Wall of inspirational Welsh women's photos

Pam fod angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnom o hyd?

Cyhoeddwyd: 06/03/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Catherine Fookes

Yma, mae Catherine Fookes, Cyfarwyddwr WEN Cymru, yn rhannu pam fod angen i bob un ohonon ni gefnogi menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod  

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi cyrraedd unwaith eto ar ddydd Sul 8 Mawrth. Mae gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru lawer o ddigwyddiadau, sesiynau siarad a gweithgareddau wedi’u cynllunio – hon yw’r wythnos brysuraf o’r flwyddyn i ni, ac weithiau gall ystyr y diwrnod fynd yn angof – hyd yn oed i ni  – felly mae’r blog hwn yn egluro pam fod ei angen o hyd ac yn edrych ar sut gallwch chi gyfrannu a chymryd rhan.

Pam fod angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod arnom o hyd?

Mae’r Diwrnod hwn wedi digwydd ers ymhell dros gan mlynedd, gyda’r cyfarfod cyntaf ym 1911. Rwy’n credu fod y menywod gwych a ddechreuodd ef wedi meddwl ar y pryd na fydden nhw ei angen dros ganrif yn ddiweddarach – ond rydyn ni ei angen yn bendant, a dyma pam!

Nid oes gennym gydraddoldeb o hyd o ran cynrychiolaeth gyfartal ym myd gwleidyddiaeth a gwaith. Gyda dim ond 28% o gynghorwyr Cymru’n fenywod, ac erioed wedi cael menyw liw fel AC etholedig yn yr 20 mlynedd o ddatganoli, mae gennym lawer iawn i’w wneud o hyd i sicrhau bod menywod amrywiol yn cael pŵer a llais cyfartal mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Nid oes gennym gydraddoldeb chwaith o ran iechyd menywod, gyda threialon clinigol yn cael eu gwneud gan ddynion yn bennaf a menywod yn cael eu hepgor o’r gwaith. Mae gennym fwlch cyflog o 13.5% rhwng y rhywiau yma yng Nghymru, felly nid oes gennym gydraddoldeb o ran incwm a’r economi chwaith, a bydd un o bob tair menyw yng Nghymru’n dioddef trais corfforol neu rywiol yn eu bywydau.

Felly mae gennym anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn llawer o feysydd ledled Cymru, ac er na all Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddatrys y rhain, mae’n bwysig cael un diwrnod o’r flwyddyn lle gellir amlygu’r problemau hyn, siarad am ddatrysiadau a dathlu’r menywod y gwyddom amdanynt sydd wedi gwneud camau mawr o ran torri trwy’r rhwystrau a’r anghydraddoldebau hyn.

100 o fenywod Cymreig

Bydd eleni i ni’n ymwneud â dathlu’r ychwanegiadau newydd rhyfeddol i’n rhestr 100 o fenywod Cymreig.

Mae 15 menyw eithriadol wedi ennill lle ar ein rhestr, a lansiwyd i ddechrau yn 2018 i ddathlu Canmlwyddiant hawl menywod i bleidleisio. Ond mae llawer mwy na 100 o fenywod Cymreig sy’n haeddu cydnabyddiaeth, felly rydyn ni’n ychwanegu rhai newydd bob blwyddyn. Mae’r ychwanegiadau diweddaraf yn cynnwys 12 menyw gyfoes, ochr yn ochr â thair menyw a helpodd i lywio hanes Cymru ac sy’n haeddu mwy o gydnabyddiaeth genedlaethol.

Maen nhw’n amrywio o fenywod fel Cheryl Beer a ddatblygodd sioe radio ar gyfer cleifion Alzheimer i Uzo Iwobi, cyfreithiwr a’r fenyw du Affricanaidd gyntaf i gael ei phenodi fel Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae gan bob un o’r menywod hyn storïau anhygoel i’w hadrodd ac maen nhw wedi dangos penderfyniad enfawr ac wedi goresgyn rhwystrau mawr i gyrraedd lle maen nhw heddiw.

Mae ein 100 o fenywod Cymreig wedi gwneud cyfraniadau mawr at feysydd gwleidyddiaeth, chwaraeon, diwylliant, gwyddoniaeth a’r diwydiant yng Nghymru. Mae rhai ffigyrau adnabyddus ar y rhestr, ond mae rhai enwau na fydd pobl wedi clywed amdanynt, oherwydd rydym hefyd eisiau dathlu arwresau anhysbys.

Cymryd rhan – dewch i ddigwyddiad

Rydyn ni’n curadu digwyddiadau’n genedlaethol, gan gyrraedd pob rhan o Gymru gyda thrafodaethau, perfformiadau neu arddangosfeydd ysbrydoledig. Eleni, rydym yn Aberteifi, Aberystwyth, Abertawe a Bangor. Yn ogystal â dathlu menywod, rydyn ni hefyd eisiau meddwl am yr hyn sydd angen ei wneud i wireddu ein gweledigaeth am Gymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae gennym ni ddigwyddiadau ar fenywod mewn gwyddoniaeth, anghydraddoldebau iechyd menywod, effaith y newid yn yr hinsawdd ar fywydau menywod a llawer iawn mwy. Felly mae rhywbeth i bawb. Rydyn ni hefyd wedi cydweithio â’n chwiorydd yn yr Henna Foundation a Gentle / Radical i ddangos y rhaglen ddogfen wobrwyol, ‘Knock Down the House’  gyda phanel drafod gyda Dawn Butler AS, Uzo Iwobi, Shahien Taj a’r Cyng Bablin Molik ar ôl hynny ar 19 Mawrth. Rydyn ni eisiau trafod yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod menywod lliw yn cael yr un gynrychiolaeth ym myd gwleidyddiaeth yma a sut gallwn ni sicrhau bod aelodau cynulliad sy’n fenywod duon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu hethol i Gynulliad Cymru yn 2021.

Cymryd rhan – gwnewch adduned!

Os na allwch ddod i ddigwyddiad, gallwch gymryd rhan o hyd drwy wneud pethau syml fel gwneud adduned ar gyfryngau cymdeithasol. Ar gefn ein pecyn cymorth newydd, mae gennym gerdyn adduned – gallwch chi ei argraffu ac addunedu i ddathlu eich #100MenywCymreig (#100WelshWomen) eich hun neu gallwch addunedu i hyrwyddo hawliau menywod, ymladd yn erbyn rhywiaeth a stereoteipio ar sail rhyw neu beth bynnag a fynnoch. Ceisiwch annog eich ffrindiau a theulu i wneud yr un peth. Gallwch weld digonedd o enghreifftiau ar ein negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Ond waeth a ydych yn ddyn neu’n fenyw, yn fachgen neu’n ferch, rydyn ni angen i bob un ohonoch gymryd rhan, oherwydd gyda’n gilydd, fel dywedodd Michelle Obama, ‘d’oes dim terfyn ar yr hyn y gallwn ni, fenywod, eu cyflawni.’

Os ydych chi eisiau cymryd mwy o ran yn ein gwaith, cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf a bod y cyntaf i glywed am ein gwaith ymchwil diweddaraf,  ymunwch â ni i greu Cymru sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ar sail rhyw.