Myfyrio ar Wythnos Elusennau Cymru

Myfyrio ar Wythnos Elusennau Cymru

Cyhoeddwyd: 22/12/22 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Helen Stephenson

Helen Stephenson, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau yn edrych yn ôl ar Wythnos Elusennau Cymru 2022

Gyda’r tymor rhoi ar gyrraedd, roeddwn am fanteisio ar y cyfle i fyfyrio ar Wythnos Elusennau Cymru. Cafodd y syniad o nodi’r cyfraniad mae elusennau Cymru yn ei wneud i gymdeithas ei gymryd o’r pandemig – argyfwng annhebyg i unrhyw beth rydym wedi’i brofi erioed o’r blaen, ond un a ddangosodd gryfder, arloesedd a gwydnwch y sector. Nawr, yn fwy nag erioed, elusennau, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill yw arwyr di-glod gwirioneddol ein cymunedau.

WYTHNOS ELUSENNAU CYMRU

Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â nifer o elusennau yn Sir y Fflint. Wedi’i chynnal yng Nghymdeithas Pobl Hŷn Cei Connah, a’i threfnu gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, gallais gymryd rhan mewn trafodaeth ford gron gyda chynrychiolwyr o wahanol fudiadau, sy’n gweithredu yn yr ardal leol.  Y llinyn cyffredin a oedd yn cysylltu’r holl fudiadau y gwnes i gyfarfod â nhw oedd sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau: o roi cyngor, darparu gweithgareddau ar gyfer plant anabl, i gynnal clybiau cinio.  Roedd yn gyfle pwysig hefyd i glywed o lygad y ffynnon am yr heriau y mae llawer o elusennau yn eu hwynebu. Wrth reswm, y pwysau a gyflwynir yn sgil y costau byw uwch oedd y pryder pennaf a leisiwyd.

Er nad oes llawer y gallwn ni ei wneud i leddfu baich yr argyfwng costau byw, gallwn ni helpu ymddiriedolwyr i lywio drwy’r ansicrwydd. Rydyn ni wedi cynhyrchu canllawiau pwrpasol yn ddiweddar i helpu ymddiriedolwyr i redeg eu mudiadau drwy adegau heriol, yn enwedig pan fyddant yn wynebu penderfyniadau anodd. Mae ein canllawiau pum munud <https://www.gov.uk/government/collections/canllawiau-5-munud-i-ymddiriedolwyr-elusennau.cy> (ar gael yn Gymraeg a Saesneg) wedi’u hysgrifennu gyda phobl brysur mewn golwg, a bydd yn helpu ymddiriedolwyr i lywio’u helusennau drwy’r adegau anodd hyn sy’n newid yn ddi-baid.

GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU

Mae elusennau yng Nghymru – yn union fel y rheini y gwnes i gyfarfod â nhw yn Sir y Fflint – yn tueddu i fod yn fudiadau bach sy’n rhan werthfawr o’u cymunedau. Dyma pam mae Gwobrau Elusennau Cymru ac Wythnos Elusennau Cymru mor bwysig, maen nhw’n rhoi cyfle i daflu golau ar waith mudiadau gwych ledled Cymru ac i ddathlu’r gwaith hwn.

Dangosodd y Gwobrau Elusennau’r gymysgedd gyfoethog o achosion a gefnogir gan weithgareddau elusennol a’r arloesedd sy’n cael ei dangos yn y sector i ateb heriau newydd a gwahanol. O ap Mewnwelediad Innovate Trust (Saesneg yn unig), sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ag anableddau dysgu, i fudiad Cŵn Cymorth Cariad (Saesneg yn unig), sy’n defnyddio cŵn therapi i wella llesiant meddyliol pobl. Mae’r gwobrau yn amlygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan elusennau yng Nghymru – ac mae’n dystiolaeth wirioneddol o werth sector ffyniannus sy’n diwallu anghenion buddiolwyr ar hyd a lled y wlad.

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu cydnabod.

EIN GWAITH YNG NGHYMRU

Yn ogystal â’m taith ddiweddar i Sir y Fflint, mae’r Comisiwn wedi bod yn ymweld ag elusennau ar hyd a lled Cymru drwy gydol yr hydref. Rydyn ni hefyd wedi croesawu aelod newydd i Fwrdd Cymru yn ddiweddar, sef Pippa Britton. Rwy’n gwybod y bydd penodiad Pippa yn ein helpu i barhau i gryfhau ein cydberthynas â’r sector yng Nghymru.

Fel y rheoleiddiwr dros Gymru a Lloegr, rydyn ni eisiau gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithredu yma.  Mae gennym sylfaen gref dda i adeiladu arni. Mae’r dealltwriaeth o’r Comisiwn Elusennau yng Nghymru, o bwy ydym ni ac o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, yn dda. Yn wir, mae ychydig yn well nag yn Lloegr. Ond nid yw hyn wedi ein gwneud ni’n hunanfodlon, a byddwn bob amser yn ymdrechu i wneud yn well.

Mae cyfnod y Nadolig yn seibiant i lawer, ond rwy’n gwybod bod gwaith elusennau yn parhau. Boed hwnnw’n darparu bwyd mawr ei angen i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd, neu’n cefnogi’r rheini sy’n ddifrifol wael, a’u teuluoedd, gartref neu mewn cartref gofal. Gobeithio bydd y tymor yn rhoi rhywfaint o amser i fyfyrio ar lwyddiannau fel yr amlygwyd yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, a’r effaith y mae elusennau yng Nghymru yn ei chael ar gymunedau ar hyd a lled y wlad

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.