Dyn mewn parc yn gwthio dyn hŷn mewn cadair olwyn

Pam ddylai pob un ohonom ni fod yn fwy Ymwybodol o Ofalwyr y Diwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth hwn

Cyhoeddwyd: 29/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Rob Simkins

Mae 29 Hydref yn nodi Ddiwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth y Cenhedloedd Unedig. Dyma Rob Simkins, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru Gofalwyr Cymru, i ddweud mwy wrthym.

GOFAL A CHYMORTH

Mae Diwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth y Cenhedloedd Unedig, ynghyd ag Wythnos y Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfnodau allweddol drwy gydol y flwyddyn i amlygu trafferthion cannoedd ar filoedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Gan ystyried yr heriau hirsefydlog sy’n wynebu lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thros y byd, nid yw’n syndod bod gofal di-dâl a’r bobl sy’n ei ddarparu yn cael eu hanwybyddu’n aml. Ni fydd y teimlad hwn o gael eu hanwybyddu yn deimlad newydd i bobl yng Nghymru sydd, neu wedi bod, yn ofalwyr di-dâl yn y gorffennol.

Yn ôl cyfrifiad 2021, mae mwy na 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ond credwn fod y rhif gwirioneddol yn llawer uwch. Nid yw hyn yn syndod, mae’n siŵr, pan ddengys gwaith ymchwil Wythnos Gofalwyr 2024 fod gan bob un ohonom 50% o siawns o ddod yn ofalwr di-dâl erbyn y byddwn ni’n 50 oed. Mae gofalwyr di-dâl yn arbed dros £10 biliwn y flwyddyn i economi Cymru – mwy na holl gyllideb y GIG – ond er bod gofal di-dâl yn cyffwrdd â chymaint o bobl a mor hanfodol, mae’n parhau i gymryd dwy flynedd, ar gyfartaledd, i rywun sylweddoli ei fod yn ofalwr di-dâl.

TAFLU GOLEINI

Gallwn i, a llawer o’r gofalwyr di-dâl rwyf yn ddigon ffodus i weithio’n agos gyda nhw, dreulio dyddiau yn nodi’r holl broblemau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl yng Nghymru ac ymyriadau polisi amrywiol sy’n debygol iawn o wneud eu bywydau’n well. Ond heddiw, rwyf eisiau taflu goleuni ar ymwybyddiaeth o ofalwyr. Oherwydd heb ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well o ofal di-dâl a’r bobl sy’n ei ddarparu, ni fydd ymyriadau polisi (hyd yn oed gyda’r bwriadau gorau) yn werth y papur y cânt eu cyflwyno arno.

Yn gynharach y flwyddyn hon, lansiodd Carers UK yr ymgyrch ‘This Counts as Care’, gan ddefnyddio’r enghreifftiau di-ri o rolau gofalu rydym wedi’u gweld dros y blynyddoedd, i helpu mwy o bobl i ddeall bod y gofal a’r cymorth y gallent fod yn eu rhoi i’w hanwyliaid, yn cyfri fel gofal. I lawer o bobl, gall hyn deimlo fel rhan o’u gwaith o fod yn rhiant, partner, plentyn, cymydog neu aelod o’r teulu.

Gwyddom fod llawer o ofalwyr di-dâl yn teimlo eu bod yn gallu ymdopi â’u rôl ofalu ochr yn ochr â gweddill eu bywydau, o leiaf am gyfnod. Ond, drwy sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn ymwybodol o beth yw gofal di-dâl, a beth mae hyn yn ei olygu, bydd modd i ofalwyr di-dâl, os a phan fydd rolau gofalu’n newid, fel y maen nhw’n eu gwneud fynych, wybod bod cymorth ar gael a gwybod o ble i gael yr help hwnnw.

Dyma pam ein bod wedi mynd ati, gyda’n ffrindiau da yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, i ddatblygu’r prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr. Mae Ymwybyddiaeth o Ofalwyr yn cyd-gynhyrchu adnoddau i gynorthwyo gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a gofalwyr, gan ddefnyddio profiad bywyd a phroffesiynol y ddau grŵp. Ond yn ei hanfod, mae’r prosiect wedi’i gyllido i gyflwyno hyfforddiant i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol tan fis Mawrth 2025, drwy’r Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.

YMWYBYDDIAETH O OFALWYR

Bydd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhyngwynebu â gofalwyr di-dâl sy’n helpu i ofalu am rywun bron bob dydd. Bydd gallu adnabod y bobl hynny fel gofalwyr, eu helpu i weld eu hunain fel gofalwyr os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, a’u cyfeirio at gymorth statudol a chymorth cymunedol pan fo angen yn gwneud byd o wahaniaeth i’r amser y mae’n ei gymryd i ofalwyr sylweddoli eu bod yn ofalwyr a chael cymorth.

Mae’r agenda ataliol hon yn dyngedfennol i ofal di-dâl, ac mae hyn yn ei dro yn ei wneud yn dyngedfennol i hyfywedd parhaus ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae atal yn faes y mae’r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol ynddo, a bydd yn parhau i chwarae rhan hanfodol ynddo, felly rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad a gwelliant parhaus Ymwybyddiaeth o Ofalwyr. Oherwydd nid yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn unig y mae angen i ni wella ein gallu i adnabod a chefnogi gofalwyr. Sefydliadau addysg, cyn ac ôl-16, gweithfannau a chymunedau, mae’r rhain i gyd yn feysydd lle y bydd gofalwyr yn bodoli, a hynny mewn niferoedd.

Felly ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth 2024, rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd gydnabod pwysigrwydd cael ymwybyddiaeth o ofalwyr ac ymrwymo i wneud ein hunain, ein rhwydweithiau a’n mudiadau yn fwy Ymwybodol o Ofalwyr ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

DARGANFOD MWY

Os hoffai eich mudiadau gael unrhyw wybodaeth neu hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Ofalwyr, mae croeso i chi gysylltu â Gofalwyr Cymru neu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac fe wnawn ni ein gorau i’ch cynorthwyo.

Os ydych chi wedi darllen yr erthygl a meddwl, ‘Rwy’n swnio fel gofalwr di-dâl’, cysylltwch â Gofalwyr Cymru am ragor o wybodaeth a chyngor – mae cymorth ar gael ac nid ydych ar eich pen eich hun.

Am ragor o wybodaeth am y dirwedd iechyd a gofal yng Nghymru, edrychwch ar Brosiect Iechyd a Gofal CGGC.