Tair o bobl yn sgwrsio yn nigwyddiad gofod3

Nerfus i rhwydweithio?

Cyhoeddwyd: 09/03/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Elen Notley

Am rwydweithio’n effeithiol yng ngofod3? Dylai’r awgrymiadau da hyn gan Elen Notley, ein Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, eich helpu i gael y gorau o’r cyfle!

Nodau aur

Mewn unrhyw ddigwyddiad, gall eich meddwl ddechrau crwydro’n hawdd wrth i sgyrsiau lifo! Gall cael ychydig o nodau clir ar yr wybodaeth a’r cysylltiadau rydych chi eisiau eu cael o’r diwrnod eich helpu i lywio’ch sgyrsiau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn elwa i’r eithaf ar Gofod3. Bydd y nodau hyn hefyd yn eich helpu chi i gynllunio eich diwrnod o ran pa ddigwyddiadau y byddwch chi’n mynd iddynt, pa sgyrsiau Safbwynt y byddwch chi’n gwrando arnynt a pha stondinau arddangos y byddwch chi’n ymweld â nhw. Ond cofiwch, mae dod i adnabod pobl yn nod da yn ei hun, ac yn yr achos hwn, mae’n bwysig treulio amser yn gwrando ar eraill er mwyn meithrin cydberthnasau hirdymor.

Byddwch yn barod

Mae gwybodaeth ar gael cyn Gofod3 am ein siaradwyr Safbwynt, ein digwyddiadau a’n stondinau ar wefan gofod3 ac ar ein cyfrif Twitter @WCVACymru – gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y rhain wrth ystyried pa gysylltiadau rydych chi’n gobeithio eu gwneud ar y diwrnod. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o ble byddwch chi’n gallu dod o hyd i bobl benodol a ble hefyd y byddwch chi’n gallu gwneud cysylltiadau sy’n berthnasol i’ch anghenion. Gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth ar-lein i greu amserlen bersonol i’ch helpu chi i gael yr hyn sydd ei eisiau arnoch o’r diwrnod.

Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol

Byddwn ni’n defnyddio’r hashnod #gofod3 ar gyfryngau cymdeithasol, felly bydd dilyn yr hashnod yn caniatáu i chi wneud cysylltiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol ag eraill sy’n dod i Gofod3. Mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn ffordd wych o gysylltu â’r cysylltiadau y byddwch chi’n ei wneud y diwrnod wedyn.

Ewch amdani

Yn aml, pan fydd gennych chi bobl benodol rydych chi’n wirioneddol eisiau siarad â nhw, gallwch deimlo’n rhy nerfus i fynd atynt, a chael eich hun yn hofran rai troedfeddi i ffwrdd. Mae’n well mynd amdani a chyflwyno’ch hun. Gall cael rhai brawddegau mewn cof i ddechrau sgwrs hefyd fod o gymorth â hyn, er enghraifft,

  • ‘Beth sydd wedi’ch tynnu i Gofod3’
  • ‘Pa sesiynau/siaradwyr ydych chi wedi’u gweld hyd yn hyn heddiw’
  • ‘Rwy’n ceisio ehangu fy ngwybodaeth am rywbeth – a allaf i ofyn rai cwestiynau i chi?’

Cyfeiriwch at eich hun

Os ydych chi’n cynrychioli mudiad a bod gennych chi fathodyn enw, dewch â hwn gyda chi. Bydd hyn yn helpu eraill i’ch adnabod ac i wybod o ble rydych chi wedi dod. Mae cardiau busnes hefyd yn ffordd wych o roi eich manylion i bobl er mwyn siarad â nhw’n bellach, felly eto, os oes gennych chi gardiau busnes, gwnewch yn siŵr bod gennych chi rai wrth law ar y diwrnod.

Rydyn ni’i gyd yn yr un cwch

Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o bobl a fydd yno eisiau gwneud cysylltiadau newydd hefyd, felly peidiwch â bod yn swil pan ddaw hi i ddechrau sgwrsio.