Am y pumed tro’n olynol, mae NewLink Cymru wedi derbyn nod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr gan CGGC, ar ôl bod y sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn y Dyfarniad yn 2005. Dyma Laurence Shanahan o Newlink i esbonio mwy.
Mae’r Dyfarniad yn cydnabod ein hymrwymiad parhaus i’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw ar draws ein prosiectau, ac yn helpu i ddangos ein penderfyniad i barhau i arloesi, i gynnal safonau uchel, ac i wneud yr hyn a wnawn yn well nag erioed o’r blaen.
Y bobl sy’n bwysig
‘Rhan bwysicaf rhedeg ein prosiectau yw bod â dealltwriaeth glir o bawb sydd yno,’ eglura Mel, cydlynydd ein rhaglen Mentora â Dysgu ac Addysg, sy’n paratoi pobl sy’n adfer ar ôl heriau lles ar gyfer gwirfoddoli a gweithio yn y sector lles. ‘Does dim un dull sy’n addas i bawb; mae’n rhaid i chi weithio yn ôl sgiliau a chryfderau pob gwirfoddolwr. ’
Canolbwyntio ar gryfderau, anghenion a galluoedd unigol sydd wrth wraidd y ffordd rydyn ni’n gweithio, yn ogystal â gonestrwydd llwyr a bod yn agored gydag aelodau ein prosiect. Mae ein proses asesu yn caniatáu i ni leoli pobl yn y prosiectau sy’n mynd i weithio orau iddynt yn ystod eu cam presennol o adfer. Mae hyn yn golygu os nad yw unigolion yn barod ar gyfer y prosiect roedden nhw’n gobeithio cyfrannu ato, gallwn eu cynnwys mewn gwaith a fydd yn eu helpu i gymryd cam ymlaen.
‘Mae defnyddio’r ffordd hon o weithio yn golygu y gallwn bob amser gynnig cyfleoedd i bobl sy’n rhai cyraeddadwy, ac sy’n addas ar eu cyfer nhw fel pobl,’ esbonia Erwan, cydlynydd y prosiect NewSteps, sy’n fan cychwyn i bobl sy’n dechrau eu taith adfer. ‘Mae’n rhan fawr o feithrin eu hyder a’u hunan-gred, ac mae hynny’n gwbl hanfodol i’w twf.’
Allwedd arall i’r elfen hunan-gred hon yw gallu pobl i reoli eu lles eu hunain a’r prosiectau a’r gwasanaethau maen nhw’n rhan ohonyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi canolbwyntio arno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig gyda’n Grŵp Llais a Dewis a’n rhaglen Buzzin Buddies.
Mae Buzzin Buddies yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr ac aelodau eraill o’n prosiectau gynorthwyo â’r gwaith o redeg ein prosiect cadw gwenyn, Buzzin, ac i annog aelodau eraill i helpu hefyd. Grŵp o aelodau prosiect yw Llais a Dewis sy’n rhoi adborth ar brosiectau o safbwynt y rhai sy’n gysylltiedig â nhw, gan helpu i ddatblygu’r prosiectau hynny a dylanwadu ar ein dull cyffredinol o weithredu. Mae’r ddau grŵp yn adnodd hynod werthfawr ac yn helpu i sicrhau bod ein prosiectau yn gweithio ar gyfer y bobl y dylen nhw fod bob amser.
Beth mae’r nod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ei olygu i ni?
Mae’r nod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ffurfio rhan o enw da a hunaniaeth ein gwasanaethau, ac mae hefyd yn helpu i ddangos i asiantaethau partner ein bod yn gweithio’n galed i sicrhau ansawdd ein prosiectau. Ar gyfer ein gwirfoddolwyr lleoliadau allanol sy’n chwilio am waith yn y sector lles, mae hefyd yn dangos eu bod wedi’u hyfforddi a’u paratoi i safon uchel, ac mae’n helpu i ychwanegu at yr ymdeimlad o falchder maent yn ei deimlo ar ôl cwblhau ein rhaglenni.
Mae hefyd yn bwysig i ddarparu set graidd o feincnodau fel sail i dwf ein prosiectau yn y dyfodol; gwaelodlin i anelu ati ac i’w chynnal.
‘I ni, cyflawni’r nod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw ein ffordd o ddangos faint rydyn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd gwirfoddoli a chydnabod gwerth gwirfoddolwyr yn ein helusen ac ar draws y sector’ meddai’r cyn-Brif Weithredwr John Lowes. ‘Mae pobl anhygoel yn rhoi o’u hamser i helpu i gefnogi achosion da, a gall profiad gwirfoddoli da wneud cymaint o wahaniaeth i’r sefydliadau a’r gwirfoddolwyr eu hunain.
Sicrhau’r safonau gwirfoddoli gorau, drwy Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, yw un o’r ffyrdd y gallwn ddweud ‘diolch’ ac ymrwymo i hwyluso’r cyfleoedd mwyaf gwerth chweil.’
Beth sydd nesaf ar gyfer ein prosiectau?
Yn ddiweddar, mae NewLink Cymru wedi dod yn rhan o Platfform, yr elusen dros iechyd meddwl a newid cymdeithasol. Mae ychwanegu ein prosiectau at ystod eang o brosiectau Platfform yn ein galluogi i fod yn rhan o dîm sydd hyd yn oed yn gryfach, a chael mwy o rym dros les a sicrhau newid.
NODIADAU:
- Yr elusen dros iechyd meddwl a newid cymdeithasol yw Platfform. Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl, ac yn gweithio gyda chymunedau sydd am greu gwell cysylltiadau, perchenogaeth a lles yn y llefydd maen nhw’n byw. www.platfform.org
- Mae NewLink Cymru yn elusen lles sy’n gweithio gydag unrhyw un yr effeithiwyd arnynt gan ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd a lles, neu sydd mewn perygl o hynny. Cenhadaeth yr elusen yw helpu i adeiladu newid cadarnhaol a chynaliadwy hirdymor ar gyfer unigolion a chymunedau. www.newlinkwales.org.uk
- I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Cyfathrebu NewLink Cymru, Laurence Shanahan: laurence.shanahan@newlinkwales.org.uk neu 029 20 529 002