Mae Gwyneth Jones, Rheolwr Cyfathrebu DTA Cymru, yn sôn am sut mae rhaglen Egin yn helpu prosiectau cymunedol gyda gwerthuso a mesur effaith.
Nod Egin yw helpu grwpiau cymunedol i ddechrau prosiectau sy’n canolbwyntio ar daclo neu addasu i newid hinsawdd, neu i fyw’n fwy cynaliadwy. Ond sut allwch chi wybod os ydy eich ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth go iawn?
Mae’r rhan fwyaf ohonom eisiau gwneud ein rhan i wneud y byd yn lle gwell – ond i wneud yn siŵr nad yw ein prosiect yn dod yn flwch ticio arall, neu’n rhywbeth sy’n teimlo’n dda ond sydd ddim yn gwneud gwahaniaeth go iawn, mae’n bwysig mesur effaith ein prosiectau. Y ffordd honno, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw wir yn helpu yn y ffordd rydym yn ei obeithio.
MWY NA RHIFAU YN UNIG
Nid yw mesur effaith i gyd am rifau – mae o am ddysgu a gwella. Pan fyddwch yn mesur effaith, gallwch ddysgu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei newid. Mae fel edrych ar fap i weld os ydych chi’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Drwy ddeall effaith eich prosiect, gallwch wneud penderfyniadau doethach, gwella’r hyn yr ydych yn ei wneud, a dod o hyd i ffyrdd newydd o gael effaith fwy byth.
Mae mesur effaith hefyd yn eich helpu i ddweud wrth eraill am y gwahaniaeth rydych yn ei wneud. Pan fyddwch chi’n rhannu effaith eich prosiect, mae’n annog cydweithio ac yn cyffroi pobl am be da chi’n ei wneud. Drwy brofi bod eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth o ddifrif, daw hi’n haws cael mwy o adnoddau a chymorth – sy’n cynnwys grantiau a chyllid. Mae hynny’n golygu y gallwch chi ehangu eich prosiect a chyrraedd mwy o bobl, gan gael hyd yn oed mwy o effaith yn eich cymuned – a thu hwnt.
GWYBOD BETH I’W FESUR
Felly – sut byddwch chi’n gwybod bod eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth go iawn? Sut byddwch chi’n gwybod beth i’w fesur?
Dyna lle mae monitro a gwerthuso yn dod i mewn: mae ein partneriaid, Lab Cydgynhyrchu Cymru, wedi bod yn gweithio gyda ni i ddatblygu Pecyn Cymorth Monitro a Gwerthuso o’r enw Profi, Arbrofi a Gwella at ddefnydd yr holl grwpiau a gefnogir trwy’r rhaglen – er y bydd ar gael i unrhyw un hefyd i lawrlwytho.
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth yma
Pam ddylen ni fesur effair ein prosiect? Llun yn dangos: 1) I wneud yn siwr ein bod ni wir yn gwneud gwahaniaeth, 2) er mwyn i ni gopio ein syniad i rywle arall, 3) i gyffri pobl eraill am ein prosiect, 4) er mwyn cael mwy o gefnogaeth (yn cynnwys ariannu), 5) i ddysgu a gwella wrth i ni fynd ymlaen
Meddai Mike Corcoran, o Labordy Cydgynhyrchu Cymru:
‘Syniad y pecyn cymorth yw sicrhau bod pob grŵp, dim ots be ydy eu gwybodaeth, gallu neu brofiad blaenorol, yn gallu cynnal gwerthusiad ystyriol, ystyrlon o ansawdd uchel, gan ddilyn arferion gwerthuso da sydd wedi’u sefydlu.
‘Fel y mae ei enw’n awgrymu, mae’r pecyn cymorth hwn yn ymwneud â phrofi a gwella. Mae o am wybod sut i ddangos bod eich syniad gweithio, ac yn bwysicach fyth, sut i nodi’r ffyrdd o wneud iddo weithio hyd yn oed yn well yn y dyfodol.
‘Bydd y pecyn cymorth yn dod â chanllawiau gwerthuso ac adnoddau a gyhoeddwyd gan arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes. Trwy hunanasesiad syml, wedi’i ategu gan gyfres o weithgareddau trafod, bydd grwpiau yn gallu nodi’r methodolegau, a’r adnoddau penodol, sydd wedi’u halinio orau â’u gweithgareddau personol, anghenion ac amcanion.
‘Nid oes rhaid i weithgareddau monitro a gwerthuso fod yn gymhleth, ac mae’r dulliau a nodir yn y pecyn cymorth hwn yn dechrau o bethau mor syml ag ysgrifennu geiriau ar nodiadau Post-It: ond dylai pob gwerthusiad fod yn bwrpasol, yn ystyriol ac yn briodol i’r bobl dan sylw – mae Profi, Arbrofi a Gwella yn helpu unrhyw un sy’n ei ddefnyddio i wneud yn siŵr bod hynny’n wir, gyda chyfres o gwestiynau amlddewis syml yn eich cysylltu â’r offer a’r dulliau monitro a gwerthuso sy’n gweddu orau i’ch anghenion.
‘Mae’r pecyn cymorth hefyd yn amlygu gwerth cydgynhyrchu: gwneud pethau gyda nid ar gyfer eich cymunedau. Mae gwerthusiadau yn gyfle naturiol i gael sgwrs gyfoethog ac agored gyda phawb yr ydych yn gweithio gyda nhw, gadael iddynt rannu eu straeon yn eu geiriau eu hunain, gwneud penderfyniadau am newidiadau yn y dyfodol gyda’n gilydd, meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd, a sefydlu ymdeimlad o berchnogaeth a rennir dros eich gweithgareddau , wrth i chi weithio gyda’ch gilydd tuag at eich nodau cyfunol.
‘Mae datblygiad y pecyn cymorth wedi’i lywio gan “dîm cyd-ddylunio” sy’n cynnwys aelodau o dîm Egin, tîm Camau Cynaliadwy TNL, a defnyddwyr arfaethedig y pecyn cymorth, gan gynnwys cymunedau sy’n cymryd rhan ym mhrosiect “Camu Allan i Natur” Pobl yn Gyntaf RhCT.’
CEFNOGAETH GAN EGIN
Bydd grwpiau a gefnogir gan Egin yn gallu cael cymorth uniongyrchol gan Labordy Cydgynhyrchu Cymru i’w helpu i ddefnyddio’r pecyn cymorth. Fel rhan o Gymuned Ar-lein Egin, byddwch hefyd yn cael mynediad i grŵp o’r enw Profi, Arbrofi a Gwella, lle gallwch chi rannu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu gyda grwpiau eraill ar hyd y ffordd. Bydd Labordy Cydgynhyrchu Cymru hefyd yn cynnal cyfarfodydd ar-lein chwarterol lle gallwch gwrdd â grwpiau eraill, rhannu straeon, a defnyddio profiad eich gilydd i helpu i wneud eich prosiect yr un mwyaf dylanwadol y gall fod.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n rhan o Egin, mae croeso i chi lawrlwytho’r pecyn Monitro a Gwerthuso a gwneud eich ffordd drwyddo! Darllennwch fwy a cewch afael Pecyn Cymorth yma.
MWY O GEFNOGAETH
Cofnodwyd y blog hwn yn wreiddiol ar egin.org.uk, ewch i wefan Egin i gael gwybod mwy am y prosiect a gweld adnoddau ychwanegol am fonitro a gwerthuso gan Mike Corcoran yn Labordy Cydgynhyrchu Cymru.
Mae Gwyneth hefyd wedi ysgrifennu darn arall ar gyfer prosiect All About Egin WCVA – Cefnogi cymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.