Gwirfoddolwr yn darllen llyfr i grŵp o bobl hŷn

Oes o wirfoddoli

Cyhoeddwyd: 12/03/21 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Margaret Thorne CBE DL

Wedi’i diweddaru: 08/04/2021*

Mae Is-lywydd CGGC, Margaret Thorne CBE DL wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn yng ngwasanaeth sector gwirfoddol Cymru – ac wedi troi’n 98 oed yn ddiweddar. Gofynnwn iddi am ei hatgofion o oes o wirfoddoli. 

BETH YW EICH ATGOF CYNTAF O WIRFODDOLI? 

Mae’n debyg na fyddwn i wedi ei ystyried yn wirfoddoli ar y pryd, ond daw’r atgof gyntaf o pan oeddwn i yn yr ysgol. Y drws nesaf i ni roedd ystad dai a oedd wedi’i hadeiladu ar ôl y rhyfel, ac fe fydden ni’n mynd gyda fy nhad i gasglu arian i gael llaeth i fabanod – plant oedd wedi’u hamddifadu o laeth yn sgil Rhyfel Cartref Sbaen, fel rhan o’r ymgyrch Llaeth i Sbaen.

Cefais fy mhrofiad cyntaf go iawn o wirfoddoli’n ymwybodol gyda’r Groes Goch. Roedden ni wedi symud o Gaerloyw i Gastell-nedd ar gyfer gwaith fy ngŵr. Roedd yn ardal newydd sbon i mi, ond drwy gasglu fy mab o’r ysgol feithrin, bûm yn ddigon ffodus i ddod yn gyfeillgar ag un o godwyr arian y Groes Goch.

Gwnaethon ni godi digon o arian i ddechrau canolfan newydd, ac mewn dim o dro, roeddwn i’n rhedeg y ganolfan a’r lliaws o weithgareddau a drefnwyd. Wedyn wrth gwrs fe euthum ymlaen i helpu i sefydlu Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot ac mae’r gweddill yn hen hanes.

Mae’n wahanol iawn y dyddiau hyn – mae’r broses wirfoddoli yn llawer mwy ffurfiol ac angen llawer mwy o ymrwymiad, ac mae’r ffocws wedi symud i gael contractau a chynigion yn hytrach na chanolbwyntio ar godi arian yn lleol. Ond ble fydden ni heb y cysylltiadau a’r ffrindiau rwyf wedi’u datblygu drwy wirfoddoli? 

BETH FYDDECH CHI’N EI DDWEUD WRTH RYWUN SY’N MEDDWL AM WIRFODDOLI OND NAD YW’N SIŴR BLE I DDECHRAU?

Dechreuwch yn araf, fydden ni ddim yn mynd ati ar garlam…darllenwch am y mudiad a dysgu amdano cyn cael eich troed yn y drws. Yna efallai y gallwch chi fynd i ryw gyfarfod neu rywbeth yn anffurfiol i gael ymdeimlad o’r lle.

A chofiwch, os nad ydych chi’n credu y bydd yn eich gwneud yn hapus, ddylech chi ddim ei wneud – dilynwch eich hapusrwydd a chwaraewch eich rhan hyd eithaf eich gallu.

BETH YW EICH ATGOF GORAU O RYWBETH RYDYCH CHI WEDI’I WNEUD GYDAG ELUSEN? 

Roedd cael rhyddid y fwrdeistref ar yr un pryd â Michael Sheen yn un o uchafbwyntiau go iawn fy mhrofiad gwirfoddoli. Doeddwn i ddim yn ennill unrhyw arian drwy wirfoddoli, ond cefais lawer iawn o foddhad a chydnabyddiaeth ac rwy’n falch o fod wedi gwneud gwahaniaeth.

Rwy’n teimlo’n falch iawn hefyd o’r hyn a gyflawnais gyda’r Groes Goch – pan fyddaf i’n eu gweld nhw ar y newyddion yn ceisio helpu gyda thrychinebau dramor ac yn agosach at adref, rwy’n parhau i deimlo rhyw dinc o falchder o hyd am fy mod wedi cyfrannu!

O bryd i’w gilydd pan fydden i’n gwirfoddoli, yn rhannu bwcedi ac ati, byddai pobl yn dod ataf weithiau ac yn dweud pethau fel, ‘fydde fy mrawd wedi marw fel carcharor yn y rhyfel heb becynnau’r groes goch’. Roeddwn i’n cael llawer o foddhad personol o glywed hynny. 

BETH MAE BOD YN IS-LYWYDD O CGGC YN EI OLYGU I CHI?

Rwy’n ddiolchgar – nad ydyn nhw wedi colli cysylltiad â mi, eu bod wedi edrych heibio i’r ffaith nad wyf yn gallu mynd yn bell, eu bod wedi fy nghadw yn y gorlan er na allaf fynd i lawer o gyfarfodydd. Rwyf wedi adnabod Ruth Marks, y Prif Swyddog Gweithredol, ers tro byd ac rwyf mor ddiolchgar ei bod hi’n parhau i gadw mewn cysylltiad â mi. Ar y cyfan, rwy’n teimlo mor ffodus o fod wedi glanio yn y diwedd yn y gornel fach hon o Gymru.

Rwy’n gobeithio y bydd yr ymdeimlad o gymuned sydd wedi’i greu yn ystod y cyfnod dychrynllyd hwn yn para am byth. I’r rheini ohonon ni yn y sector, rydyn ni’n edrych am gymuned fwy sefydlog a chymuned sydd o bwys ac sy’n gofalu am ei gilydd. Ac rwy’n credu bod CGGC yn rhan enfawr o’r gwaith hwnnw.

DECHREUWCH AR EICH TAITH WIRFODDOLI

Os yw stori Margaret wedi’ch ysbrydoli chi i wirfoddoli am y tro cyntaf, edrychwch ar ein tudalen Dw i eisiau gwirfoddoli.

*cywirwyd yr erthygl hon ar 8 Ebrill 2021 i gywiro teitl Mrs Thorne o OBE i CBE DL