Llun agos o law oedolyn yn dal dogfen

Paid anghofio

Cyhoeddwyd: 28/06/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Natalie Zhivkova

Cyn Etholiad Cyffredinol y DU, mae ein Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau, Natalie Zhivkova, yn amlygu blaenoriaethau’r sector gwirfoddol sy’n cael sylw ym maniffestos y pleidiau – a’r rhai y gwnaethant eu hanghofio.

Diwrnodau yn unig sydd tan yr etholiad, ac eto, ychydig iawn sy’n eglur ynghylch cynigion y pleidiau gwleidyddol gwahanol ar gyfer y sector gwirfoddol. Serch cyfrannu £20 biliwn at Gynnyrch Domestig Gros (GDP) y DU a galluogi oddeutu 14.2 miliwn o bobl i wirfoddoli bob blwyddyn, nid yw’r sector yn cael fawr iawn o sylw ar restr blaenoriaethau datganedig unrhyw blaid.

Mae’n bosibl (ac rwy’n mawr obeithio) bod pleidiau wedi meddwl mwy am y sector na’r hyn a ddangosir yn y maniffestos. Ni wnaeth cyhoeddiad sydyn yr etholiad cyffredinol adael llawer o amser i unrhyw un baratoi, gyda rhai canghennau o bleidiau Cymru yn cyhoeddi eu maniffestos llai na phythefnos cyn diwrnod yr etholiad.

BETH YW BLAENORIAETHAU SECTOR GWIRFODDOL CYMRU AR GYFER YR ETHOLIAD HWN?

Mae’r rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol yn arbenigol iawn a chyda diddordeb cryf mewn meysydd polisi penodol. Fy nod yw ymdrin â’r materion trosfwaol sy’n bwysig i amrywiaeth eang o fudiadau.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF)

Mae dyfodol cyllid i ddisodli cyllid yr UE yn flaenoriaeth fawr i’r sector. Byddai lleihau’r gronfa yn cyflwyno canlyniadau trychinebus i fudiadau gwirfoddol. Mae trefniadau cyllido amlflwyddyn yn rhoi’r sefydlogrwydd a’r uchelgais i ni ddylunio a chyflwyno rhaglenni i drechu’r heriau economaidd-gymdeithasol a wynebir gan gymunedau yng Nghymru.

Mae CGGC wedi llofnodi llythyr ar y cyd gyda’n chwaer-fudiadau ledled y DU yn galw ar bob arweinydd plaid i:

‘Ehangu’r cyllid ar gyfer cronfeydd Ffyniant Bro, gan gynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) i 2030 er mwyn cyd-fynd ag amserlen cenadaethau’r cyllid Ffyniant Bro.’

Rydym hefyd yn cefnogi dull sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru llawer mwy. Bydd hyn yn caniatáu aliniad strategol a gweithredol rhwng rhaglenni ac yn cyflwyno arbenigedd mewn cynllunio a darparu o’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mynediad at Lywodraeth y DU

Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd cyrraedd gweinidogion ac uwch-swyddogion Llywodraeth y DU. Golyga hyn nad yw eu lleisiau ar faterion o fewn cyfrifoldebau a gadwyd o yn cael eu clywed yn aml. Rydym eisiau cael mwy o gyfleoedd i sgwrsio â’r llywodraeth newydd.

Yn ddelfrydol, rydym eisiau gweld ein hawl i siarad â chynrychiolwyr o Lywodraeth y DU wedi’i ymgorffori yn y gyfraith, yn yr un modd ag y mae Cynllun y Trydydd Sector yn ei gwneud hi’n ofynnol i weinidogion Llywodraeth Cymru gwrdd â chynrychiolwyr o’r sector yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi’r sector gwirfoddol ledled y DU i ddechrau meithrin partneriaeth barhaol â llywodraeth y DU.

Sgyrsiau rhynglywodraethol

Nid yw strategaethau, penderfyniadau cyllido, polisïau na’r cynlluniau ar gyfer y sector sydd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn alinio bob amser. Mae angen cydgysylltiad gwell rhwng y ddwy lywodraeth fel bod effaith bositif eu hymyriadau yn cael eu mwyhau a gwastraff a dyblygu yn cael eu hatal.

Recriwtio a chadw gwirfoddolwyr

Mae problemau eang ar draws y sector o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Ym mis Tachwedd 2023, gwnaethom gynnal arolwg o fwy na 150 o gynrychiolwyr y sector gwirfoddol. Nododd 90% eu bod yn profi heriau wrth geisio recriwtio gwirfoddolwyr. Nododd 82% eu bod yn cael anhawster cadw gwirfoddolwyr.

Yn ôl y staff a arolygwyd, y prif heriau i wirfoddolwyr newydd yw prinder amser, diffyg ymwybyddiaeth a chyfyngiadau ariannol. Mae’r problemau’n debyg pan ddaw hi i gadw gwirfoddolwyr – llai o amser ar gael, cyfyngiadau ariannol ac iechyd corfforol neu feddyliol wedi gwaethygu. Nid yw hyn yn syndod mewn argyfwng costau byw.

Mae’r portffolio gwirfoddoli wedi’i ddatganoli ac rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar ddull newydd o wirfoddoli yng Nghymru. Fodd bynnag, gall Llywodraeth y DU liniaru ychydig o’r pwysau drwy bolisïau a chanllawiau adrannau sy’n gwneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau – byddai arweiniad clir ar wirfoddoli yn stopio pobl ar fudd-daliadau rhag optio allan am eu bod yn ofni colli eu budd-daliadau
  • Y Swyddfa Gartref – byddai canllawiau gwirfoddoli cynhwysfawr ar gyfer ceiswyr lloches yn lleihau’r petrustod i wirfoddoli oherwydd diffyg eglurder ar eu hawliau a’u cyfyngiadau
  • Y Trysorlys – fel aelod o’r *Gynghrair AMAP, rydym yn galw am adolygiad o’r Taliadau Lwfans Milltiredd Cymeradwy, fel nad oes yn rhaid i yrwyr gwirfoddol fod allan o boced

PA RÔL Y MAE PLEIDIAU YN EI RHAGWELD AR GYFER Y SECTOR?

Mae’r rhan fwyaf o bleidiau yn cyfeirio at rôl ‘cymdeithas sifil’ neu ‘gymunedau’ o ran adfer cynefinoedd natur a helpu i drechu’r newid yn yr hinsawdd, lliniaru tlodi plant a lleihau cyfraddau aildroseddu. Mae’n dda gweld bod bwriad i weithio gyda grwpiau cymunedol ar y problemau hyn, ond mae’n siomedig nad oes sôn am ddyrannu adnoddau i’w helpu i chwarae eu rhan.

O ran dyfodol yr UKSPF, mae rhai pleidiau wedi mynegi bwriadau i gael gwared â’r rhaglen yn y pen draw, tra bod eraill yn addo ei hehangu (ond nid oes unrhyw addewidion i’w gwneud yn barhaol). Pan ddaw hi i reoli’r gronfa, mae’r bwriadau’n amrywio o’i chadw gyda Llywodraeth y DU, drwy sefydlu cydgyngor annibynnol ledled y DU, i’w throsglwyddo i weinyddiaethau datganoledig.

Mae rhai pleidiau yn crybwyll cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol mwy nag eraill, ond nid oes unrhyw un wedi gosod strategaeth glir i helpu ein sector i ffynnu. Mae’n anodd rhagweld beth i’w ddisgwyl gan y llywodraeth nesaf – waeth beth fydd canlyniadau’r etholiad.

GWAITH CGGC AR ÔL YR ETHOLIAD

Mae ffurfio llywodraeth newydd bob amser yn cyflwyno cyfleoedd newydd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y DU ar gynllunio senarios a dylanwadu ar flaenoriaethau yn ystod y 100 diwrnod cyntaf. Ein rôl yn y partneriaethau hyn fydd sicrhau bod sector gwirfoddol Cymru yn cael ei glywed a cheisio cael canlyniadau positif i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

RHAGOR O WYBODAETH

Maniffestos y pleidiau:

Adnoddau pellach:

*Saesneg yn unig