Mae Elen Notley, Pennaeth Ymgysylltu, yn myfyrio ar adroddiad diweddar a lansiwyd gan CBI ar lwybrau arweinyddiaeth i fenywod.
Yr wythnos ddiwethaf, fe fynychais gyfarfod cyffredinol blynyddol (AGM) Rhwydwaith Menywod mewn Arweinyddiaeth CBI Cymru (Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru), lle y lansiwyd yr adroddiad ymchwil, Llwybrau Arweinyddiaeth Menywod yng Nghymru. Roedd y canlyniadau a’r drafodaeth yn ddwfn a hynod wefreiddiol.
Mae’r adroddiad yn herio’r syniad hirsefydlog fod gyrfaoedd yn datblygu drwy ‘piblinell’. I lawer iawn o fenywod, mae’n teimlo mwy fel jig-so, gyda chamau aflinol, oediadau, darnau ar goll a rheolau anweledig i gadw atynt. Gwnaeth y darlun hwnnw argraff arnaf, oherwydd mae’n cydnabod nad oes angen i arweinyddiaeth fod yn un llwybr diwyro ac ni ddylai fod felly.
LLESIANT, DIFFYGIAD A’R OLYGFA I GEN Z
Wrth siarad ar y panel, gwnaeth Asha Musoni, y Prif Swyddog Pobl yn CBI, ein hatgoffa ni nad peth ‘braf ei gael’ mo llesiant, ond hanfod yn y gweithlu a ddiffinnir yn aml fel ‘teimlo’n dda a gweithio’n dda.
Tynnodd sylw at y ffaith bod cenedlaethau iau yn gwylio arweinwyr yn cael trafferthion, yn dioddef o ddiffygiad neu’n aberthu eu bywydau personol am rolau proffesiynol, a gall hynny yn ei hun beri iddynt droi eu cefnau ar rolau arwain. Mae’r gwaith ymchwil yn cefnogi’r pryder hwn, gydag 87% o ymatebwyr yn dweud bod y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn gwneud arweinyddiaeth yn llai deniadol.
Roedd ei neges yn glir: os ydyn ni eisiau arweinwyr yn y dyfodol, rhaid i ni ddangos arweinyddiaeth ddynol, gytbwys a chynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys:
• creu a galluogi gweithio’n hyblyg
• croesawu bywoliaethau ar yr ochr a diddordebau y tu allan i waith
• ailfeddwl rhagdybiaethau hen ffasiwn fel oriau = gwerth
• ailedrych ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhieni
• ystyried wythnosau gweithio pedwar diwrnod
Dim buddion yw’r rhain, ond strategaethau cadw a denu.
O’R BIBLINELL AFLINOL I JIG-SO’R BYD GO IAWN
Mae’r syniad o biblinell yn awgrymu datblygiad llyfn, sicrwydd a chanlyniad anochel. Ond dengys y gwaith ymchwil fod llawer o fenywod yn profi rhywbeth tra wahanol: gyrfa jig-so a allai gynnwys camau i’r ochr, oediadau ar gyfer cyfrifoldebau gofalu, ailhyfforddi, dychwelyd o absenoldeb rhieni, rolau arwain rhan-amser neu ddatblygiad graddol.
Mae’r cynllun hwn yn gofyn i ni newid y ffordd rydyn ni’n rhoi gwerth ar brofiad: nid yw’r potensial i arwain yn cael ei golli am fod rhywun wedi cymryd seibiant, gallai hyn hyd yn oed ei gryfhau.
YR HYN MAE’R SECTOR GWIRFODDOL WEDI’I DDYSGU I MI
O’m mhrofiad personol, mae’r sector gwirfoddol wedi cynnig rhai o’r diwylliannau gweithio mwyaf hyblyg a dealladwy rwyf erioed wedi’u gweld.
Yn fy 20au, pan oeddwn i’n cynllunio fy llwybr gyrfa, roeddwn i eisoes yn meddwl am sut fydden i’n cydbwyso fy mywyd personol a phroffesiynol. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau plant ac yn sylweddoli y bydden i eisiau amser i ymgartrefu mewn mudiad cyn cymryd absenoldeb mamolaeth.
Yn wahanol i lawer o ddynion, canfûm fy mod nid yn unig yn ymchwilio i’r rôl, y tîm a’r cyflog, ond hefyd i bolisïau mamolaeth a gweithio’n hyblyg, pethau nad ydynt yn cael eu cyhoeddi’n agored ac sy’n lletchwith i ofyn amdanynt.
Mae hwn yn rhwystr cyn i’r daith hyd yn oed cychwyn. Ni ddylai gofyn am eich dyfodol fod yn rhywbeth dewr i’w wneud – dylai fod yn rhywbeth normal.
CAMAU YSTYRLON Y GALLWN NI EU CYMRYD NAWR
I symud o ymchwil i realiti, dyma dri cham gweithredu a ddaeth i’r amlwg i mi:
- Ail-ddylunio rolau arwain am gynaliadwyedd, nid goroesi
Os mai diffygiad yw’r pris, bydd pobl yn optio allan. Rhaid i arweinyddiaeth fod yn bosibl ochr yn ochr â gorffwys, bywyd teuluol, rolau gofalu ac iechyd. - Normaleiddio llwybrau amrywiol i arweinyddiaeth
Mae mentora, noddi a gwelededd yn bwysig, yn enwedig i’r rheini na gymerodd y llwybr neu’r amserlen draddodiadol. - Gwneud ‘rheolau cudd’ yn weladwy
Mae tryloywder ynghylch disgwyliadau, meini prawf ar gyfer cynnydd ac opsiynau arwain hyblyg yn cael gwared â rhwystrau diangen.
SYLW OLAF: RHAID I’R DYFODOL DEIMLO’N BOSIBL
Os ydyn ni o ddifrif am ddod â mwy o fenywod i mewn i’r maes arweinyddiaeth ledled Cymru, rhaid i ni greu gweithleoedd lle gall uchelgais a llesiant gydfodoli.
Mae angen i arweinyddiaeth deimlo ei fod yn werth chweil, nid yn rhywbeth sydd wedi’i dalu amdano drwy aberth personol.
BETH NESAF?
Yn CGGC, bydd y gwaith hwn yn parhau. Fel rhan o’n hymrwymiad i wneud cynnydd ar degwch, cynhwysiant ac arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, byddwn yn cynnal digwyddiad arall ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026.
Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf:
Cofrestrwch i gael cylchlythyr CGGC neu cysylltwch ag enotley@wcva.cymru os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu, cydweithio neu ddod i drafodaethau yn y dyfodol.
Dewch i ni sicrhau bod ein cenhedlaeth nesaf yn gweld arweinyddiaeth nid fel stori rybuddio ond fel llwybr ystyrlon, boddhaus a chyraeddadwy.