Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymhél â’r sector a rhanddeiliaid eraill ynghylch newidiadau diweddar ac i ddod mewn prosesau caffael. Beth allai hyn ei olygu a pham y mae’n bwysig? Mae Swyddog Polisi CGGC David Cook am edrych ar hyn.
Y CYD-DESTUN
Mae caffael yn y DU wedi’i reoli ers tro byd gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd a, chan hynny, mae wedi’i effeithio gan ymadawiad y DU. Hyd yma, mae’r dirwedd yn y maes hwn wedi bod yn gyson oherwydd cyfuniad o’r Cytundeb Ymadael a Deddf Ymadael 2018. Gwnaeth y rhain sicrhau y byddai’r rheolau’n parhau i fod yn debyg iawn yn ystod y cyfnod pontio, ac y byddai cyfreithiau perthnasol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trosi i gyfraith y DU dros dro ar ôl hyn. Nawr bod y cyfnod pontio wedi dod i ben, mae cyfle i’r sector gwirfoddol ddylanwadu ar welliannau arfaethedig i’r trefniadau caffael ar lefel Cymru a’r DU.
EGWYDDORION CAFFAEL CGGC
Mae nifer o egwyddorion allweddol yr hoffai’r sector gwirfoddol eu gweld wedi’u hymwreiddio ar draws yr holl ddiwygiadau caffael – waeth a ydynt yn cael eu datblygu gan lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru neu’r llywodraeth leol.
Yn gyntaf, dylai caffael wahaniaethu’n glir rhwng caffael nwyddau, lle gall yr eitemau a dderbynnir fod yr union yr un fath o ran eu swyddogaeth yn aml, a chomisiynu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle y mae angen rhoi llawer mwy o bwyslais ar ansawdd y gwasanaeth a hyblygrwydd y ddarpariaeth. Nid ydym, er enghraifft, yn credu bod Papur Gwyrdd cyfredol Llywodraeth y DU yn nodi’r gwahaniaeth hwn. O ganlyniad, rydym yn poeni y bydd gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn cael eu comisiynu drwy fframwaith nad yw wedi’i sefydlu i ymdrin â chymhlethdod o’r fath.
Yn ail, dylai polisi caffael ganiatáu i gyrff cyhoeddus ei addasu i’w hamgylchiadau lleol. Yng Nghymru, gellid defnyddio’r ffocws ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thwf economaidd lleol fel hwb go iawn i economïau lleol, ond dim ond os oes gan gyrff lleol y pŵer i arloesi ac addasu.
Yn drydydd, dylai rheolau caffael gael eu hysgrifennu mewn modd sy’n galluogi mudiadau’r sector gwirfoddol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, i ymgeisio ar lefel gyfartal. Byddai hyn yn cynnwys cysylltiadau hydrin a phwyslais ar werth cymdeithasol fel rhan o unrhyw dendr. Dylai canllawiau a chymorth i gomisiynwyr fod yn eglur o ran eu hangen i alluogi’r sector gwirfoddol i ymgeisio.
Yn olaf, mae newidiadau o ran caffael yn aml yn ddiwylliannol. Rydym wedi gweld gyda diwygiadau Llywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf mai derbyniad cymysg sydd wedi bod, ac yn aml yn dibynnu ar gomisiynwyr unigol. Byddem yn annog pob llywodraeth i ystyried sut i ledaenu arferion gorau i rannau o Gymru.
YMGYNGHORIADAU PRESENNOL A DIWEDDAR
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu’n eang ynghylch caffael, gan wahodd barn CGGC, partneriaid eraill yn y sector gwirfoddol, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau, er mwyn helpu i lunio’r hyn a fydd yn cael ei ystyried yn caffael yn y dyfodol.
DATGANIAD POLISI CAFFAEL CYMRU
Mae’r trydydd iteriad o Ddatganiad Polisi Caffael Cymru yn amlinellu’r cyfeiriad strategol ar gyfer caffael yn sector cyhoeddus Cymru. Ei nod yw sicrhau bod gan gaffael rôl yn y gwaith o gyflenwi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, gwaith teg a’r economi sylfaenol, a helpu i fesur cynnydd Cymru at gyflawni’r saith nod llesiant. Mae Rheolwr Risg, Caffael a Llywodraethu CGGC– Emma Waldron, wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau eang â swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn er mwyn sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed wrth ddatblygu’r datganiad.
NODYN POLISI CAFFAEL (PPN) 11/20: NEILLTUO CAFFAELIADAU SYDD ISLAW’R TROTHWY
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ofyn barn Rheolwr Risg, Caffael a Llywodraethu CGGC ar y nodyn hwn gan lywodraeth y DU. Adroddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 eu bod yn mabwysiadu’r PPN ac yn annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud yr un peth. Maen nhw wrthi’n ystyried a ellir ymestyn cwmpas y PPN i Gymru ac, os felly, byddant yn cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN).
Y FFRAMWAITH CYFFREDIN AR GYFER CAFFAEL CYHOEDDUS
Ffrwd waith gydweithredol rhwng Llywodraethau’r DU, Cymru, a’r Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yw’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus (CFPP). Diben y fframwaith yw darparu ffordd gytunedig o weithio sy’n sicrhau bod ystyriaeth lawn a phriodol yn cael ei rhoi i farnau ei gilydd wrth ddatblygu a gweithredu polisi mewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli ond lle y maen nhw wedi’u rheoli’n flaenorol gan gyfraith yr UE. Mae Rheolwr Risg, Caffael a Llywodraethu CGGC wedi rhoi adborth i Lywodraeth Cymru ar y fframwaith.
BIL DRAFFT PARTNERIAETH GYMDEITHASOL A CHAFFAEL CYHOEDDUS (CYMRU)
Yn ogystal â cheisio defnyddio deddfwriaeth i roi argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ar waith, mae’r Bil hefyd yn bwriadu gwneud y canlynol:
- sicrhau bod yr holl wasanaethau caffael yn cael eu cyflawni gan ystyried llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol
- nodi amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol
- gwella tryloywder mewn prosesau caffael
- gofyn i awdurdodau lleol gyhoeddi amcanion sydd wedi’u dylunio i gyflawni nodau cymdeithasol gyfrifol.
Mae’r ymgynghoriad ar y Bil hwn yn parhau. Gallwch ddarllen papur briffio CGGC ar y Bil hwn a chael gwybod sut i ymateb eich hun.
PAPUR GWYRDD
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ymgynghoriad ar ei Phapur Gwyrdd caffael yn ddiweddar, sy’n ceisio ‘cyflymu a symleiddio prosesau caffael, gosod gwerth am arian wrth eu gwraidd a rhyddhau cyfleoedd i fusnesau bach, elusennau a mentrau cymdeithasol arloesi ym mae cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus’.
CYSYLLTU Â NI
Mae CGGC mewn sefyllfa well i ymateb i’r sector ar y materion hyn pan fydd ganddo’r darlun mwyaf cyflawn posibl. Byddem yn dwli clywed gan gymaint â phosibl o fudiadau – waeth a ydych chi’n ymgeisio am wasanaethau ar hyn o bryd, neu heb ymgeisio ond efallai am wneud hynny, neu hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw gynlluniau o gwbl. Cysylltwch â ni yn policy@wcva.cymru.