Mae partneriaid yn SPARK yn ysgrifennu am y Bartneriaeth Ymchwil Trydydd Sector newydd.
Mae gwaith ymchwil yn sbardun pwysig ar gyfer trydydd sector effeithiol a chynaliadwy yng Nghymru. Gall feithrin dealltwriaeth well a dyfnach o broblemau allweddol a chyd-destun a darparu tystiolaeth gredadwy i gyllidwyr. Gall gwaith ymchwil hefyd lywio a gwella arferion trwy ddysgu a datblygu sefydliadol, cefnogi galwadau am bolisïau mireinio a strategaethau ar gyfer llywodraethu a rheoli. Fodd bynnag, gyda thros 97% o’r trydydd sector yng Nghymru yn mudiadau bach a chanolig, gall gwaith ymchwil gael ei gyfyngu gan flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, diffyg adnoddau, cyllid, mynediad, gallu, arbenigedd ac amser.
DOD AG ARBENIGEDD AT EI GILYDD
SPARK yw parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol newydd Prifysgol Caerdydd. Mae’n dod â chanolfannau ymchwil sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd – er enghraifft, addysg, cymdeithas sifil, ac iechyd y cyhoedd – ynghyd ag ymarferwyr, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid cymunedol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mwyaf enbyd ein hoes. Oherwydd hyn, mae SPARK yn fan cychwyn ardderchog i lwyddo o ran meithrin gallu ymchwil yn y trydydd sector yng Nghymru.
Ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) a phartneriaid eraill – Cwmpas, Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT), Together for Change, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol De Cymru – mae SPARK wedi ffurfio Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector newydd. Gyda’n gilydd, ein nod yw cysylltu anghenion ymchwil mudiadau’r trydydd sector yn well â’r sgiliau a’r wybodaeth ymchwil sydd ar gael yn y gymuned academaidd yng Nghymru.
BARU ANGHENION GYDA CHYMORTH
Ein cam cyntaf yw cyflwyno cyfres o weithdai ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghaerdydd erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd y rhain yn ein helpu i archwilio’r ffordd orau o ‘baru’ anghenion ymchwil gyda chymorth priodol. Mae ein harolwg o ymchwilwyr yn SPARK wedi dangos i ni fod 50% o ymatebwyr eisoes yn cydweithio â’r trydydd sector a 44% â diddordeb mewn darparu cymorth pro bono i fudiadau trydydd sector. Mae amrywiaeth o sgiliau ymchwil, gwybodaeth ac arbenigedd ar gael ac yn cael eu cynnig, gan gynnwys, er enghraifft, ar ddylunio astudiaethau achos, technegau cyfweld ac ysgrifennu cynigion am arian ymchwil.
Ym mis Hydref a Thachwedd, byddwn yn cyflwyno pum gweithdy ymchwil byr ar gyfer mudiadau bach a chanolig yn y trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, gan archwilio eu dyheadau a’u syniadau ymchwil. Bydd pob cyfranogwr yn dod o’r gweithdy gyda ‘chynfas ymchwil’ gwag, sy’n mapio eu hanghenion ymchwil a’r camau nesaf posibl. Mae gan hyn y potensial i arwain at gymorth pellach, er enghraifft ar ddatblygu cwestiwn ymchwil, penderfynu ar ddulliau, dod o hyd i ddata, neu ddrafftio cais am gyllid ymchwil. Efallai y bydd rhai anghenion ymchwil yn cael eu hysgrifennu fel ‘prosiectau’ ymchwil diffiniedig y gallai myfyrwyr Meistr newydd ym Mhrifysgol Caerdydd eu cyflawni.
Gallai cymorth arall gynnwys galluogi cysylltiad â chanfyddiadau ymchwil presennol sy’n berthnasol ac a all lywio eich gwaith. Gallai mynediad at waith ymchwil o’r fath gefnogi ymarfer sy’n fwy seiliedig ar dystiolaeth neu gyfle i chi lywio cyfeiriad ymchwil yn y dyfodol. Mewn sector lle gall y gallu i wneud gwaith ymchwil fod yn gyfyngedig, mae’n bwysig archwilio pa dystiolaeth sydd eisoes ‘ar gael’ ac a all fod o ddefnydd.
Rydym yn gweld y gweithgarwch hwn yng Nghaerdydd fel cam cyntaf i archwilio perthnasoedd a chydweithrediad tymor hwy, seiliedig ar werth, rhwng mudiadau trydydd sector ac ymchwilwyr academaidd yng Nghymru.
DIGWYDDIADAU
Mae SPARK yn gyflwyno pum gweithdy ymchwil i fudiadau yng Nghaerdydd ym mis Hydref a mis Tachwedd eleni.
Os ydych chi’n mudiad trydydd Sector bach i ganolig (e.e. elusen, mudiad cymunedol, menter gymdeithas) ac wedi bod yn weithredol yng Nghaerdydd ers o leiaf dwy flynedd, gallai hyn fod yn addas i chi.
Bydd pob un o’r pum gweithdy yn para dwy awr ac fe’u cynhelir ar y dyddiadau/amseroedd canlynol ac yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Sadwrn 14 Hydref – 10 am-12 canol dydd, Dydd Mawrth 17 Hydref – 1-3 pm, Dydd Gwener 27 Hydref – 10 am-12 canol dydd, Dydd Iau 16 Tachwedd – 1-3 pm – wyneb yn wyneb
- Dydd Iau 9 Tachwedd – 6.30-8.30 pm – ar-lein
Cofrestrwch ar Eventbrite ar gyfer y gweithdy yr hoffech fynd iddo erbyn 5 pm 10 Hydref.
Os na allwch ddod i unrhyw un o’r sesiynau, ond â diddordeb mewn cymorth ymchwil, cysylltwch ag Anna Skeels SkeelsA1@caerdydd.ac.uk neu Dave Horton daveh.community@gmail.com.