Dyn ifanc yn eistedd wrth ddesg yn dal llythyr yn edrych yn anhapus ac o dan straen

Pam na ddylai mudiadau gwirfoddol ddefnyddio delweddau oddi ar Google

Cyhoeddwyd: 01/08/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Ruth Hall

Mae Ruth Hall, Pennaeth Marchnata yn Alamy, yn egluro sut y gall mudiadau gwirfoddol osgoi mynd i drwbl wrth ddefnyddio delweddau yn eu deunyddiau cyfathrebu.

Wrth chwilio am y delweddau cywir ar gyfer deunyddiau marchnata eich elusen, mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod ble i edrych a beth mae gennych chi hawl i’w ddefnyddio. Fel perchennog elusen, neu fel rhywun sy’n ymwneud â’r sector elusennol, gall deddfau hawlfraint a chanllawiau defnydd teg fod yn anodd iawn eu deall ar brydiau.

Yn anffodus, mae llawer o bobl yn troi at Google am ysbrydoliaeth, ac yn cadw ac yn defnyddio delweddau heb ystyried y goblygiadau hawlfraint posibl. Fodd bynnag, gall y problemau hawlfraint a chanlyniadau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â hyn arwain at oblygiadau difrifol i chi a’ch mudiad elusennol.

PRYDERON HAWLFRAINT

Er y gall fod yn demtasiwn i lawrlwytho delweddau a fideos sydd ar gael yn hwylus ar-lein, nid yw’n golygu bod gennych chi hawl i’w defnyddio fel y dymunwch. Er mwyn diogelu’r rhai sy’n creu gwaith gwreiddiol, gan gynnwys ffotograffwyr, mae deddfau hawlfraint yn bodoli yn y rhan fwyaf o wledydd ledled y byd erbyn hyn.

O dan ddeddfau hawlfraint, mae gan y rhai sy’n creu gwaith gwreiddiol hawliau unigryw i reoli sut mae eu gwaith yn cael ei ddefnyddio a’i ddosbarthu, ac mae hyn yn cynnwys ffotograffau. Felly, cyn defnyddio unrhyw ffotograffau at ddibenion masnachol, fel deunyddiau marchnata neu hysbysebion, rhaid i fusnesau gael caniatâd gan y ffotograffydd neu ei asiant awdurdodedig.

Gall methu â gwneud hynny arwain at gamau cyfreithiol, cosbau ariannol, a phroses ddatrys hir a chostus. O ganlyniad, mae’n hanfodol bod perchnogion elusennau a’u tîm yn deall hanfodion deddfau hawlfraint wrth ddefnyddio ffotograffiaeth. Drwy wneud hynny, gallwch chi osgoi ymyrryd â hawliau ffotograffwyr, a diogelu eich mudiad elusennol rhag unrhyw sgil-effeithiau cyfreithiol.

CEFNOGI FFOTOGRAFFWYR

Mae ffotograffwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y diwydiant creadigol, a dylid gwerthfawrogi a pharchu eu gwaith bob amser. Pan fydd perchnogion elusennau a marchnatwyr yn defnyddio delweddau oddi ar Google heb y caniatâd priodol, mae’n tanseilio gwaith caled a chreadigrwydd y ffotograffwyr hyn, gan eu hatal rhag ennill incwm am eu gwaith. Gall yr arfer niweidiol hwn gael effaith negyddol ar y diwydiant ffotograffiaeth.

Er mwyn cefnogi a sicrhau llwyddiant parhaus ffotograffwyr, dylai perchnogion elusennau ystyried trwyddedu delweddau neu gomisiynu ffotograffwyr yn uniongyrchol ar gyfer eu hanghenion penodol. Mae trwyddedu delweddau yn caniatáu i elusennau ddefnyddio’r delweddau’n gyfreithlon at y dibenion a fwriadwyd, yn ogystal â digolledu’r ffotograffwyr am eu gwaith gwerthfawr. Drwy gomisiynu ffotograffwyr yn uniongyrchol, gallwch chi nid yn unig gyfrannu at eu bywoliaeth ond hefyd greu delweddau unigryw sydd wedi’u teilwra ac sy’n cyd-fynd yn union â hunaniaeth brand a negeseuon eich elusen.

Yn y pendraw, mae cefnogi ffotograffwyr yn rhywbeth sy’n fuddiol i bawb, ac yn helpu i feithrin creadigrwydd, arloesedd a thwf yn y diwydiant. Fel perchennog elusen, mae gennych chi’r pŵer i gael effaith gadarnhaol nid yn unig o fewn eich mudiad ond hefyd o fewn y gymuned greadigol ehangach. Drwy barchu deddfau hawlfraint a chefnogi ffotograffwyr drwy drwyddedu neu gomisiynu, gallwch chi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant y diwydiant ffotograffiaeth.

OPSIYNAU ERAILL YN LLE “GOOGLE IMAGES”

Yn ffodus, mae nifer o wefannau ar gael sy’n darparu ffotograffiaeth heb gyfyngiadau hawlfraint, a all fod yn opsiwn arall addas i berchnogion elusennau sy’n chwilio am ddelweddau addas ar gyfer eu hymgyrchoedd. Un o’r llwyfannau hyn ydy Alamy, ac rydym yn ffynhonnell ddibynadwy sy’n darparu delweddau o ansawdd uchel.

Mae defnyddio gwefannau delweddau stoc fel Alamy yn sicrhau bod gennych chi fynediad at amrywiaeth eang o ddelweddau o ffynonellau dibynadwy, yn ogystal â’r trwyddedau sydd eu hangen arnoch i’w defnyddio’n gyfreithlon. Ar ben hynny, gall buddsoddi mewn delweddau o ansawdd uchel gael effaith sylweddol ar bresenoldeb eich elusen ar-lein, yn ogystal â gwella’r canfyddiad o’ch brand.

Drwy ymgorffori delweddau proffesiynol sy’n cyd-fynd ag estheteg a negeseuon eich elusen, gallwch chi sefydlu hunaniaeth brand gref a chyson, gan ddenu mwy o gefnogwyr a meithrin ymddiriedaeth.

RHAGOR O GYMORTH AR DDULLIAU MARCHNATA I FUDIADAU GWIRFODDOL