Mae John Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr yn SCG, yn amlinellu pwysigrwydd diogelu systemau eich mudiad ar gyfer y dyfodol a chadw i’r funud â’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg.
I lawer o fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ledled Cymru, mae cyfathrebu â chleientiaid neu gwsmeriaid yn un o agweddau hanfodol eich gweithrediadau bob dydd. Fel arfer, bydd y cysylltiad cyntaf yn cael ei wneud yn uniongyrchol dros y ffôn.
Yn y gorffennol, y ffordd gyflymaf a mwyaf dibynadwy o gyfathrebu ar gyfer busnes neu resymau personol oedd galwadau ffôn, a’r un yw’r achos o hyd. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod eich systemau cyfathrebu yn gweithio gyda chi ac nid yn eich erbyn.
YSTYRIWCH SYSTEM SY’N DDIOGEL AT Y DYFODOL
Gall tîm staff cryf arwain eich mudiad i lwyddiant, ond, os yw’r cyfarpar y maen nhw’n ei ddefnyddio yn hen ac ar ôl yr oes, maen nhw’n siŵr o wynebu heriau yn eu gwaith bob dydd. Bydd hen dechnoleg fusnes yn creu problemau diangen ac yn cyfyngu eich tîm rhag gweithio i’w potensial llawn.
Gyda system sy’n ddiogel at y dyfodol fel datrysiad VoIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (Saesneg yn unig)), gallwch chi a’ch tîm fod yn ffyddiog na fydd unrhyw gyfyngiadau.
Pan fyddwch chi’n diweddaru eich cyfathrebiadau ac yn gwella cysylltedd, byddwch chi’n gweld y buddion ar waith yn eich busnes ar unwaith. Byddwch chi’n dechrau profi’r nodweddion uwch y gall system wedi’i llywyddu ei gynnig (gwefan Saesneg yn unig), yn ogystal â’r buddion ychwanegol fel arbedion cost cyffredinol a boddhad cwsmeriaid.
BYDDWCH YN BAROD AR GYFER DIFFODD YR ISDN
Mae BT wedi cyhoeddi cynlluniau i ddiffodd y rhwydwaith teleffon ISDN traddodiadol a symud yr holl systemau ffôn ar-lein erbyn 2025, gan effeithio ar filiynau o fusnesau ledled y DU.
Rydyn ni wedi bod yn argymell pob mudiad sydd heb wneud trefniadau eraill eto i ddechrau edrych ar ddatrysiadau gwahanol, a’r gorau po gyntaf y gwneir hynny.
YSTYRIAETHAU ERAILL I FUDIADAU GWIRFODDOL
Stopio Gwerthu – Y dyddiad pan na fydd mwy o wasanaethau ISDN, Llinell Analog neu ADSL yn cael eu darparu, a gall hyn olygu na fydd unrhyw newidiadau i’ch ffurfweddiad presennol.
Tynnu’n ôl – Dyma’r dyddiad y bydd gwasanaethau digidol yn cael eu tynnu’n ôl o’r gyfnewidfa ac fel arfer, bydd hyn ryw 18-24 mis ar ôl y dyddiad stopio gwerthu.
Defnyddiwch ein gwiriwr stopio gwerthu (Saesneg yn unig) i weld a oes dyddiadau wedi’u cyhoeddi ar gyfer eich ardal. Caiff dyddiadau Stopio Gwerthu a dyddiadau Tynnu’n ôl eu diweddaru cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi gan Openreach, felly os nad yw’r wybodaeth am eich cyfnewidfa ar gael eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’n gyson.
EIN GWAITH GYDAG AELODAU CGGC
Mae SCG Wales (Saesneg yn unig) wrth eu boddau i fod yn un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC. Fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae CGGC yn bodoli i alluogi mudiadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd, ac mae SCG Wales yn eithriadol o falch o gefnogi a chyfrannu at wneud y gwahaniaeth hwnnw.
Gyda maint a chwmpas ein darpariaeth, mae SCG Wales yn edrych ymlaen at weithio’n uniongyrchol gydag aelodau CGGC i’w helpu i leihau costau ac optimeiddio eu cyfathrebiadau’n effeithlon.
Rydyn ni’n cynnig llais, data, systemau a gwasanaethau ffonau symudol a thelegyfathrebu i fusnesau – a’r cyfan wedi’u llwytho â’r dechnoleg a’r nodweddion diweddaraf. Mae technoleg yn newid yn gyflym – ac mae hynny’n gadael rhai cwmnïau ar ei hôl hi. Rydyn ni’n fwy na gwerthwr telegyfathrebu; rydyn ni’n gweld ein hunain fel ymgynghorwyr, yn cadw cwmnïau ein cleientiaid ar y blaen gyda thechnoleg. Mae hyn yn cael effaith bositif go iawn ar fusnesau pobl, a dyna beth sy’n ein gyrru ni.
YNGLŶN AG SCG
SCG Wales yw darparwr telegyfathrebu busnes mwyaf blaenllaw Cymru. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau fel cyfathrebu, band eang, WiFi ymwelwyr a llawer mwy.
Unodd y ddau gawr telegyfathrebu, DataKom a Pinnacle Telecom i greu’r pwerdy gorau posibl o fewn y diwydiant. Ar ôl uno, gwnaethom ni ddatblygu ein gwasanaethau i ddod yn rhan o’r ‘Southern Communications Group’ (SCG). O fewn y twf busnes ffantastig hwn, gallwn ni ddal ati nawr i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cleientiaid yng Nghymru, ac ynghyd â hyn, gallwn ni gynnig cymorth estynedig grŵp ehangach sy’n gwasanaethu pob rhan o’r DU.
Rydyn ni’n frwd am dechnoleg newydd a sut y gall helpu busnesau a mudiadau i ffynnu a thyfu. Gan ganolbwyntio ar dechnoleg cyfathrebu, gallwn ni, ar ein gair, helpu i wthio unrhyw fusnes, bach neu fawr, i mewn i ddyfodol cyfathrebu.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01656 33 44 55 neu anfon e-bost at ein tîm gwerthiannau ar sales@scgwales.com.