Mae Caroline Gaskin, Rheolwr Datblygu’r Mis Rhoi drwy’r Gyflogres, yn ein tywys drwy’r buddion o gymryd rhan yn yr ymgyrch i fudiadau gwirfoddol a rhoddwyr.
Wrth i ni ddynesu at Fis Rhoi drwy’r Gyflogres mis Chwefror, mae gan elusennau yng Nghymru gyfle unigryw i wella eu strategaethau codi arian. Mae’r dull rhoi hwn sy’n effeithlon o ran treth, lle mae cyflogeion yn rhoi arian yn uniongyrchol o’u cyflog gros, yn gyfle digyffwrdd i elusennau ledled Cymru gael incwm cynaliadwy.
Ers i’r ymgyrch rhoi drwy’r gyflogres lansio ym 1987, mae dros 1 miliwn o bobl yn rhoi i elusennau bob blwyddyn drwy eu cyflogau, a gyda’i gilydd, maen nhw wedi codi dros £2 biliwn i achosion da. Mae’r rheini sy’n rhoi drwy’r gyflogres wedi cyfrannu cymaint at y sector ond mae hyn wedi’i digwydd yn gymharol ddisylw, sy’n eu gwneud nhw’n rhai o arwyr di-glod rhoi elusennol.
PŴER RHOI RHEOLAIDD
Mae rhoi drwy’r gyflogres yn rhoi ffrwd incwm gyson, anghyfyngedig i elusennau – rhywbeth fwyfwy gwerthfawr yn yr hinsawdd economaidd ansicr sydd ohoni heddiw. I elusennau yng Nghymru, yn enwedig mudiadau llai, gall y dibynadwyedd hwn fod y gwahaniaeth rhwng goroesi a ffynnu. Fel elusen, mae rhoi drwy’r gyflogres yn helpu i roi’r gallu i chi gynllunio’r ffordd rydych chi’n darparu eich gwasanaethau yn well ac ymrwymo i brosiectau hirdymor sydd o fudd i gymunedau yng Nghymru.
GWARIO LLAI I ROI
Rhoi drwy’r gyflogres yw’r ffordd effeithlon o ran treth i bobl roi at achos sy’n agos at eu calonnau. Mae rhoddwyr yn elwa drwy roi llai i wneud mwy o dda. Mae rhoddion a wneir drwy gynlluniau rhoi drwy’r gyflogres yn cael eu cymryd o gyflogau fel didyniad cyn treth – os yw rhoddwr yn talu treth ar gyfradd o 20%, bydd rhodd o £10 y mis yn costio £8 yn unig iddo, a gall gefnogi unrhyw achos sy’n agos at ei galon, mewn ffordd hawdd, heb gyfyngiad ar faint y mae’n ei roi na faint o elusennau y gall eu cefnogi.
ADEILADU PARTNERIAETHAU CORFFORAETHOL CRYFACH
Gall rhoi drwy’r gyflogres roi cyfle i elusennau ddyfnhau eu cydberthnasau â phartneriaid corfforaethol. Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn chwilio am ffyrdd ystyrlon o ddangos eu hymrwymiad i gymunedau lleol. Trwy gael busnesau i ymhél â’r ymgyrch rhoi drwy’r gyflogres, gall elusennau gynnig ffordd hawdd i’r cwmnïau hyn wella eu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.
I gyflogwyr, mae rhedeg cynllun yn cynnig buddion di-ri gan gynnwys:
- Gwella eich proffil o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
- Hybu eich enw da a’ch delwedd gyhoeddus
- Dangos ymrwymiad i achosion sy’n agos at galonnau eich cyflogeion
- Helpu i recriwtio a chadw staff a gwella morâl
- Cydnabyddiaeth drwy nodau ansawdd a gwobrau rhagoriaeth
Gyda mwy na 70% o gyflogeion yn mynnu cyfrifoldeb cymdeithasol gan eu cyflogwyr bellach, mae yna angen enfawr i fudiadau roi mwy o bwyslais ar eu harferion o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac egwyddorion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Mae’r Mis Rhoi drwy’r Gyflogres yn gyfle perffaith i elusennau gysylltu cyflogwyr â chynllun sy’n ysgogi cyflogeion ac yn cynyddu effaith gymdeithasol mudiad.
MIS RHOI DRWY’R GYFLOGRES
Mae’r Mis Rhoi drwy’r Gyflogres yn digwydd bob mis Chwefror pan ddaw elusennau, *asiantaethau rhoi drwy’r gyflogres, *mudiadau codi arian proffesiynol, a chwmnïau ynghyd i geisio codi ymwybyddiaeth o’r cynllun ymhlith cyflogeion, cyflogwyr ac elusennau.
Mae’r Mis Rhoi drwy’r Gyflogres yn amser gwych i gael mwy o sgyrsiau ynghylch rhoi drwy’r gyflogres, boed hynny’n fewnol neu gyda phartneriaid corfforaethol, ac i annog mwy o gyflogeion i gefnogi eich achos drwy roi drwy’r gyflogres. Gall hyn fod ar ffurf rhoddion rheolaidd, ond mae hefyd opsiwn i redeg ymgyrch untro gyda’ch partneriaid corfforaethol.
SEFYDLU CYNLLUN AR GYFER EICH STAFF
Os nad oes gan eich elusen gynllun rhoi drwy’r gyflogres ar waith eto ar gyfer eich staff eich hun, beth am ei gyflwyno nawr a chynllunio ymgyrch fewnol? Bydd sefydlu a hyrwyddo’r cynllun yn uniongyrchol yn helpu i roi’r hyder i chi siarad â’ch partneriaid corfforaethol am eich profiad uniongyrchol.
Ond, mae’n bwysig cadw’r opsiwn yn agored i gyflogeion eich elusen gefnogi unrhyw elusen o’u dewis: mae gan bob un ohonom ni ein diddordebau ein hunain, ac nid yw gweithio i un yn golygu nad oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi achosion eraill hefyd.
LLEDAENWCH Y GAIR AR GYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Cafodd Mis Rhoi drwy’r Gyflogres ei greu gyda’r cyfryngau cymdeithasol mewn golwg, oherwydd mae’n ffordd gost-effeithiol iawn o gymryd rhan. Trydarwch am roi drwy’r gyflogres, rhowch gynnwys ar LinkedIn ac os gallwch chi, ceisiwch gymryd rhan o’ch tudalen hafan drosodd am y mis.
Os nad ydych wedi trafod y syniad o roi drwy’r gyflogres gyda’ch partneriaid corfforaethol o’r blaen, efallai y gallech ddechrau sgyrsiau am y modd hwn o roi wrth ddynesu at y Mis Rhoi drwy’r Gyflogres.
Os nad oes ganddynt gynllun rhoi drwy’r gyflogres eisoes ar waith, gallech chi eu helpu i’w gyflwyno – a gallai’r ffaith mai chi yw’r elusen gyntaf a gaiff ei chrybwyll yn y cyd-destun hwn fod yn gyfle gwych i recriwtio cefnogwyr rheolaidd. Ond cofiwch y gall cyflogeion gefnogi unrhyw achos o’u dewis.
RHAGOR O WYBODAETH
Barod i groesawu rhoi drwy’r gyflogres i’ch elusen? Ewch i *www.payrollgivingmonth.com i ddysgu sut i sefydlu eich cynllun, cael gafael ar ddeunyddiau hyrwyddo a chysylltu ag asiantaethau rhoi drwy’r gyflogres. Ymunwch â’r nifer cynyddol o elusennau yng Nghymru sy’n creu ffrydiau incwm cynaliadwy drwy’r dull rhoi pwerus hwn.
*Saesneg yn unig