Yma, mae Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, Felicitie Walls, yn ymdrin â’r prif bwyntiau i’w hystyried wrth baratoi neu ailgydio mewn gwaith gwirfoddol ar ôl y cyfyngiadau symud.
Mae Gwirfoddoli Cymru, fel y rhan helaeth o weithgareddau a sectorau eraill, wedi wynebu newidiadau sylweddol yn ei weithgareddau yn sgil y pandemig coronafeirws a’r cyfyngiadau symud cysylltiedig.
Tra bod rhai gweithgareddau gwirfoddoli wedi gorfod dod i ben, mae mathau eraill o weithredaeth gwirfoddol a chymunedol wedi dod yn amlwg iawn, gan ddangos yr hyn y gall aelodau o gymuned gref ei wneud. Gyda digon o benderfyniad, maen nhw wedi dod o hyd i ateb.
Mae llawer o’r straeon hyn am fentrau cymunedol eisoes wedi’u rhannu mewn mannau eraill, felly wna i ddim ymhelaethu ar y rhain yma – ond rwyf wedi postio rhai dolenni ar waelod y blog, felly mae croeso i chi eu gweld nhw yma!
Paratoi i baratoi
Yn ystod y mis diwethaf, mae fy nghydweithwyr a finnau ar draws y sector wedi troi ein sylw at wirfoddoli a’i weithgareddau cysylltiedig wrth i ni baratoi ar gyfer dod allan o’r cyfyngiadau symud.
Rydyn ni wedi bod yn meddwl am ble mae gwirfoddolwyr yn debygol o fod eu hangen, sut allai mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr addasu er mwyn cynorthwyo eu gwirfoddolwyr cyfredol a newydd a sut allai unigolion sy’n gobeithio ailgydio mewn gwaith gwirfoddol neu ddechrau gwirfoddoli baratoi ar gyfer eu rolau a’u cyfrifoldebau gwirfoddoli.
Mae ein meddyliau wedi’u llywio gan y trafodaethau rydyn ni wedi bod yn eu cael ag aelodau o’r rhwydweithiau gwirfoddoli, sgyrsiau unigol dros y ffôn gydag arweinwyr gwirfoddoli cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, pobl sy’n gweithio gyda’r llywodraeth leol neu genedlaethol, neu o’u mewn, ein cydweithwyr o’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol a chydag aelodaeth ehangach CGGC.
Er mwyn rhannu rhai o’r myfyrdodau hyn wrth baratoi ar gyfer gwirfoddoli y tu hwnt i’r cyfyngiadau symud, gwnaeth Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru, a finnau recordio podlediad y gallwch chi wrando arno yma.
Prif negeseuon y podlediad
Os nad oes gennych chi’r amser i wrando ar y podlediad llawn, dyma rai o’r prif bwyntiau.
- Mae natur gwirfoddoli wedi newid yn ystod y pandemig, rydyn ni’n gweld newidiadau yn nifer y dynion a phobl oed gwaith sy’n gwirfoddoli.
- Mae Gwirfoddoli Cymru yn offeryn digidol defnyddiol ar gyfer hybu a chael gafael ar gyfleoedd gwirfoddoli, a gellir ei ddefnyddio fel system rheoli gwirfoddolwyr lawn.
- Rydyn ni’n disgwyl y bydd angen mwy o wirfoddolwyr i gynorthwyo â’r heriau penodol wrth i ni ddod allan o’r cyfyngiadau symud, er enghraifft, gyda phrosiectau iechyd meddwl, mentrau sy’n gwella cyflogaeth a gweithgareddau sy’n herio anghydraddoldeb.
- Gall mudiadau baratoi ar gyfer gwirfoddoli wrth i ni ddod allan o’r cyfyngiadau symud drwy dreulio amser yn meddwl am y ffyrdd gorau o gynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith. Gellid defnyddio’r Safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel offeryn myfyrio a gall y siarter ar gyfer cryfhau’r cydberthnasau rhwng gwirfoddolwyr a staff cyflogedig helpu i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau o ran cynnwys gwirfoddolwyr.
- Yn ystod y cyfnod unigryw hwn, rydyn ni’n annog mudiadau i feddwl am yr hyn y gallant eu dysgu wrth iddyn nhw roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ac i dreulio amser yn casglu astudiaethau achos a rhannu’r dysgu hwn gydag eraill.
- Gall gwirfoddolwyr baratoi ar gyfer gwirfoddoli yn y dyfodol drwy wella eu sgiliau digidol, oherwydd rhagwelir y bydd hyn yn agwedd allweddol ar raglenni gwirfoddoli yn y dyfodol.
Rwy’n gobeithio y bydd y cipolwg cyflym hwn ar ein meddyliau a’r podlediad yn eich helpu chi ar eich taith wrth i chi ailgydio yn eich ymdrechion i gynnwys gwirfoddolwyr neu eu cynnwys mewn ffyrdd newydd.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar adnoddau ar gyfer y sector, felly cadwch lygad allan am hyn drwy ein dilyn ar Twitter @VolWales neu gofrestru i dderbyn cylchlythyr covid 19 CGGC.
Straeon newyddion da o gymunedau Cymru
Mae dinasyddion hael ar hyd a lled Cymru wedi bod yn fwy na bodlon rhoi o’u hamser i eraill – yma, rhannwn rai straeon gan staff o’r sector gwirfoddol.
Pan wnaeth cannoedd o wirfoddolwyr yn ardaloedd Mynydd Cynffig a Phorthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau benderfynu cynnig eu gwasanaethau i bobl agored i niwed a oedd yn gorfod hunanynysu, nid ateb galwad i weithredu’n unig roedden nhw – roedden nhw’n dangos dyfeisgarwch cymuned a oedd yn benderfynol o helpu’r rheini mewn angen.
Gwirfoddolwyr Sir y Fflint yn paratoi i gynorthwyo trigolion
Mae cannoedd o wirfoddolwyr yn Sir y Fflint yn paratoi i ymgymryd â hyfforddiant i’w helpu i fynd i’r afael â’r problemau a wynebir gan drigolion agored i niwed Sir y Fflint yn sgil y Coronafeirws.
Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn rhoi hwb i’r cymuned BAME yn Abertawe
Gyda help Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE) wedi bod yn darparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer cymuned BAME Abertawe yn ystod y pandemig coronafeirws.