group of people sitting on grass together in sunset

Peidiwch â gofyn am wirfoddolwyr – rhowch nhw ar daith Cyfalaf Cymdeithasol yn lle

Cyhoeddwyd: 26/02/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Andy Green

Fel rhan o agoriad yr Wythnos Cyfalaf Cymdeithasol, aiff Andy Green o’r fenter gymdeithasol Grow Social Capital ati i egluro beth yw’r ddau gwestiwn gwaethaf y gallwch chi eu gofyn mewn cymunedau, a sut allech ail-eirio eich sgwrs.

Y ddau gwestiwn gwaethaf y gallwch chi eu gofyn yn y byd yw: 

‘Oes rhywun eisiau gwirfoddoli?’

Ac yn waeth nag unrhyw gwestiwn gwael arall:

‘Ydych chi eisiau ymuno â’r Pwyllgor?’

Y broblem fawr yw, os ydych yn ceisio cyflawni newid yn y byd, mae angen i chi gysylltu, ymgysylltu a chynnwys pobl eraill.

Nid ynys mo dyn.

Eto i gyd, os ydych eisiau cyflawni newid cynaliadwy go iawn yn y byd, mae angen i chi wneud mwy fyth. Mae angen i chi feithrin llwyth o wneuthurwyr newid er mwyn cyflawni’r gwahaniaeth a’r weledigaeth rydych chi’n eu rhannu drwy fagu eu hyder, adeiladu eu gallu ac ehangu eu cysylltedd.

Ond mae unrhyw un sy’n gweithio gyda chymunedau’n gwybod y rhwystredigaethau, yr heriau a’r rhwystrau o geisio cael pobl i wneud pethau. Peidiwch byth â gofyn am wirfoddolwyr. Byddwch chi’n darganfod yn fuan y bydd pobl yn rhedeg milltir pan fyddwch chi’n gofyn iddynt ‘ymuno â’r pwyllgor’.

Cyfalaf cymdeithasol – yr ocsigen mewn cymunedau

Er mwyn gwireddu unrhyw botensial cyfunol mewn datblygu cymunedol, mae angen i chi ddeall y darlun ehangach. Mae angen i chi ddarganfod sut mae’r ocsigen sy’n gwneud i ryngweithio cymdeithasol ddigwydd yn derm cyfarwydd ond nid yn un sydd wedi’i ddeall yn llwyr eto – ‘Cyfalaf Cymdeithasol’.

Mewn unrhyw ryngweithiad cymdeithasol, rhaid cael rhyw lefel o ymddiriedaeth, ymdeimlad o ‘gallaf fyw ochr yn ochr â’r bobl eraill hyn neu weithio gyda nhw’. Y gred y ‘gallai fod gennym rywbeth yn gyffredin’, diddordeb cyffredin, diben gyffredin, awydd cyffredin am newid.

Cyfalaf Cymdeithasol sy’n darparu’r agosatrwydd hwn – ecosystem os hoffech chi – o sut rydyn ni’n byw neu’n gweithio gyda’n gilydd, sut rydyn ni’n cyd-fodoli, yn cydweithio neu’n hyd yn oed cydweithredu i wneud i bethau ddigwydd.

Gellir deall Cyfalaf Cymdeithasol orau drwy sylweddoli fod tri math gwahanol:

Cyfalaf Cymdeithasol Pontio yw lle rydych chi’n cysylltu â phobl debyg: pobl â’r un cefndir, diddordebau neu ddyheadau neu debyg. Y newyddion da yw ein bod yn llawer mwy cysylltiedig â phobl fel ein hunain nawr, diolch i dechnoleg. Mae rhywun sy’n rhannu’r un farn wleidyddol â chi neu sy’n dwli ar West Highland Terriers neu wau fel chi ond megis clic i ffwrdd.

I’r gwrthwyneb, mae Cyfalaf Cymdeithasol Cysylltu yn ymwneud â chysylltu â phobl sy’n annhebyg i chi, lle byddwch, oherwydd amgylchiadau, yn rhyngweithio â’r bobl ar hap, rhywun y byddwch yn cwrdd ag ef mewn tafarn leol, wrth arhosfan bysiau, mewn ciw yn y siop sglodion, neu rywun sydd â phlant sy’n digwydd mynd i’r un ysgol ag eich rhai chi.

Y newyddion drwg yma yw ein bod yn cysylltu llai a llai â phobl sy’n anhebyg i ni. Diolch i dechnoleg newidiol, ynghyd â gwahanol dueddiadau cymdeithasol ac economaidd, nid ydym yn cymysgu â’n gilydd cymaint, a gwelwn fyd sy’n rhannu’n unedau bach fwyfwy unigolyddol – gan arwain at fwy o unigrwydd, llai o ymddiriedaeth a mwy o fwlch rhyngom ni â phobl sy’n anhebyg i ni.

Y paradocs yw sut mae’r twf mewn Cyfalaf Pontio yn creu byd lle rydych dim ond yn ymhél â phobl sy’n union fel chi, ac mae perygl y bydd hyn yn arwain at fod yn llai goddefgar, yn llai amyneddgar neu’n llai empathetig tuag at y rheini sy’n annhebyg i chi.

Yn olaf, ceir y Cyfalaf Cymdeithasol Rhwymo, y teimlad o uniaethu’ch hun gydag ymdeimlad o le neu grŵp, fel eich cymdogion, cyd-aelodau o’ch tîm neu gefnogwyr achos cyffredin. Mae eich ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth yn darparu cyfeirbwynt ar gyfer sut rydych chi’n eich diffinio ac yn disgrifio’ch hun: ’Rwy’n cefnogi United neu City, rwy’n frodor o Gaerhirfryn neu’n frodor o Swydd Efrog, yn siaradwr Cymraeg’ ac ati.

Gall rhannu’r un ymdeimlad hwn o hunaniaeth rymuso rhywun – er da ac er drwg – a gall gyflwyno ffordd gyflym o bennu pwy y gellir ymddiried ynddo mewn byd cymhleth a dryslyd. Hyd yn oed yma, gyda mwy o symudedd daearyddol a llai o ymgysylltu cymunedol, rydym yn gweld llai o Gyfalaf Cymdeithasol Rhwymo.

Wrth symud ymlaen, mae angen i ni feithrin cydberthnasau sy’n mynd y tu hwnt i gydnabod ein gilydd (er, gall hyn yn ei hun fod yn eithaf arwyddocaol) er mwyn creu rhwymau dyfnach o gyd-ymddiriedaeth a rhyng-ddibyniaeth.

  1. Gall taith eich cydberthynas fynd yn debyg i hyn:
  2. Gwnaethoch chi gydnabod bodolaeth unigolyn arall
  3. Gwnaethoch chi siarad ag unigolyn arall
  4. Gwnaethoch chi wrando ar unigolyn arall
  5. Rydych chi’n gwybod enw unigolyn arall
  6. Rydych chi’n adnabod yr unigolyn arall nawr a rhai manylion personol amdano
  7. Gwnaethoch chi gytuno i gwrdd eto
  8. Rydych chi’n rhannu’r un diddordebau
  9. Rydych chi’n teimlo y gallwch weithio ochr yn ochr â’r unigolyn arall
  10. Gallwch chi wneud rhywbeth gyda’ch gilydd i wneud eich byd yn lle gwell
  11. Rydych chi’n hoffi’r unigolyn arall 

Model Manceinion

Wedi’i ysbrydoli gan waith yr elusen iechyd meddwl, Mind Gogledd-orllewin Lloegr – a gyflwynodd ffordd ymlaen newydd a gwahanol o ddarparu gwasanaethau cynghori ar lesiant meddwl o ansawdd mewn cyfnod o gynni – mae ‘Model Manceinion’ yn darparu ffordd ymlaen bosibl ar gyfer unrhyw un sydd eisiau creu newid yn ein cymunedau. Mae’n defnyddio proses pum cam.

Yn gyntaf, rydych chi’n nodi’r pethau sy’n gyffredin rhyngoch chi ag eraill: eich diddordebau, gwerthoedd ac uchelgeisiau cyffredin, lle gallwch ddatblygu nodau cyffredin.

Yn ail, rydych chi’n sefydlu ‘partneriaethau o bobl gydradd’: partneriaethau sy’n parchu ei gilydd fel pobl gydradd. Gall partneriaeth fod yn derm chwerthinllyd mewn gwaith adfywio, lle’r gwir amdani’n amlach na pheidio yw eu bod yn ‘bartneriaethau o bobl anghydradd’.

Yn drydydd, rydych chi’n creu dangosfwrdd mwy o faint o’r hyn rydych chi’n ceisio ei gyflawni: sut gallwn ni weithio’n gydweithredol i gyflawni pob un o’n nodau, yn hytrach na gweithio ar ein pennau ein hunain?

Yn bedwerydd, rydych chi’n gweithio ar adeiladu gallu eich cymunedau drwy fagu eu hyder, adeiladu eu gallu ac ehangu eu cysylltedd.

Yn bumed, rydych chi bob amser yn gofyn am rywbeth. Gwneir hyn yn rhannol er mwyn creu adnoddau ychwanegol. Y peth lleiaf y gallech ofyn amdano yw adborth – i’ch galluogi chi i dyfu, ceisiwch gael eich achos wedi’i hysbysebu ar lafar, neu rhannwch unrhyw ddysgu gydag eraill er mwyn ehangu eich effaith.

Eto i gyd, y rheswm mwy sylfaenol dros ofyn am rywbeth yw i newid y naratif: os nad ydych chi’n gofyn, yna’r cwbl ydych chi yw dewines garedig sy’n chwifio’i hudlath i newid eraill. Mae gofyn am rywbeth yn dechrau meithrin diwylliant lleol o gyfnewid.

Fodd bynnag, mae cael pobl i gyfrannu yn newid eich naratif i un am stori o agosatrwydd a rennir; o sut gallwn greu’r newid rydyn ni’n ei ddymuno gyda’n gilydd. Mae newid y naratif o ‘ddioddefwr’ i un am arwr hunan-drawsnewidiol yn darparu ysbrydoliaeth ar unwaith, yn ogystal â llwyfan ar gyfer newid cymunedol gwirioneddol gynaliadwy y gellir ei raddio.

Mae sylweddoli sut mae Cyfalaf Cymdeithasol wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn ein galluogi ni i ddeall ein gwaith yn well, a sut mae’n gweithio mewn gwirionedd. Mae’n rhoi mwy o nerth i’n breichiau drwy ddilysu a chyfreithloni gweithgareddau sy’n gallu cael eu heithrio, eu hepgor neu eu hanwybyddu’n aml a lle na chaiff noddwyr a’r llywodraeth ddeall pam eu bod yn methu â chyflawni’n amlach na pheidio. Y ‘canlyniadau meddal’ hynny sy’n gallu bod yn anodd eu mesur a chael tystiolaeth ar eu cyfer, ond y gellir synhwyro’n hawdd eu bod wedi digwydd. Gallai Cyfalaf Cymdeithasol fod yn gysyniad sy’n eich galluogi chi i gyfleu mewn modd gwell a mwy argyhoeddedig pam a sut mae canlyniadau meddal mor bwysig ymhlith eich etholaethau o weithredwyr, defnyddwyr gwasanaethau, cyd-gynhyrchwyr ac ati.

Trwy ddefnyddio gwersi ‘Model Manceinion’ i fagu hyder, adeiladu gallu ac ehangu cysylltedd, rydym yn creu budd cyfalaf cymdeithasol go iawn, sy’n harneisio cyfalaf cymdeithasol pontio, cysylltu a rhwymo, gan ein galluogi ni’n hunain ac eraill i fod yn fwy hunan-ddibynnol, i ddod at ein gilydd, i gydweithredu a chyd-greu er mwyn creu byd gwell.

Ac mae’r daith honno’n dechrau drwy beidio â gofyn am wirfoddolwyr na’u gwahodd i ymuno â’r pwyllgor. Yn hytrach, nodwch dasgau bach hawdd, yn ddelfrydol rhywbeth y byddai pobl yn ei hoffi neu rywbeth na fyddent yn ei ystyried yn rhy feichus. Mae hon yn ffordd fwy clyfar a llawer mwy cynhyrchiol o adeiladu Cyfalaf Cymdeithasol a llwybr ymgysylltu, gyda’n gilydd.

Menter gymdeithasol yw Grow Social Capital a sefydlwyd gan yr arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus, Andy Green, a’r ymarferwr datblygu cymuned profiadol, Russell Todd

Maen nhw eisiau cydweithio â chymunedau – o ran daearyddiaeth, hunaniaeth a diddordebau a rennir – i ddechrau chwyldro Cyfalaf Cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae agoriad yr Wythnos Cyfalaf Cymdeithasol y mae’r blog hwn yn ei lansio yn ceisio canolbwyntio, rhannu a harneisio dealltwriaeth – ond uwchlaw popeth, chwilfrydedd – ynghylch y cysyniad o Gyfalaf Cymdeithasol. 

Gallwch ddilyn Grow Social Capital yn @growsocialcapit, a chadwch lygad allan drwy’r wythnos ar Twitter am yr hashnod #SocialCapital – gyda sgwrs trydar yn digwydd ar ddydd Iau 27 Chwefror am 12:30

Mae croeso i chi hefyd ymuno â sianel agored Grow, sianel Slack i hyrwyddwyr cyfalaf cymdeithasol.