Pobl yn sefyll tu fas i San Steffan yn chwifio baneri UE a DU

Paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod trawsnewid

Cyhoeddwyd: 15/12/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur:

Mae Charles Whitmore, Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Brexit, yn rhannu gwybodaeth i fudiadau gwirfoddol ar sut i baratoi ar gyfer diwedd trosglwyddiad y DU o’r UE.

Pan wnaeth y Deyrnas Gyfunol adael yr Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31, fe aeth hi mewn i gyfnod trawsnewid fyddai’n para hyd at 11pm ar Ragfyr 31, 2020. Yn ystod yr amser hwn, daeth cynrychiolaeth wleidyddol y DG yn sefydliadau’r UE i ben, ond fe gafodd y rhan fwyaf o newidiadau fydd yn effeithio ar y drydedd sector yn y pen draw eu hoedi tan 2021.

Yn amlwg, cafodd y gallu i ddefnyddio’r amser hwn i baratoi, ei gyfyngu’n ddifrifol gan Covid-19. Ond gyda dim ond wythnosau’n weddill hyd nes i’r newidiadau ddechrau dod i rym, bydd sefydliadau nawr am ddechrau meddwl drwy rai o’r oblygiadau yn y cyfnod sy’n arwain at ddiwedd 2020, ond hefyd tu hwnt i hynny.

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad i’n hadnoddau er mwyn helpu sefydliadau trydedd sector yng Nghymru i ystyried rhai o’r heriau a chyfleoedd hyn.

CYTUNDEB NEU BEIDIO?

Ar adeg ysgrifennu, disgwylir ateb i’r cwestiwn yma cyn bo hir iawn, ond mae’r gwahaniaeth rhwng y ddwy senario yn llai nac yr oedd hi ar ddechrau 2020. Gallai gadael heb gytundeb olygu cynnydd llymach mewn costau rhai nwyddau. Byddai hyn yn cael effaith anghyfrannol ar grwpiau bregus ac ar drafodaethau gyda’r UE ynglŷn â materion y mae disgwyl iddyn nhw fynd tu hwnt i 2020, fel cyfranogaeth mewn rhaglenni’r UE  a chydweithio ar ddiogelwch. Gallai’r rhain ddod yn fwy heriol. Mae hefyd yn bosibl bod atebion i rai cwestiynau tangiadol fel, p’un a fyddai’n fwy anodd cael penderfyniad digonolrwydd ynglŷn â diogelu data.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, bydd gwneud paratoadau yn bwysig a pherthnasol beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau oherwydd y disgwyl yw y bydd unrhyw gytundeb yn un tenau. Er ei fod o bosib o fudd i wneud hynny, efallai nad oes angen i sefydliadau gyfyngu eu hunain i chwilota’r materion hyn yn unig yn y cyfnod sy’n arwain i fyny at Ragfyr 31, 2020.  Bydd nifer o gamau yn debygol o brofi’n ddefnyddiol hyd yn oed ar ôl i’’r cyfnod trawsnewid ddod i ben.

BETH ALL MUDIADAU GWNEUD I BARATOI?

Ceir rhai cwestiynau y gellid gweithredu arnynt, er enghraifft:

  • Ydy eich sefydliad yn barod o safbwynt diogelu data os na fydd yr UE yn cynnig penderfyniad digonolrwydd erbyn diwedd y cyfnod trawsnewid (mae hyn yn debygol)?
  • Ydych chi wedi rhoi systemau mewn lle i gyfeirio dinasyddion yr UE sydd ymhlith eich staff a defnyddwyr eich gwasanaeth i gael cymorth gyda Chynllun Preswylio’r UE?
  • Mae symudiad rhydd yn dod i ben, ac mae system mewnfudo newydd y DG sy’n seiliedig ar bwyntiau ar fin dod i rym. Efallai bydd cyflogwyr yn awyddus i ddod yn gyfarwydd â hwn a’r rheolau sydd perthnasol â theithio rhyngwladol gan staff os oes ei angen.
  • Ceir rhai newidiadau bach yn ymwneud â chaffael gan na fydd y DG yn defnyddio’r OJEU/TED – yn lle hynny, bydd system newydd, Dod o Hyd i Dendr (Find a Tender) yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DG. Fodd bynnag mae’r gofynion sydd yn ymwneud â Gwerthwch i Gymru yn aros yr un peth.

Ceir newidiadau canol a hir dymor i’w hystyried hefyd.

  • Mae mynediad at Ariannu gan yr UE yn dod i ben ac fe fydd sefydliadau’r DG yn gallu cael mynediad at y cylch ariannu 2021-2027 – os nad yw hyn yn effeithio ar eich sefydliad, a fydd yn effeithio ar eich aelodau? Os ydych yn cynnig gwasanaethau rheng flaen i grwpiau bregus, a fydd yn effeithio ar unrhyw wasanaethau maen nhw’n dibynnu arnyn nhw? Mae Llywodraeth y DG yn cynllunio Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG er mwyn cymryd lle’r arian a gafwyd gan yr UE, ac fe all hynny gyflwyno cyfleoedd ariannu newydd – bydd sefydliadau yn dymuno dilyn y datblygiadau hyn yn agos.
  • Mae Brexit wedi golygu bod nifer o gyrff sefydliadol newydd yn cael eu gweithredu: gan gynnwys y Swyddfa dros Warchodaeth Amgylcheddol, yr Awdurdod Monitro Annibynnol dros Hawliau DInasyddion, yr Awdurdod dros Wella Masnach a Swyddfa’r Farchnad Fewnol. Bydd y rhain yn chwarae rhan allweddol wrth graffu ar weithgareddau’r dirwedd ôl-Brexit ac efallai bydd sefydliadau am fuddsoddi peth amser er mwyn dod i ddeall ac arolygu eu holl swyddogaethau.
  • Ceir sawl datblygiad hefyd ar y gorwel sydd wedi eu fframio’n glir o fewn cyd-destun ôl-Brexit, gan gynnwys adolygiadau o’r Ddeddf Hawliau Dynol ac Arolwg Barnwrol. Fe allai’r rhain gynrychioli cyfleoedd allweddol i sefydliadau gael mewnbwn i allu llunio’r dirwedd yn dilyn y cyfnod trawsnewid.

Mae’r canllaw yma sydd wedi ei ddiweddaru yn cynnig adnoddau pellach ar y cwestiynau hyn a rhai eraill – mae ar gael i’w lawr lwytho yma. Bydd Fforwm Brexit hefyd yn trefnu gweminarau yn gynnar yn 2021 er mwyn chwilota effaith unrhyw gytundeb a gafwyd a’r hyn mae’n ei olygu ar gyfer y sector.