Mae Michael Jones, Partner yn Bevan Buckland, yn crynhoi’r newidiadau allweddol o dan y SORP newydd i elusennau ac yn nodi’r data y dylai elusennau fod yn eu casglu nawr i wneud y broses hon yn llai beichus.
Mae saith mis wedi mynd heibio ers i *SORP (Datganiad o’r Arfer a Argymhellir) 2026 ddod i rym. Mae’r gwaith o baratoi’r set gyntaf o gyfrifon o dan y SORP newydd eto i ddod, ond bydd yr hyn sy’n cael ei gofnodi rhwng nawr a bryd hynny yn pennu pa mor llyfn, neu feichus, fydd diwedd y flwyddyn gyntaf honno.
Dyma beth ddylai ymddiriedolwyr a thimau cyllid fod yn ei gofnodi ymhell cyn y bydd hi’n bryd iddynt gyflwyno eu cyfrifon cyntaf o dan y rheolau diwygiedig.
BLE RYDYN NI AR ÔL SAITH MIS
Mae’r SORP diwygiedig yn berthnasol i bob elusen sy’n paratoi cyfrifon gan ddefnyddio’r dull cronedig, nid yw’n effeithio ar y rheini sy’n defnyddio derbyniadau a thaliadau.
Mae cyflwyno’r trothwyon haenu newydd yn pennu’r hyn y mae’n rhaid i bob elusen ei adrodd o fewn ei hadroddiad ymddiriedolwyr.
CRYNODEB O’R PRIF NEWIDIADAU
Y tu hwnt i’r haenau a’r trothwyon, mae pedwar newid allweddol i’r ffordd y mae cyfrifon elusen ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn cael eu llunio y mae angen i’r rheini sy’n paratoi’r cyfrifon eu hystyried.
- Mae Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr wedi’i ailwampio’n sylweddol, gyda gofynion llawer mwy penodol ynghylch effaith, gwirfoddolwyr a chronfeydd wrth gefn.
- Mae’r broses o gydnabod incwm yn cyd-fynd â *FRS 102 bellach ar gyfer trafodion cyfnewid gan ddilyn y model pum cam.
- Mae’r gofynion ar gyfer datgelu partïon cysylltiedig wedi’u cryfhau ar draws pob haen.
- Mae cyfrifyddu les wedi symud i fodel lesddeiliad sengl o dan Fodiwl 10B, gan ddod â bron pob les ar y fantolen fel ased hawl-i-ddefnyddio ac atebolrwydd les.
Un gwahaniaeth amlwg i elusennau fydd y ffordd yr ymdrinnir â threfniadau ‘*hedyn pupur‘ a lesoedd is na gwerth y farchnad gan ei bod yn hawdd anwybyddu’r newidiadau. Mae rhenti hedyn pupur yn syrthio y tu allan i’r diffiniad o les yn gyfan gwbl ac yn cael eu trin fel cyfleusterau a roddir, ac mae rhenti sy’n is na gwerth y farchnad ond nid yn enwol yn cael eu trin fel lesoedd rhoddion cymdeithasol, gydag elfen incwm rhoddedig y mae angen ei nodi a’i mesur.
BETH DDYLAI ELUSENNAU FOD YN EU COFNODI NAWR
Dyma le mae’r gwaith go iawn yn eistedd ar y cam hwn o’r cyfnod pontio. Yn hytrach na thrin y gofynion newydd fel rhywbeth i fynd i’r afael â nhw ar ddiwedd y flwyddyn, yr elusennau yn y sefyllfa gryfaf fydd y rheini sydd eisoes yn cynnwys y canlynol yn eu cofnodion bob dydd:
- Data effaith – mae angen casglu tystiolaeth o ganlyniadau ac effaith hirdymor, nid lefelau gweithgarwch yn unig, trwy gydol y flwyddyn. Mae hynny’n golygu cofnodi pa allbynnau a chanlyniadau a gyflawnwyd mewn gwirionedd, nid dim ond pa weithgareddau a gafodd eu cynnal, a pha ddangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) sy’n cael eu defnyddio i farnu llwyddiant. Mae ail-greu hyn yn ôl-weithredol ar ddiwedd y flwyddyn yn llawer anoddach na’i gofnodi fel y mae’n digwydd.
- Cofnodion gwirfoddolwyr – o dan y rheolau newydd, mae angen datgelu niferoedd, rolau, oriau a gyfrannwyd a hyfforddiant a ddarparwyd. Os nad oes system eisoes ar waith i gofnodi hyn yn gyson, dylai rhoi un ar waith fod yn flaenoriaeth.
- Cofrestr les lawn – mae angen catalogio pob les, gan gynnwys eiddo, offer a cherbydau, gan gofnodi’r telerau, symiau talu, ac a yw’r trefniant yn rhent hedyn pupur, is na gwerth y farchnad neu’n rhent marchnad llawn, gan fod pob un yn cael ei drin yn wahanol o dan y rheolau newydd. Ar gyfer rhent hedyn pupur a rhent is na gwerth y farchnad, bydd angen i chi wybod beth yw gwerth y rhent ar y farchnad i gyfrifo’r rhodd sy’n cael ei dderbyn. Dyma un o’r darnau mwyaf llafurus o’r paratoi ac mae’n well ei wneud ymhell cyn diwedd y flwyddyn yn hytrach nag o dan bwysau.
- Telerau grant a chontract – dylid adolygu pob cytundeb byw fel blaenoriaeth i sefydlu a yw’n drafodiad cyfnewid, fel ffioedd cwrs neu gontract gwasanaeth awdurdod lleol, neu’n drafodiad nad yw’n gyfnewid, fel grant ymddiriedolaeth neu sefydliad, ac a fydd unrhyw amodau perfformiad yn effeithio ar bryd y gellir cydnabod incwm.
- Cronfeydd wrth gefn a manylion risg – rhaid i gronfeydd wrth gefn rhydd, y rhesymeg y tu ôl iddynt, a’r prif risgiau i gyd gael eu datgelu’n benodol gyda thystiolaeth bellach yn hytrach na rhoi geiriad safonol yn unig. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn, yr hyn sy’n gyfyngedig neu wedi’i ddynodi, ac amseru tebygol unrhyw wariant arfaethedig. Bydd casglu’r manylion sylfaenol trwy gydol y flwyddyn yn ei gwneud hi’n llawer haws pan ddaw hi i ysgrifennu’r cofnodion.
PARATOI AR GYFER EICH CYFRIFON CYNTAF O DAN Y RHEOLAU NEWYDD
Os nad ydych eisoes wedi dechrau sgwrs gyda’ch archwilydd neu archwilydd annibynnol am y dyfarniadau rydych chi’n eu gwneud, mae’n werth gwneud hynny nawr yn hytrach nag aros tan ddiwedd y flwyddyn, oherwydd bydd angen i’r dyfarniadau hynny wrthsefyll gwaith craffu unwaith y bydd y cyfrifon wedi’u paratoi.
Os hoffech drafod sut mae SORP 2026 yn effeithio ar eich elusen, neu os hoffech gymorth gyda chofrestrau les, cydnabod incwm, neu baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr, gall ein tîm elusennau arbenigol helpu. Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost atom yn mail@bevanbuckland.co.uk neu drwy ffonio 01792 410100 am ragor o wybodaeth.
YNGLŶN Â BEVAN BUCKLAND
Gwnaeth Michael Jones a’r Cyfarwyddwr, Johnathan Dight o Bevan Buckland gynnal sesiwn ddefnyddiol iawn i fudiadau gwirfoddol yn ddiweddar yn gofod3, digwyddiad blaenllaw CGGC. Hoffem ddweud diolch o waelod calon i Bevan Buckland am noddi gofod3 unwaith eto, gan ein helpu ni i ddod â’r sector gwirfoddol ynghyd unwaith eto i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac ysbrydoli ein gilydd. Gallwch ddarganfod mwy am sut y gall Bevan Buckland eich cynorthwyo yn *bevanbuckland.co.uk.
*Saesneg yn unig