Dyma Elen Notley, ein Pennaeth Ymgysylltu, yn crynhoi’r prif fewnwelediadau o’r pôl piniwn diweddaraf sy’n awgrymu bod newid hollbwysig ar droed mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Pan ysgrifennais ym mis Mai am ba mor anodd oedd hi wedi dod i ragweld beth oedd yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru, roeddem ni eisoes yn gweld tueddiadau anarferol. Ond mae’r pôl diweddaraf – a ryddhawyd ym mis Ionawr gan ITV Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd – yn dangos y gallai rhywbeth fwy fyth fod yn digwydd: newid go iawn mewn sut mae pobl yng Nghymru eisiau cael eu cynrychioli.
Mae hyn yn debygol o gael effaith fawr ar y sector gwirfoddol gan fod y rhai mewn pŵer yn mynd i newid. Bydd hyn yn llywio penderfyniadau ar wasanaethau iechyd, costau byw, cymorth cymunedol a’r amgylchedd cyllido i elusennau a gwirfoddolwyr.
BETH MAE’R PÔL NEWYDD YN EI DDANGOS
Dyma’r ffigurau allweddol o bôl diweddaraf YouGov:
- Mae Plaid Cymru ar 37% yn y pôl ar hyn o bryd, i fyny o 30% hydref diwethaf.
- Mae Reform UK wedi syrthio i 23%, i lawr o 29%.
- Mae Plaid Werdd Cymru wedi neidio i 13% – gan basio Llafur am y tro cyntaf.
- Mae Llafur Cymru ar ddim ond 10% – eu canlyniad isaf mewn pôl yng Nghymru
- Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd ar 10%, a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar 5%.
Mae newid mawr yn y ffigurau hyn o’u cymharu â’r polau cynt, a oedd yn dangos gornest llawer agosach.
BETH ALLAI’R NEWID EI OLYGU
Mae llai na phedwar mis i fynd tan etholiad 7 Mai y Senedd, pan fydd pobl yng Nghymru yn dewis 96 o Aelodau Senedd (ASau) – cynnydd enfawr o’r 60 sedd bresennol.
Os bydd y pleidleisiau ar ddiwrnod yr etholiad yn cyd-fynd â rhagfynegiadau’r pôl diweddaraf:
- Gallai Plaid Cymru ennill tua 45 o seddau, gan eu rhoi nhw mewn safle cryf i fod yn llywodraeth leiafrifol. Gallent hefyd ffurfio llywodraeth fwyafrifol gyda Phlaid Werdd Cymru neu Lafur Cymru.
- Reform UK fyddai’r blaid wrthwynebol fwyaf.
Byddai hynny’n ganlyniad tra wahanol i etholiadau blaenorol, sydd wedi cael Llafur fel y blaid gryfaf ers i ddatganoli ddechrau.
PAM MAE HYN YN BWYSIG I’R SECTOR GWIRFODDOL
Gallech fod yn meddwl: Pam ddylai mudiadau’r sector gwirfoddol hidio am bolau?
Dyma dri rheswm:
- Mae blaenoriaethau polisi yn llywio cyllid a gwasanaethau
Awgryma’r pôl fod pobl yng Nghymru yn meddwl yn wahanol am faterion allweddol fel iechyd, costau byw, chwyddiant a mewnfudo. Mae’r holl feysydd hyn yn bethau sy’n effeithio ar waith y sector gwirfoddol, o eiriolaeth iechyd i gymorth cymunedol. - Mae pwy sy’n arwain yn bwysig ar gyfer gweithio mewn partneriaeth
Mae newid yn y sawl â phŵer gwleidyddol yn newid y sawl rydych chi’n gweithio ag ef. Gallai arweinyddiaeth neu gynghreiriau newydd yn y Senedd olygu blaenoriaethau newydd, ffrydiau cyllido newydd a ffyrdd newydd o weithio. Mae angen i elusennau fod yn barod ar gyfer y newidiadau hynny. - Bydd llawer o wynebau newydd
Mae newidiadau i’n system etholiadol ac agweddau pobl yn golygu bod pleidiau llai a mwy newydd yn fwy poblogaidd nag erioed. Gallem ni weld Senedd lle nad oes gan Lafur Cymru na’r Ceidwadwyr Cymreig gyfran sylweddol o’r pleidleisiau. Ynghyd â hyn, mae llawer o’r ASau sydd wedi hyrwyddo’r sector gwirfoddol ers blynyddoedd maith yn camu i lawr.
Gallai dal ati fel arfer heb ddeall y tueddiadau hyn olygu y bydd elusennau ar ei hôl hi pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ddiweddarach y flwyddyn hon.
BETH MAE’R ARBENIGWYR YN EI DDWEUD
Yn y digwyddiad diweddar a gyflwynwyd gan ITV yn y Senedd, nododd arbenigwyr academaidd y canlynol:
- Mae llawer o’r pleidleisiau y mae Plaid Cymru a Phlaid Werdd Cymru yn eu hennill yn dod o bleidleiswyr a oedd yn ansicr o’r blaen.
- Gallai’r cynnydd a welodd Reform UK yn 2025 fod yn arafu nawr – neu’n dod i ‘uchafbwynt’.
- Mae pleidleisio tactegol, fel y gwelwyd yn isetholiad Caerffili, yn debygol o barhau i chwarae rhan ym mis Mai.
Mae’r holl bethau hyn yn dangos nad yw’r etholiad yn ymwneud â phleidiau’n codi a disgyn yn unig – mae’n ymwneud â sut mae pobl yng Nghymru yn teimlo am wleidyddiaeth, yn ymddiried yn yr arweinwyr ac eisiau newid.
BETH NESAF?
Byddwn ni’n gweld mwy o bolau yn ystod yr ymgyrch, a byddant yn helpu i wneud y darlun o’r hyn a allai ddigwydd ym mis Mai yn fwy clir. Fel arfer, mae polau yn fwy cywir wrth agosáu at ddiwrnod etholiad, ond mae’n anodd anwybyddu’r tueddiadau ar hyn o bryd.
I’r sector gwirfoddol, mae’n golygu:
- Dilyn y newidiadau diweddaraf.
- Meddwl am sut gallai canlyniadau polisi gwahanol effeithio ar eich gwaith.
- Bod yn barod i ymhél â phwy bynnag fydd yn y llywodraeth a’r wrthblaid ar ôl yr etholiad.
BETH MAE CGGC YN EI WNEUD
Rydyn ni’n parhau i geisio cael pobl i gefnogi gofynion ein maniffesto o fewn y sector ac ar draws y sbectrwm gwleidyddol, fel bod pwy bynnag a fydd â’r pŵer ar ôl mis Mai yn cydnabod y sector gwirfoddol fel partner hanfodol ar gyfer cynnydd.
Sicrhewch eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael gwybod am weminarau a digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan CGGC wrth i ni agosáu at yr etholiad drwy gofrestru i gael ein cylchlythyr.
YMUNWCH AG CGGC FEL PARTNER
Oes gennych chi ddiddordeb mewn creu dyfodol gwell a gwella llesiant i bawb yng Nghymru?
Rydyn ni’n credu y gallwn ni wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd, felly beth am ymuno â ni a’n rhwydwaith cynyddol o fudiadau ledled Cymru?
Mae ein partneriaeth am ddim ac yn agored i unrhyw elusen, grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ac i ymuno, ewch yma.
Os ydych chi’n fudiad yn y sector preifat neu gyhoeddus neu’n unigolyn sy’n rhannu ein gweledigaeth ac eisiau cefnogi gweithredu gwirfoddol yng Nghymru, gallwch hefyd elwa ar ddod yn bartner ymgysylltiedig.