David Rowlands, Rheolwr Polisi Tai Pawb, sy’n ymateb i ymgynghoriad Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar hawl i dai digonol.
Prin bod angen i chi droi’r teledu ymlaen cyn clywed am yr argyfwng tai yma yng Nghymru – boed hynny’n brisiau rhentu uchel, diffyg cartrefi, tai sy’n anaddas i bobl fyw ynddyn nhw, neu gynnydd yn nifer y bobl sy’n gorfod byw mewn llety gwely a brecwast. Mae’n amlwg bod y system dai yng Nghymru wedi torri – a dyna pam mae angen i ni weithredu nawr.
Ers 2019, mae cynghrair ‘Back the Bill’ wedi ymgyrchu i ymgorffori hawl i dai digonol y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru, sef hawl a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd wedi helpu i bron roi diwedd ar ddigartrefedd yn y Ffindir. Dyma ein cyfle i ailosod ein system dai, gyda fframwaith cydgysylltiedig sy’n gosod hawliau dynol yn ganolog iddo. Mae gwneud hyn yn golygu, dros amser, y bydd gan bawb yr hawl i gartref da – un sy’n ddiogel, yn saff, yn addas i’w hanghenion ac y gallan nhw ei fforddio.
MWY NA MATER I’R SECTOR TAI YN UNIG
Ond onid mater i’r sector tai yn unig yw hwn? Er bod yr ymgynghoriad a’r ymgyrch yma’n canolbwyntio ar dai, fel sector gwirfoddol rydyn ni’n gwybod nad yw cartref da yn ymwneud â thai yn unig. O ddydd i ddydd, rydyn ni’n gweld effaith bellgyrhaeddol tai ar y rhai rydyn ni’n eu cefnogi, pob un ohonon ni â safbwynt unigryw, amhrisiadwy i’w gynnig.
Pa mor aml mae’r problemau rydyn ni’n ymdrin â nhw fel sector yn cael eu hachosi gan gyflwr tai gwael, neu y gellid bod wedi’u hatal gan gartrefi gwell a mwy addas? Boed hynny’n achosion o anghydfod teuluol, codwm, iechyd meddwl a chorfforol gwael, canlyniadau addysgol is neu’r anawsterau wrth ddod o hyd i waith – dim ond i enwi rhai. Mae’r cysyniad o ‘gartref’ – a chartref da – yn sylfaenol i bopeth arall mewn bywyd.
EFFAITH FESURADWY TAI
Mae tai gwael yn costio £95 miliwn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru tra bod 18% o dai Cymru yn peri risg i iechyd corfforol a meddyliol preswylwyr. Ar yr un pryd, tai sy’n gyfrifol am 9% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr.
I’r gwrthwyneb, mae cartrefi da yn arwain at fanteision i unigolion, y gymdeithas, a’r amgylchedd. Mae dadansoddiad cost a budd annibynnol wedi dangos y byddai buddsoddi yn yr hawl i dai digonol yng Nghymru yn arwain at fuddion o £11.5 biliwn dros gyfnod o 30 mlynedd gyda manteision i les unigolion, y gwasanaeth iechyd, awdurdodau lleol a’r economi ehangach. Mae’r hawl i gartref da yn rhodd anfesuradwy i genedlaethau’r dyfodol, ac yn un ffordd y gallwn weithredu arni heddiw, er mwyn sicrhau gwell yfory.
CYFLE I GREU NEWID
Mae’r ymgynghoriad Papur Gwyrdd yma’n gyfle ar gyfer diwygiad unwaith mewn cenhedlaeth – i’r sector tai ac yn ehangach i’r math o gymdeithas rydyn ni ei heisiau. Gall yr hawl i dai digonol herio tlodi, cefnogi datgarboneiddio, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ar gyfer cymunedau lleiafrifol, pobl anabl a menywod.
Mae hefyd yn gyfle i gadarnhau ac adeiladu ar ein hawliau ar adeg pan fo hawliau eu hunain mewn perygl. Mae hwn yn gyfle i’w gwella, gan gydnabod bod cartref da yn llwyfan hanfodol ar gyfer byw bywyd hapus, iach a chyflawn.
SICRHAU BOD EIN LLAIS YN CAEL EI GLYWED
Gwyddom y bydd landlordiaid yn ymateb mewn niferoedd – ac rydyn ni’n disgwyl her adeiladol (yn gwbl briodol) ynghylch beth yw hawl i dai digonol yn ymarferol. O ystyried effaith bosib y ddeddfwriaeth yma, mae’n bwysig bod y sector gwirfoddol a’r rhai rydyn ni’n eu cefnogi yn cael eu clywed er mwyn gwybod beth y gallai hyn ei olygu iddyn nhw. Gallwch wneud hynny naill ai drwy ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru erbyn 15 Medi 2023 neu drwy gysylltu â chynghrair Back the Bill i weld neu gyfrannu at eu hymateb.
Allwn ni ddim gwneud mân newidiadau i fframwaith sy’n gwegian dan y pwysau. Mae’n bryd gwneud diwygiadau sylfaenol er mwyn sicrhau newid cadarnhaol a chynaliadwy.