Yma, mae Avril Gartland, Swyddog Gwirfoddoli ar gyfer Home-Start Ceredigion, yn siarad am lwyddiant diweddar y mudiad yn ennill y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Wedi’i lansio ym 1992, mae Home-Start Ceredigion yn elusen sy’n cynorthwyo teuluoedd agored i niwed ar hyd a lled Ceredigion.
Rydyn ni’n cynorthwyo teuluoedd â phlant o dan 11 oed sy’n byw yn y cartref. Caiff y teuluoedd hyn eu cynorthwyo gan wirfoddolwyr sy’n ymweld â phobl yn eu cartrefi, grwpiau cyn-ysgol, sesiynau cyn-ysgol i blant sy’n barod am yr ysgol, cymorth â dyledion, cymorth â chamdriniaeth ddomestig, cymorth iechyd meddwl, cymorth ar ôl profedigaeth, cymorth yn y llys, banc bwyd, banc dillad – mae’r rhestr yn ddiddiwedd!
Ar hyn o bryd, mae Home-Start Ceredigion yn cyflogi chwe aelod o staff, gyda 14 o wirfoddolwyr gweithredol ac yn cynorthwyo llawer o deuluoedd yn yr ardal leol. Mae ein staff wedi bod yn hyfforddi gwirfoddolwyr i gynorthwyo teuluoedd yn eu cartrefi neu mewn lleoliad grŵp. Mae chwe grŵp yn cael eu cynnal ledled y sir i deuluoedd, a arweinir gan aelod o staff a’i gefnogi gan wirfoddolwr.
ENNILL BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR
Mae derbyn y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi bod yn gyflawniad mawr i mi’n bersonol ac i Home-Start, gan wybod bod gwirfoddolwyr Home-Start yn cael gofal mewn modd proffesiynol a chyfeillgar. Heb wirfoddolwyr Home-Start, ni fyddai’r elusen yn gallu rhedeg, heb sôn am fod yn llwyddiannus. Mae’r broses wedi caniatáu i ni ganolbwyntio o’r newydd ar yr hyn y mae gwirfoddolwyr eu hangen neu eu heisiau, ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Dechreuodd Home-Start Ceredigion ar y broses Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ym mis Ebrill 2021. Gwnaeth y broses helpu gyda chynigion cyllido a chyfrannu at wneud i’n holl wirfoddolwyr deimlo eu bod yn rhan o’r elusen ar ôl COVID.
Dechreuodd y broses gyda chyfarfod gyda’n haseswr a gweithdy rhagarweiniol. Bryd hynny, teimlai’r tîm ei bod hi’n dasg amhosibl, ond drwy fynd ati mewn modd trefnus, bu’r broses yn llwyddiant ysgubol!
DADANSODDIAD O’R BROSES BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR
Cawsom gymorth gan Trish Lewis o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), ein Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol. Ar ôl i Trish fynd drwy’r safon eto gam wrth gam, roeddwn i’n teimlo bod y broses yn llawer mwy hygyrch, felly dechreuais addasu’r broses i’r gwirfoddolwyr ac ailwampio’r gwaith papur.
Cafodd ein haseswr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ei newid – a wnaeth fy mhoeni ychydig, ond roedd Sue (yr asesydd newydd) yn hollol hyfryd. Gwnaeth hi dawelu fy meddwl a gosod dyddiadau ar gyfer pryd i gwblhau pethau erbyn a phryd fyddai’r asesiad yn cael ei gynnal. Cefais rai cyfarfodydd gyda Sue, a gwnaeth hi leddfu fy meddwl a gwneud i’r broses fynd rhagddi’n llawer mwy llyfn.
Pennwyd amserlen ar gyfer cyfweld â’r gwirfoddolwyr, yr ymddiriedolwyr a’r staff a chafodd y swp olaf o wybodaeth ei addasu er mwyn galluogi’r asesiadau i gael eu cynnal ar ddechrau mis Medi.
Gwnaeth holl wirfoddolwyr Home-Start gymryd rhan yn y broses Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, a dim ond un a fethodd â dod i’r cyfweliad oherwydd salwch. Gwnaeth yr holl wirfoddolwyr roi eu mewnbwn ar y wobr a chawsant wybod unwaith y gwnaethom ni ennill y dyfarniad. Dyma rai o’r ymatebion:
‘Cŵl! Mae hynna’n grêt! Da iawn chi ar eich holl waith caled chi hefyd!’
‘Am newyddion ardderchog! Da iawn bawb’
‘Da iawn! Mor falch’
‘Da iawn, mae Home-start yn ei haeddu’n bendant xxx’
Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio bob dydd nawr i sicrhau y gall gwirfoddolwyr Home-Start gael gafael ar gyfleoedd gwirfoddoli cynhwysol a chefnogol.
CYNLLUNIAU AR GYFER Y DYFODOL
Ym mis Ebrill 2022, derbyniodd Home-Start Ceredigion bum mlynedd o gyllid Loteri a fydd yn helpu’r elusen i barhau i gefnogi teuluoedd agored i niwed yng Ngheredigion gyda help a chefnogaeth eu gwirfoddolwyr – ein harwyr.
Bydd Home-Start Ceredigion yn cwblhau proses sicrhau ansawdd gyda Home-Start UK ym mis Ionawr 2023. Bydd y dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn helpu’r broses sicrhau ansawdd oherwydd mae llawer o’r wybodaeth sydd ei hangen eisoes yn ei lle.
RHAGOR O WYBODAETH
Os hoffech chi wirfoddoli gyda Home-Start Ceredigion cysylltwch ag Avril ar 07970847443 neu’r Swyddfa ar 01570 218546, neu anfonwch neges atom ni ar Facebook:
- instagram.com/homestartceredigion (Saesneg yn unig)
- facebook.com/hsceredigion (Saesneg yn unig)