Yn ystod y misoedd nesaf, wrth i’r cyfyngiadau lacio’n raddol ar ôl cyfnod clo y pandemig Coronafeirws, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gwirfoddolwyr unwaith eto ac ailddechrau rhai o’r gweithgareddau a gafodd eu hoedi. Fiona Liddell, Rheolwr Helplu CGGC, sy’n trafod y ffordd ymlaen ac yn nodi rhai adnoddau defnyddiol.
Gallwn fod yn siŵr o un peth – bydd dychwelyd i normal ddim yn broses syml. Mewn podlediad diweddar, mae Felicitie (Flik) Walls a finnau wedi bod yn trafod rhai o’r ffyrdd y mae Covid-19 wedi effeithio ar argaeledd gwirfoddolwyr, y gweithgareddau y gellir eu cyflawni a siâp gwirfoddoli yn y dyfodol.
Mae rhai o’r prif bwyntiau wedi’u crynhoi ar flog Flik – paratoi i wirfoddoli ar ôl y cyfyngiadau symud.
Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr mewn canolfannau gwirfoddoli a Llywodraeth Cymru i gynhyrchu canllawiau o’r enw Gwirfoddoli a symud o’r cyfnod clo. Mae’n cynnwys cwestiynau cyffredin a rhestr gynhwysfawr o ffynonellau gwybodaeth bellach.
Ceir dolenni i ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar bynciau gwahanol, er enghraifft, canllawiau manwl sydd wedi’u hanelu at sectorau gwahanol, gan gynnwys elusennau, siopau, cyfeillio, gerddi a ffermydd dinesig, trafnidiaeth gymunedol a chanolfannau cymunedol.
Agwedd hyderus a systematig tuag at reoli risg
Mae angen dau beth wrth i ni geisio dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen: y cyntaf yw dull hyderus a systematig o nodi, asesu a rheoli risg.
Mae ein taflen wybodaeth yn cynnwys cyfeiriadau at nifer o enghreifftiau o ddulliau o asesu risg sy’n addas ar gyfer gwahanol gyd-destunau. Nid oes un ffordd yn cael ei argymell; mae’n debygol mai dull ‘cymysgu a pharu’ fydd orau wrth i chi feddwl am syniadau ac offer sy’n eich galluogi orau i feddwl am y risgiau a’r posibiliadau mewn perthynas â gwirfoddolwyr, gweithgareddau gwirfoddoli a lleoliadau.
Dychmygu posibiliadau newydd
Yr ail beth yw dychymyg. Mae’n rhaid i ni dderbyn, ac rydym wedi nodi hynny, na fyddwn yn mynd nôl i fel roedd pethau.
Ond mae yna bosibiliadau newydd bob tro; ffyrdd gwahanol o weithio, anghenion gwahanol yn dod i’r amlwg a ffyrdd eraill o gynnwys gwirfoddolwyr er mwyn gwireddu ein dibenion craidd.
Mae angen ein ffrindiau a’n cydweithwyr – staff a gwirfoddolwyr – er mwyn gallu llywio’r ffordd orau. Mae rhai ohonom yn wyliadwrus o ran ein natur ac yn effro i ble mae angen cyfaddawdu a chyfyngu. Mae rhai ohonom yn dda wrth feddwl yn ochrol ac yn gallu cynnig syniadau newydd i roi cynnig arnyn nhw. Mae angen y ddau arnom ni!
Rhannu straeon
Rydym yn casglu astudiaethau achos ynglŷn â gwirfoddoli a Covid-19 – a byddem yn croesawu eich un chi! Gallwch ddod o hyd i dempled fan hyn.
Gall astudiaeth achos fod yn eithaf cryno ond mae’n ceisio dogfennu a darlunio sut mae gwirfoddoli wedi newid ac addasu drwy’r cyfnod hwn. Bydd yn cyfleu negeseuon pwysig i’ch rhanddeiliaid, gan gynnwys gwirfoddolwyr, cefnogwyr ac ymddiriedolwyr. Mae’n helpu i ddweud eich stori mewn ffordd hygyrch.
Maen nhw yr un mor werthfawr i ni yn CGGC, a byddwn yn defnyddio’r astudiaethau achos a dderbyniwn mewn sawl ffordd.
- Gall rhai gael eu cyhoeddi – wedi’u datblygu ymhellach o bosib i dynnu sylw at y pwyntiau pwysicaf
- Gallwn eu defnyddio i ysgrifennu darnau myfyriol neu flogiau
- Gallwn eu defnyddio fel tystiolaeth eglurhaol i gefnogi ymchwil gan bartneriaid academaidd
- Bydd rhai yn cael eu rhannu, gyda chaniatâd, gyda sefydliadau partner fel Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, at ddibenion pwrpasol ac i gyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol.
Os hoffech drafod eich astudiaethau achos gwirfoddoli neu os oes angen unrhyw help arnoch, cysylltwch â fliddell@wcva.cymru Bydd eich cyfraniadau yn ddefnyddiol iawn unrhyw bryd (yn enwedig cyn 10 Awst!)
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae tudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau ac astudiaethau achos diweddar.