Mae profiad COVID-19 wedi creu mwy o awydd ymhlith mudiadau i gydweithio mwy. Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru, yn edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth ‘basbortau’ gwirfoddolwyr a sut allem ni gael budd o ddatblygu mwy o brosesau gwirfoddoli ar y cyd.
PASBORT GWIRFODDOLWR – BETH YW HWN?
Mae pasbort yn darparu manylion rhywun, a gaiff eu cadarnhau gan un mudiad a’u derbyn ar air mudiad arall. Mae hyn yn galluogi symudiad haws rhwng y naill a’r llall heb angen dyblygu prosesau gweinyddol.
Gall ymwneud â chadarnhau pwy yw gwirfoddolwr, neu ymwneud â statws y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Neu gall fod yn gofnod o hyfforddiant sydd wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, neu esemptiad grant i wirfoddolwyr yn sgil gorfod ailadrodd pynciau sylfaenol pan fydd yn symud i rôl wirfoddoli newydd. Gall gynnwys yr holl bethau hyn a mwy!
Gall fod yn ddogfen syml a gedwir gan y gwirfoddolwr, neu’n broffil cyfrinachol ar-lein ar blatfform gwe, y gellir ei rannu neu ei lawrlwytho fel y bo’n briodol. Mae opsiynau mwy technegol yn cynnwys defnyddio cod QR i gael gafael ar wybodaeth a gedwir yn ddiogel mewn man storio yn y cwmwl ac sy’n annibynnol o unrhyw blatfform gwe penodol.
Ym mhob achos, mae’n ymwneud â gwybodaeth bersonol sy’n gorfod cael ei thrin yn unol â’r egwyddorion diogelu data.
PAM PASBORT?
Mae rhai manteision amlwg dros ei gwneud hi’n haws i wirfoddolwyr symud rhwng gwahanol leoliadau neu fudiadau:
Yn gyntaf – cyflenwad a galw. Os oes gan un mudiad angen mawr am wirfoddolwyr (efallai o ganlyniad i argyfwng) a bod digon o wirfoddolwyr ar gael yn rhywle arall, mae’r hyblygrwydd i allu cynnwys gwirfoddolwyr lle y mae eu hangen heb orfod ailadrodd llawer o brosesau gweinyddol recriwtio a hyfforddi yn amlwg yn ddefnyddiol.
Yn ail – profiad y gwirfoddolwr. I rai, mae gwirfoddoli’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gael profiad ymarferol (ac i lawer o bobl ifanc, mae cyfleoedd o’r fath wedi’u llesteirio gan y pandemig). Mae treulio amser gyda gwahanol fudiadau, mewn gwahanol leoliadau a sectorau, yn rhoi amrediad llawer ehangach o brofiadau i gael cipolwg arnynt.
MAE’R CWBL YN YMWNEUD AG YMDDIRIEDAETH
Yn gyntaf, bydd angen bod yn eglur ynghylch pa fath o wybodaeth y byddech chi’n hapus i dderbyn gair rhywun arni a chan ba fudiad(au).
A yw’n ymwneud â galluogi gwirfoddolwyr i symud o un rôl i’r llall o fewn yr un mudiad, neu rhwng mudiadau tebyg – fel Byrddau Iechyd Gwahanol – neu rywbeth ehangach na hynny?
Po ehangach yw’r diben, pwysica’n byd fydd hi i ni gael rhyw safon gyffredin gytunedig, sy’n rhoi ystyr i’r ‘pasbort’. Er enghraifft, beth yn union mae cadarnhau pwy yw rhywun yn ei olygu? A yw cwblhau hyfforddiant ar ‘gyfathrebu’ yn golygu’r un peth i’ch mudiad chi ag i fy un i – a oes gennym ni bwynt cyfeirio cyffredin – boed hynny’n safon gytunedig anffurfiol neu’n gymhwyster a gaiff ei wirio’n annibynnol.
Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth (neu gytundeb cyfwerth) rhwng mudiadau penodol yn un ffordd o sicrhau bod cyfrifoldebau o ran gwirfoddolwyr yn cael eu rhannu, yn cael eu cynnwys yn ddigonol ac nad ydynt yn cael eu dyblygu. Fodd bynnag, gall negodi cytundebau unigol yn ei hun gymryd cryn amser.
Gall mudiadau seilwaith fel Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs), neu drydydd partïon eraill, chwarae rhan bwysig mewn darparu gwasanaethau gwirio a hyfforddi cyffredin y mae gwahanol bartïon yn ymddiried ynddynt. Nid ‘pasbort’ yn union, ond eto i gyd yn enghraifft o brosesau ar y cyd a fabwysiadwyd yn eang yn ystod pandemig COVID-19 ac sy’n cyflawni rhywbeth tebyg.
DATBLYGIADAU CENEDLAETHOL
Mewn ymateb i argymhellion Danny Kruger AS yn ei adroddiad ‘Levelling up our communities: proposals for a new social covenant’ (Saesneg yn unig), mae opsiynau technegol amrywiol yn cael eu harchwilio yn Lloegr a allai gyflwyno goblygiadau i bob rhan o’r DU. Byddwn ni’n cadw llygad ar y gwaith hwn.
Yng Nghymru, rydyn ni’n edrych ar botensial gwefan Volunteering-Wales.net i alluogi gwybodaeth i gael ei rhannu, fel dilysu pwy ydynt, statws DBS a chyflawniadau hyfforddi. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ddod â’r safonau cyfredol a’r adnoddau perthnasol ynghyd mewn un lle hygyrch er mwyn cynorthwyo gwirfoddolwyr ym maes iechyd a gofal.
FFRAMWAITH AR GYFER GWIRFODDOLI YN Y MAES IECHYD A GOFAL
Mae Helpu Cymru CGGC, Comisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru a Richard Newton Consulting Ltd yn cyd-gynhyrchu adnodd neu ‘fframwaith’ gyda rhanddeiliaid i gefnogi’r gwaith o integreiddio gwirfoddoli’n well mewn darpariaeth iechyd a gofal ar ôl y pandemig. Cyllidir y prosiect gan Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws Llywodraeth Cymru 2021/21.
Gwnaeth un o’r grwpiau ffocws edrych ar ‘brosesau ar y cyd’; bydd y sgwrs honno’n llywio’r adroddiad prosiect terfynol.
Os hoffech gael diweddariadau, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.
Mae Helpu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae tudalen Helplu Cymru ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau ac astudiaethau achos diweddar.