Gwirfoddolwr Rhian Aston ar Ynys Skomer

O #PwerIeuenctid i balod – Adolygu’r Wythnos Gwirfoddolwyr

Cyhoeddwyd: 15/06/20 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Korina Tsioni

Cynhaliwyd Wythnos Gwirfoddolwyr 2020 rhwng 1-7 Mehefin, ac oherwydd cyfyngiadau Covid-19, cyflwynwyd gweithgareddau ac ymgyrchoedd ar-lein ar hyd a lled Cymru. Yma, mae Korina Tsioni yn rhoi crynodeb i ni o ddigwyddiadau’r wythnos ac yn edrych ar sut gwnaeth y sector addasu.

Mae gwirfoddolwyr yn cynnig eu sgiliau, egni, profiad a’u hamser drwy gydol y flwyddyn i gefnogi cymunedau a helpu eu hunigolion agored i niwed, anifeiliaid a’r blaned.

Eleni, mae gennym fwy fyth o reswm dros ddiolch i’n gwirfoddolwyr a’u dathlu, oherwydd mae eu cyfraniadau amhrisiadwy yn ystod y cyfyngiadau symud wedi bod yn gyflym, yn hael ac yn hanfodol ar gyfer cymunedau a oedd yn cael anawsterau, yn ystod cyfnod heriol a thywyll.

Yr Wythnos Gwirfoddolwyr yn cael ei chymryd drosto

Yma yn nhîm Gwirfoddoli CGGC, gwnaeth drefnu a chyflwyno wythnos o weithgareddau ar-lein i ddweud ‘Diolch!’ Gwnaeth ein gwirfoddolwyr, Emma Morgan ac Iris Van Brunschot, gynnal ymgyrch lwyddiannus ar gyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos, drwy gymryd ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol drosto: @VolWales ar Twitter a @Volunteering Wales ar Facebook. Mae croeso i chi glicio a gweld yr holl gynnwys ffres a diddorol.

Gwnaeth Emma ac Iris ryngweithio â’r sector ehangach, gofyn ac ateb cwestiynau, lanlwytho gwybodaeth a oedd yn berthnasol i thema pob dydd ac ysgogi staff ac Ymddiriedolwyr CGGC i gymryd rhan yn yr ymgyrch #ivolunteer ar ddydd Iau 4 Mehefin.

Dywedodd Emma hyn am y profiad: ‘Roedd cymryd cyfryngau cymdeithasol Gwirfoddoli Cymru drosto yn ffordd hwyl o gysylltu â’r gymuned wirfoddoli! Mae pawb mor glên ac roedd cael cyfle i annog pawb i greu cysylltiadau ar draws yr wythnos yn ffab.’

Ychwanegodd Iris: ‘Gwnaeth yr ymgyrch cymryd drosto agor fy llygaid i fyd o gariad a gwerthfawrogiad , gwnaeth i mi sylweddoli cymaint o wirfoddolwyr diwyd ac ymroddedig sydd yno’n cynorthwyo’u cymunedau. Diolch i bob un ohonoch a roddodd groeso i ni ar y platfformau, hedfanodd y pum diwrnod hynny o ddiolchgarwch twymgalon.’

Gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd

Cawsom ddechreuad da i’r dathliadau gyda negeseuon fideo hyfryd gan ein Cadeirydd Peter Davies a’n Llywydd Michael Sheen yn diolch i wirfoddolwyr sydd wedi camu ymlaen yn ystod yr argyfwng.


Cawsom drafodaethau ysbrydoledig gyda’n cydweithwyr ac arbenigwyr o blith timau gwirfoddoli Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a chyda’n rhwydweithiau gwirfoddoli cenedlaethol ledled y wlad, gyda’u mewnbwn, eu profiad a’u gwybodaeth mor amhrisiadwy ag erioed.

Rhai o uchafbwyntiau’r wythnos, ymhlith llawer, oedd astudiaethau achos a negeseuon gan wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru’n rhannu eu storïau. Gallwch ddarllen enghraifft wych yma, a ysgrifennwyd gan Karon, gwirfoddolwr gyda Chynghrair Gwirfoddol Torfaen.

Cafwyd stori hyfryd arall am Ben, a ddychwelodd i Brifysgol Abertawe yn nhymor yr hydref i ddarganfod ei fod ar ei ben ei hun yn y tŷ roedd yn ei rannu, heb unrhyw gynlluniau, strwythur, dosbarthiadau na chyswllt dynol. Gallwch chi ddarllen ei stori lawn ar ein gwefan yn fuan.

Ac yn olaf ond nid y lleiaf, darllenwch stori gan Wirfoddolwyr ar Ynys Skomer, a benderfynodd ynysu ar yr ynys, gofalu ar ei hôl a gosod webcam i recordio adegau o fywyd gwyllt i ni eu gwylio o gysur ein cartrefi ein hunain.

Mae treulio amser gyda’r palod yn edrych yn hwyl!

Diolch i’n cydweithiwr, Louise Wilkinson, yng Nghymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) am ei holl gyfraniadau yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr. Roedden ni’n dwli ar y jig-so hefyd! Croeso i chi roi cynnig arno. 

Edrych ymlaen

Nid yw ein gwaith fel hyrwyddwyr a galluogwyr yng Nghymru’n stopio yma. Nid rhywbeth i’w ddathlu fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn unig yw ef, ond rhywbeth i’w feithrin drwy gydol y flwyddyn. Fel rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru, rydyn ni’n cynnig amrediad o adnoddau ar gyfer gwirfoddoli sy’n cynnwys mudiadau a gwirfoddolwyr.

Gall gwirfoddolwyr neu’r rheini sy’n ystyried gwirfoddoli fynd i wefan Gwirfoddoli Cymru.

Gall mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddoli sy’n chwilio am ganllawiau neu adnoddau fynd i wefan CGGC.

Prosiect sy’n arbennig o ddefnyddiol i fudiadau sydd eisiau edrych o’r newydd ar sut maen nhw’n cynnwys gwirfoddolwyr yw Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV). Darllenwch am Gymorth i Fenywod Caerdydd (mudiad sydd wedi ennill IiV yn ddiweddar), sydd wedi ysgrifennu am eu gwaith a rhoi syniadau ar sut i gadw safon uchel o wasanaeth yn ystod argyfwng pandemig.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, syniadau neu deimladau ynghylch yr Wythnos Gwirfoddolwyr neu Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, cysylltwch â:

ktsioni@wcva.cymru

volunteering@wcva.cymru

@volwales ar Twitter

Gwirfoddoli Cymru Facebook