Dyn busnes mewn siwt yn arwyddo cytundeb

Naw rheswm pam y mae angen llais ar fasnach ar fudiadau gwirfoddol

Cyhoeddwyd: 18/07/22 | Categorïau: Dylanwadu,Hyfforddiant a digwyddiadau, Awdur: Charles Whitmore & Aileen Burmeister

Y newid yn yr hinsawdd, iechyd, hawliau dynol, dim ond rhai o’r meysydd a allai gael eu heffeithio gan gytundebau masnach newydd y DU yw’r rhain. Dyma Charles Whitmore ac Aileen Burmeister i egluro mwy.

Pan ymadawodd y DU â’r Undeb Ewropeaidd, dychwelodd y cyfrifoldeb dros negodi cytundebau masnach o’r UE i’r DU. Gallai mudiadau blaenorol yn y DU ddibynnu ar gymdeithas sifil Ewrop a gwarantau ar lefel Ewropeaidd i gefnogi cytundebau masnach moesegol.

Er nad yw’n berffaith o bell ffordd, mae gan yr UE broses ar gyfer ymgynghori â mudiadau gwirfoddol ar ei drafodaethau masnach ac mae’n ceisio defnyddio’r rhain i gefnogi safonau amgylcheddol, iechyd, hawliau dynol, llafur a datblygu cynaliadwy.

Ond mae’r DU mewn cyfnod tyngedfennol. Heb gynnwys y sector gwirfoddol, gallai cytundebau masnach newydd y DU roi llawer o feysydd y mae’r sector yn ceisio’u datblygu mewn perygl. Ond gallai dull gweithredu cynhwysol, newydd sy’n cynnwys y sector gwirfoddol ailffurfio masnach fel cyfrwng i fynd ati’n rhagweithiol i gyflawni amcanion yn y meysydd newid hinsawdd, datblygu cynaliadwy a hawliau dynol.

Felly dyma naw rheswm pam ddylai’r sector gwirfoddol gael llais ar fasnach.

1. GWNEUD CYNNYDD AR Y NEWID YN YR HINSAWDD, YR AMGYLCHEDD A LLES ANIFEILIAID

Gall cytundebau masnach ddylanwadu ar y cynnydd a wneir ar amrywiaeth o nodau gwyrdd. Maen nhw’n chwarae rôl mewn allyriadau gan eu bod yn dylanwadu ar y math o nwyddau, a faint o nwyddau, caiff eu cludo a gallant effeithio ar safonau lles anifeiliaid drwy ganiatáu i gynnyrch llai ystyriol o lesiant ddod i mewn i’r DU.

Gallai cytundebau masnach newydd y DU ganiatau i fusnesau mawr ein hatal rhag gwneud cynnydd ar ein nodau hinsawdd, amgylcheddol neu les anifeiliaid. Fodd bynnag, mae cyfleoedd i wneud cynnydd ar y nodau hyn drwy fasnach hefyd, a gall y sector gwirfoddol helpu i gyflawni hyn.

2. GALL MASNACH EFFEITHIO AR IECHYD POBL

Gallai cytundebau masnach newydd y DU roi iechyd a lles pobl yn y glorian, ac mae hyn yn torri ar draws nifer o feysydd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithio arnyn nhw. O ansawdd a safonau’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, i ddylanwadu ar ymdrechion cynaliadwyedd Cymru, mae gwaith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod y gall masnach effeithio ar iechyd a lles mewn llawer o ffyrdd.

Gall cytundebau masnach hefyd gyfyngu ar allu llywodraethau i gyflwyno polisïau sy’n ymwneud ag iechyd a newid marchnadoedd domestig ar gyfer gwasanaethau iechyd a meddyginiaethau, er enghraifft, drwy ganiatáu i fusnesau gael mwy o fynediad i’r farchnad neu newid pris cyffuriau.

3. GALLAI CYTUNDEBAU MASNACH ROI HAWLIAU DYNOL MEWN PERYGL

Gallai hawliau dynol gael eu llesteirio gan gytundebau masnach, ond gellid hefyd eu defnyddio i hybu cynnydd yn y maes hwn. Mae angen i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru fod yn rhan o drafodaethau sy’n cyflwyno canlyniadau pellgyrhaeddol i hawliau pobl yng Nghymru a thu hwnt.

Gellir defnyddio polisi masnach i roi pwysau ar bartneriaid masnach i wella hawliau dynol. Er enghraifft, drwy wrthod llofnodi cytundeb â gwledydd sydd ag enw blaenorol gwael iawn am hawliau dynol. Gellir hefyd defnyddio masnach i wella hawliau dynol os canolbwyntir ar anghenion y rhai mwyaf agored i niwed – er enghraifft, drwy ystyried yr hawl i iechyd a meddyginiaethau.

4. MAE CYTUNDEBAU MASNACH YN EFFEITHIO AR FWYD, FFERMIO AC AMAETHYDDIAETH

Trwy ganiatau mynediad i farchnad fwyd y DU, gall cytundebau masnach ddylanwadu ar safon y bwyd rydyn ni’n ei gynhyrchu. Mae ffermio yn rhan hanfodol o economi wledig Cymru a gallai cytundebau masnach gyflwyno cyfleoedd newydd i ffermwyr Cymreig, ond gallent hefyd eu rhoi o dan bwysau cystadleuol aruthrol.

Mae hwn yn bryder a godwyd gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ynghylch y cytundeb masnach rhwng y DU ac Awstralia (Saesneg yn unig).

5. GALLAI MASNACH GYNYDDU ANGHYDRADDOLDEBAU

Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod polisi masnach yn effeithio ar grwpiau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol. Eglura’r Women’s Budget Group (Saesneg yn unig) y gall cytundebau masnach gael effaith negyddol ar bobl sy’n wynebu anfantais economaidd neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Gallai dull cynhwysol o ymdrin â pholisi masnach sy’n cynnwys y sector gwirfoddol helpu i nodi’r heriau a’r cyfleoedd hyn cyn i gytundebau gael eu negodi.

6. GALLAI MASNACH EFFEITHIO AR YR IAITH GYMRAEG

Fel y dadleuwyd gan CLlLC (Saesneg yn unig) – mae yna gysylltiad diamheuol rhwng dyfodol ffermio yng Nghymru a’r Gymraeg. Bydd cytundebau masnach yn debygol o gael effaith economaidd ar gefn gwlad Cymru lle mae cymunedau ffermio yn sbardun economaidd allweddol ac yn biler i’r Gymraeg.

Os na fydd cytundebau masnach yn rhoi digon o sylw i’w diddordebau gellid gweld effeithiau negyddol ar ddiwylliant, treftadaeth ac iaith Cymru.

7. GALL CYTUNDEBAU MASNACH FYGWTH DATBLYGU CYNALIADWY

Heb gynnwys y sector gwirfoddol, gallai cytundebau masnach newydd y DU roi datblygu cynaliadwy mewn perygl.

Mae masnach yn berthnasol i bob un o bileri datblygu cynaliadwy: yr amgylchedd, yr economi, cymdeithasol ac yng Nghymru – diwylliant ac iaith. O’i heffaith ar y rhywiau i’r gallu i hybu neu lesteirio safonau hawliau dynol, mae masnach yn cyffwrdd ag amrywiaeth eang o feysydd y sector gwirfoddol.

Gall hyrwyddo arferion a chynhyrchion amgylcheddol ond gall hefyd gyfrannu at golli bioamrywiaeth a datgoedwigo.

8. GALL MASNACH EFFEITHIO AR SAFONAU LLAFUR A LLESIANT YN Y GWAITH

Mae safonau llafur uchel yn allweddol i iechyd a llesiant pobl ac yn hanfodol i ddiogelu hawliau dynol fel y rhyddid i ymgysylltu a rhyddid rhag llafur gorfodol.

Gall cytundebau masnach fel Cytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE gynnwys gofynion i beidio â gostwng safonau ac ymrwymiadau i safonau llafur rhyngwladol. Fodd bynnag, gallant hefyd effeithio ar farchnadoedd swyddi drwy greu neu dorri swyddi.

9. GALL MASNACH GEFNOGI CYDSEFYLL BYD-EANG, OND YN AML, NID DYMA’R ACHOS

Dylai mudiadau gwirfoddol sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol fod yn ymwybodol y gall cytundebau masnach effeithio’n sylweddol ar wledydd incwm isel a chanolig. Fel arfer, y cymunedau o fewn y gwledydd hyn yw’r rhai cyntaf i gael eu heffeithio gan bolisi masnach, a’u heffeithio’n fawr.  Gall masnach sydd wedi’i gynllunio’n wael gael effaith negyddol ar economïau lleol, iechyd, hawliau dynol, safonau llafur a’r amgylchedd.

Mae gormod o bwyslais ar gystadleuaeth ac elw yn arwain yn ganlyniadau annheg yn y gwledydd hyn. Er enghraifft, gall pobl sy’n gweithio ar ffermydd bach gael anhawster ennill digon i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Dylai dull cynhwysol o ymdrin â masnach ystyried arferion caffael moesegol a hybu masnach deg.

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae’n hanfodol bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch cytundebau masnach newydd.

Mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru CGGC wedi partneru â mudiad Cymru Masnach Deg i sicrhau cyllid ar gyfer cynllun peilot Cyfiawnder Masnach Cymru. Mae’r prosiect yn cynnal cyfarfodydd rhwydwaith er mwyn rhannu gwybodaeth, dysgu mwy am y sector gwirfoddol a masnach ac er mwyn cydweithio ar gyfleoedd i leisio syniadau a phryderon y sector gwirfoddol yn y maes hwn. Er enghraifft, drwy gydlynu’r mewnbwn i mewn i Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi am ddim i fudiadau cymdeithas sifil adeiladu capasiti ac ennyn dealltwriaeth o ran effaith y polisi masnach. Mae’r prosiect wedi’i ddylunio’n gynhwysol o amgylch anghenion mudiadau, felly gall cyfranogwyr ofyn am hyfforddiant mewn meysydd penodol. Roedd y sesiwn gyntaf, a gyflwynwyd gan y ‘Trade Justice Movement’, yn gyflwyniad sylfaenol i’r prosesau o ran polisi masnach y DU a sut i ddylanwadu – mae ar gael am ddim yma ar sianel YouTube Cymru Masnach Deg (Saesneg yn unig).

Os hoffech chi gymryd rhan a chael rhagor o wybodaeth gan Gyfiawnder Masnach Cymru, ymuno â chyfarfodydd i ddod neu fynd i sesiynau hyfforddi yn y dyfodol – cofrestrwch â rhestr bostio’r rhwydwaith yma.