People cycling down a bike lane

Pan foch yn Nenmarc

Cyhoeddwyd: 13/09/18 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Steve Brooks

Dyma trydydd ran ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yn y blog yma mae’n sôn am beth ddysgodd ar gwrs Copenhagenize yn Nenmarc, a beth all arweinwyr trefi wneud i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy yn eu dinasoedd.

Fe wnes i ddod allan yn Copenhagen ac roedd yn rhyddhad.

Dydw i ddim yn feiciwr.  Dyna fe, dwi wedi’i ddweud.  Dywedodd Mikael Colville-Andersen hynny wrtha’i, ac fe ddywedais innau’r un peth yn ôl wrtho.  Mae Mikael yn ddyluniwr trefol ac yn arbenigwr ar symudedd ac ef yw Prif Weithredwr a sefydlydd Copenhagenize Design Company.  Mae Mikael yn enghraifft o entrepreneur cymdeithasol sydd wedi gweld problem gymdeithasol ac sy’n gweithio i’w datrys, gan wneud hynny yn y sector preifat.

Wrth gwrs, ar y naill law, dwi yn feiciwr.  Dwi’n gweithio i Sustrans, mae gen i sied yn llawn beiciau ac mae olion baw ac olew styfnig o amgylch gwaelod bron pob un pâr o drowsus sydd gen i.  Ond ar y llaw arall, dydw i ddim yn feiciwr.  Mae beicio yn rhywbeth dwi’n ei wneud, yn hytrach na rhywbeth yr ydw i.  Mae llawer o bobl yn beicio am sbort neu hamdden, ac weithiau dwinnau’n gwneud hynny; ond mae’r rhan fwyaf o’m teithiau ar feic yn deithiau ymarferol megis teithio i’r gwaith neu i gyfarfodydd.

Cymharodd Mikael hyn â’r hwfer. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn berchen ar un ac yn defnyddio un yn rheolaidd, ac eto fyddwn ni ddim yn ein disgrifio ein hunain fel ‘hwfrwyr’.  Dim ond un peiriant ydyw o’r nifer yr ydym yn eu defnyddio i hwyluso ein bywydau.

Mae Copenhagenize yn gyfle ysbrydoledig i dreulio amser ym mhrifddinas Denmarc gyda dau ddwsin o benseiri, dylunwyr trefol, cynllunwyr trafnidiaeth a’r rheini sy’n hyrwyddo beicio i edrych ar lwyddiant Denmarc.  Ac wrth lwyddiant, dwi’n golygu trechu eu caethiwed i’r car a theithio’n fwy cynaliadwy. Ar droed neu ar feic y gwneir 41% o bob taith yn Copenhagen.  Wrth gynnwys bysiau, trenau a’r metro, lleiafrif yw’r gyfran o bobl sy’n teithio mewn car.  Y farn ym myd polisi cyhoeddus yno yw y bydd arweinwyr y ddinas yn anelu am raniad moddol wedi’i seilio ar ‘draeanau’: dim llai na thraean o bob taith ar droed neu ar feic a dim mwy na thraean mewn car, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn cyfrif am y gweddill.

‘Un wers bwysig a ddaeth i’r amlwg i mi yn Copenhagen oedd un yn ymwneud â rôl arloesedd.  Ar y naill law, roedd yr hyn a wnaeth Copenhagen yn arloesol. Ar y llaw arall, doedd e’ ddim…’

Fel y rhan fwyaf o ddinasoedd Ewrop yn ymadfer o’r Ail Ryfel Byd, arweiniodd ffyniant economaidd y 1950au a’r 1960au cynnar at gynnydd enfawr yn nifer y ceir ar ffyrdd Denmarc.  Roedd y ddinas yn cael ei mygu gan geir.  Un ateb oedd codi traffordd dros y Llynnoedd, sef cyfres o dri llyn sy’n amgylchynu canol y ddinas.  Gellid cymharu hyn â Pharc Bute Caerdydd, y naill yn las a’r llall yn wyrdd.  O safbwynt trafnidiaeth draddodiadol, roedd hyn yn ymddangos yn syniad da.  Byddai’r draffordd yn creu priffordd fawr drwy’r ddinas ac yn cysylltu’r ffordd i Sweden yn y gogledd â’r ffordd i gyfandir Ewrop yn y de.  Ond yn ogystal â dinistrio amgylchedd naturiol y ddinas, byddai traffordd ac arni ddeuddeg lôn yn rhwygo drwy un o ardaloedd dosbarth gweithiol pwysicaf y ddinas.

image
image

Bu syniad tebyg yn yr arfaeth yng Nghaerdydd (CentrePlan 70), ond diolch i’r drefn gwrthodwyd y ddau gynllun cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.  Tra penderfynodd Caerdydd i dderbyn ei thrafferthion traffig, dilynodd Copenhagen drywydd gwahanol gan ddechrau tynnu lle oddi ar geir, a blaenoriaethu pobl. Bu amgylchiadau allanol, megis yr argyfwng olew, o gymorth, ond diolch i arweinyddiaeth wleidyddol sylfaenol a dylunio trefol wedi’i seilio ar synnwyr cyffredin, cafwyd chwyldro.  Dros y degawdau nesaf, aeth y ddinas ati’n systematig i ailddylunio ei strydoedd gan ddarparu lonydd beicio gwarchodedig.

Un wers bwysig a ddaeth i’r amlwg i mi yn Copenhagen oedd un yn ymwneud â rôl arloesedd.  Ar y naill law, roedd yr hyn a wnaeth Copenhagen yn arloesol. Ar y llaw arall, doedd e’ ddim. Fe ddefnyddion nhw ddulliau a oedd wedi’u treialu a’u profi ers dros ganrif.  Nid yw’r egwyddor ddylunio sylfaenol wedi newid: darparu lle gwarchodedig i feiciau sy’n ddiogel ac yn effeithlon, ac i ffwrdd oddi wrth gerbydau modur (neu geffyl a chart) ac sy’n mynd â phobl o’u man cychwyn i ble maent eisiau mynd iddo.  Wrth gwrs, mae datblygiadau pwysig wedi bod: cynlluniau llogi beic, beiciau trydan, ac arwynebau mwy diogel a gwell; ond yn y bôn mae angen i’r un peth ddigwydd yn 2018 ag a oedd ei angen yn 1918.  Prin yw’r problemau dylunio ac adeiladu y bydd y diwydiant trafnidiaeth yn eu hwynebu yng Nghymru sydd heb gael eu datrys rywle a rhywbryd arall.  Dyw arloesedd ddim bob amser yn golygu ailddyfeisio’r olwyn. Weithiau mae angen chwilio am yr ateb rywle arall, efelychu syniad sylfaenol, ei newid ychydig bach, a’i roi ar waith.

Y prif reswm y mae Copenhagenwyr yn beicio yw gan ei fod yn gynt ac yn haws na ffyrdd eraill o deithio. Mae pobl yn gwybod eu bod yn rhoi hwb i’w hiechyd ac yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, ond eilbeth yw hyn i’r mwyafrif o drigolion y ddinas.  Ewch i Copenhagen ac ni welwch lawer iawn o feicwyr – pobl yn gwisgo leicra, yn reidio beiciau ffordd drud.  Fe fyddwch, serch hynny, yn gweld digonedd o bobl yn defnyddio beiciau, yn mynd i’w gwaith, yn hebrwng y plant i’r ysgol, ac wedi’u gwisgo ar gyfer eu cyrchfan nid ar gyfer eu taith.

image

Dyma’r wers i arweinwyr trefi. Mae annog pobl i gerdded a beicio yn rhoi buddion lu i’r wlad.  Mae’n lleihau’r galw am wariant ar iechyd, yn gwella ansawdd yr amgylchedd lleol, ac yn darparu buddion economaidd.  Ac er y bydd y buddion ehangach hyn yn bwysig i ryw raddau i lawer o’r boblogaeth, mae’r mwyafrif helaeth o bobl eisiau gollwng eu plant yn yr ysgol a chyrraedd eu gwaith yn gyflym ac yn ddiogel.  Felly ni fydd ymgyrchoedd cyhoeddus drud sy’n hyrwyddo buddion iechyd beicio ond yn cyrraedd rhan benodol o’r boblogaeth.  Os ydych chi wir eisiau cael effaith fawr ar iechyd, gwnewch hi’n bosib i bobl deithio mewn ffordd lesol drwy greu mwy o lonydd beicio. Dechreuwch gyda’r defnyddiwr mewn golwg – pobl sy’n digwydd beicio.