sector rôl allweddol mewn cysylltu â phobl sy’n teimlo wedi’u hepgor neu eu hanwybyddu. Hwn yw ein cyfle i helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth ac i ddod â’u lleisiau i mewn i drafodaethau gwleidyddol.
LLE I GYDWEITHIO?
Er bod y ffigurau yn awgrymu y gallai Plaid Cymru, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol ffurfio mwyafrif llywodraethol, nododd y panel y bydd didwylledd ynghylch clymbleidiau posibl yn allweddol. Yn ddiddorol, er bod gwrthwynebiad cryf ymhlith pleidleiswyr Reform i ymuno â’r Ceidwadwyr, mae cefnogwyr Plaid, Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy agored i gydweithio’n gyffredinol.
Mae ITV Cymru yn bwriadu cynnal o leiaf un pôl piniwn arall eleni, ac os yw’r tueddiadau presennol yn dangos unrhyw beth i ni, dim ond megis dechrau mae stori’r etholiad hwn.
BETH MAE HYN YN EI OLYGU I’R SECTOR GWIRFODDOL?
Wrth i’r dirwedd wleidyddol ddatblygu, rhaid i’r sector gwirfoddol baratoi ar gyfer dynameg newydd yn y Senedd. Mewn amgylchedd fwyfwy gyfnewidiol, mae ymgysylltiad gwleidyddol clir a chynhwysol yn bwysicach nag erioed. Gall mudiadau helpu drwy gyfathrebu’r newidiadau i’r system bleidleisio i’w defnyddwyr gwasanaethau ac annog cyfranogiad, yn enwedig ymhlith cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae’r llwybr i 2026 wedi’i orchuddio ag ansicrwydd, ond hefyd cyfle. Trwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf a sicrhau ein bod yn cael ein cynnwys, gall y sector gwirfoddol lunio democratiaeth fwy cynhwysol a chyfranogol yng Nghymru.
CAMAU NESAF
Eisiau dysgu mwy am yr hyn y gallai’r newidiadau i system etholiad y Senedd ei olygu i’ch mudiad chi a’r cymunedau rydych yn eu cefnogi?
Ymunwch â ni yn gofod3 am y digwyddiad Senedd 2026: Newidiadau, Effaith a Maniffestos. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar ddiwygiadau i ddod, sut gallent effeithio ar y sector a beth i’w ddisgwyl gan faniffestos pleidiau wrth i ni agosáu at yr etholiad.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan gofod3.