Criw o bedwar gwirfoddolwr mewn siacedi llachar o Garu Eryri yn gwenu i'r camera. Maen nhw wedi bod yn codi sbwriel.

Partneriaeth yn gwirfoddoli – dysgu gan Caru Eryri

Cyhoeddwyd: 21/03/24 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Mary-Kate Jones

Derbyniodd Cymdeithas Eryri Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru i edrych ar fanteision gwirfoddoli drwy ddull partneriaeth. Mae Rheolwr y Rhaglen, Mary-Kate Jones yn dweud mwy wrthym.

Mae Caru Eryri (Care for Snowdonia) yn rhaglen wirfoddol sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth yn Eryri drwy:

  • Gymdeithas Eryri
  • Partneriaeth Awyr Agored
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol yn y sector gweithgareddau awyr agored.

Mae timau gwirfoddol Caru Eryri yn patrolio lleoliadau lle mae pwysau ac effeithiau ymwelwyr i’w deimlo fwyaf. Mae arweinwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi yn darparu gwybodaeth i ymwelwyr, clirio sbwriel a chynnal llwybrau troed.

Mae arweinwyr y timau gwirfoddol wedi cyfeirio at enghreifftiau cyson o ryngweithio’n gadarnhaol gyda’r cyhoedd. Roedd pobl yn aml yn falch – ac weithiau’n teimlo rhyddhad – wrth gael cyngor gwybodus am eu hopsiynau, eu llwybrau a’u hoffer, ac roeddent yn gwerthfawrogi presenoldeb a gwaith ein gwirfoddolwyr yn fawr.

MYND Â CHYDWEITHIO I’R LEFEL NESAF

Mae cynllun Caru Eryri wedi cyflawni cryn dipyn ar lawr gwlad yn Eryri, ac mae’r gwaith hwn i’w weld yn glir. Mae’r rhaglen yn enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni gan fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio mewn partneriaeth agos â chorff cyhoeddus.

Dros y pedair blynedd diwethaf mae ein gwaith mewn partneriaeth wedi newid. Rydym ni a’n partneriaid wedi bod yn rhannu systemau, arbenigedd, cyfrifoldebau a chapasiti staff yn gynyddol er mwyn cyrraedd nodau cyffredin.

Mae Caru Eryri wedi adeiladu ar nifer o flynyddoedd o brofiad yn gwneud gwaith gwirfoddol ac wedi mynd â’n partneriaeth i lefel arall, wrth i’r pedwar sefydliad rannu systemau, staff, cyfrifoldebau gweinyddol, ac arwain diwrnodau gwirfoddoli.

AWGRYMIADAU AR GYFER GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH

Mae llawer iawn o frwdfrydedd ynglŷn â gwerth gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru, a chaiff hyn ei gydnabod. Mae llai o frwdfrydedd a chydnabyddiaeth o ran rhoi trefniadau ar waith i droi’r brwdfrydedd hwnnw’n gamau effeithiol sy’n cyflawni blaenoriaethau penodol a rennir ac ymdrin â’r heriau strategol i bobl a’r amgylchedd.

Dyma rai pethau i’w cadw mewn cof wrth ystyried gweithio mewn partneriaeth.

Sefydlu cytundeb rhannu data

Wrth rannu ein dysgu yn nigwyddiad Gwirfoddoli Tu Hwnt i’r Pandemig CGGC, dysgwyd bod angen i ni ddatblygu cytundeb rhannu data lefel uchel a phrotocol rhwng sefydliadau’r bartneriaeth ynghylch rhannu data gwirfoddoli.

O ganlyniad, drafftiwyd Cytundeb Rhannu Data newydd ar gyfer partneriaeth Caru Eryri. Mae hwn yn darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer polisïau GDPR unigol pob sefydliad yn y bartneriaeth. Trafodwyd y Cytundeb Rhannu Data mewn cyfarfod llawn o’r bartneriaeth ym mis Mai, cyn ei gyflwyno i’w gymeradwyo drwy Swyddog GDPR Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Meithrin ymddiriedaeth a phartneriaethau yn araf

Mae datblygu perthnasoedd ac ymddiriedaeth rhwng partneriaid yn cymryd amser wrth i bob partner ddysgu sut mae’r llall yn gweithio. Mae’n bwysig dechrau’r gwaith hwn yn araf, gan gymryd yr amser i sefydlu ffyrdd o weithio sy’n gweithio ym mhob sefyllfa gyda phob partner.

Bydd hyn yn amrywio’n ddaearyddol a chyda’r partneriaid dan sylw. Bydd cyfathrebu rheolaidd gyda sgyrsiau agored a gonest ynghylch ffyrdd o weithio, rheoli gwirfoddolwyr, diogelu staff a gwirfoddolwyr, protocolau iechyd a diogelwch, cyfrifoldebau, a datrys problemau cyflym ac effeithiol yn allweddol i sefydlu partneriaeth gadarn a phroffesiynol.

Mae gwirfoddolwyr mewn vis uchel o Caru Eryri yn cynnal llwybr troed ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Rheoli gwirfoddolwr yn ddiogel drwy system a rennir

Un o’r canlyniadau dysgu pwysicaf a ddeilliodd o ddatblygu system rheoli gwirfoddolwyr a rennir yw bod yn rhaid rheoli’r protocolau a’r caniatâd ar gyfer diogelu mewn modd cyson. Mae gan sefydliadau partner eu systemau a’u ffyrdd eu hunain o weithio.

Wrth weithio mewn partneriaeth mae yna nifer o ffyrdd y gellir cynnwys gwahanol ddulliau sefydliadol. Ond yn achos rhywbeth mor sylfaenol â diogelu, mae’n hanfodol bod yr holl bartneriaid sy’n gweithredu’r system rheoli gwirfoddolwyr yn ymrwymo i gyfres o brotocolau partneriaeth y cytunwyd arnynt.

Mae gan y system a roddwyd ar waith ar gyfer Caru Eryri brotocolau llym o safbwynt ‘cymeradwyo’ a rheoli gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae prosesau arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr mewn categorïau sy’n gofyn am ffocws arbennig, e.e. pobl ifanc dan 18 oed, neu wirfoddolwyr sydd â chyfyngiadau o ran pwy y gallant weithio gyda nhw.

Mae hyblygrwydd ac addasrwydd yn hanfodol

Yn ein cyfarfod gwerthuso ac yng nghynhadledd Gwlad Fach: Tirweddau Mawr, bu llawer o drafod am ffactor newydd sy’n effeithio ar ‘fannau hardd’ ac sydd â goblygiadau o ran eu rheoli ledled y wlad. Cyfeirir yma at achosion pan fo lluniau a chynnwys yn cael eu postio am leoliad a arferai fod yn lle tawel ar gyfryngau cymdeithasol sydd maes o law’n cael eu gweld gan nifer fawr o bobl sydd wedyn yn tyrru yno. Digwyddodd hyn yn 2022 yn ardal Caru Eryri.

Yn draddodiadol mae llwybr Watcyn i fyny’r Wyddfa wedi bod yn un o’r llwybrau tawelaf gyda llai o sbwriel arno. Tan yn ddiweddar roedd yn llwybr y gallech ei ddilyn a chyrraedd y copa heb weld llawer o bobl. Eleni, aeth y rhaeadrau ar lwybr Watkin yn ‘wyllt’ ar Instagram a TikTok. Gwelwyd canlyniadau hyn ar lawr gwlad gan wirfoddolwyr a staff wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu’n sylweddol yn ogystal â’r sbwriel, barbeciws a gwersylla anghyfreithlon ac ati.

Roedd effaith y math yma o newid cyflym ar broblemau parcio yn arbennig o amlwg yn Nant Gwynant, a gipiodd y penawdau a’r straeon am ‘Silly-cone valley’.

Mae trefn reoli a darparu seilwaith mewn mannau poblogaidd yn deillio o flynyddoedd, yn aml, degawdau o ddatblygu ac addasu. Bellach gyda phŵer cyfryngau cymdeithasol a’i luniau dylanwadol, gall math a graddfa’r defnydd o le newid yn llythrennol dros nos.

Eleni digwyddodd hyn yn llwybr Watcyn, a’r flwyddyn nesaf fe allai fod yn ardal arall. Mewn ymateb cynyddwyd patrolau grwpiau Caru Eryri yn yr ardal honno, ond ymateb dros dro yw hwn, ac un sy’n tynnu adnoddau oddi wrth fannau eraill lle mae eu hangen.

DARLLENWCH YR ADRODDIAD LLAWN

Os hoffech ragor o wybodaeth, rydym wedi ysgrifennu adroddiad ar ddysgu o Brosiect Caru Eryri.

MWY AM GRANTIAU STRATEGOL GWIRFODDOLI CYMRU

Mae Cynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n edrych yn hirdymor ar wirfoddoli a sut y gallwn ddatgloi ei botensial.

Mae’r rhai sydd wedi derbyn grantiau wedi dangos sut y gall meddwl yn strategol am wirfoddoli fod o fudd mawr i gyflawni nodau eich sefydliad. Dyma rai o’r adnoddau a baratowyd: