Mae Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, yn myfyrio ar bwysigrwydd deall problemau cyn chwilio am ddatrysiadau, a beth mae hyn yn ei olygu i gomisiynu cydweithredol yng Nghymru.
Mynychais Ysgol Haf y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Gofal Integredig (IFIC) yn Rhydychen i gryfhau fy nealltwriaeth o *ofal integredig, herio fy meddwl a dysgu o systemau ledled y byd. Roeddwn hefyd eisiau profi a yw Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yn gofyn y cwestiynau cywir ac yn canolbwyntio ar y problemau cywir.
Fe adawais gyda thudalennau o nodiadau, cysylltiadau newydd a digonedd o syniadau. Ond nid oedd yr hyn a ddysgais fwyaf amdano yn ymwneud â model nac ymyrraeth benodol. Yr hyn a ddysgais fwyaf oedd bod gofal integredig llwyddiannus yn dechrau gyda deall y broblem, nid dylunio’r datrysiad.
HERIO RHAGDYBIAETHAU
Heriodd hyn rai o’m rhagdybiaethau a gwneud i fi feddwl yn wahanol am ein gwaith comisiynu cydweithredol sy’n datblygu gyda’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth.
Nid yw ein prosiect yn ymwneud ag ailgynllunio gwasanaethau neu ddatrys pob her sy’n wynebu’r system, nac yn ymwneud â darparu gwasanaethau a gomisiynwyd yn uniongyrchol. Yn hytrach, mae’n ymwneud â chreu’r amodau i bobl weithio yn wahanol: rhoi’r amser a’r adnoddau i bobl, darparwyr a chomisiynwyr edrych ar ffyrdd newydd o gomisiynu gwasanaethau cymunedol sy’n diwallu anghenion lleol yn well.
Mae bod yn glir ynghylch yr hyn na fydd y prosiect yn ei gyflawni mor bwysig â diffinio beth fydd yn cael ei ystyried yn llwyddiant. Gwnaeth yr Ysgol Haf atgyfnerthu bod angen ffiniau realistig ar fentrau trawsnewid.
Strwythurwyd yr Ysgol Haf o amgylch Naw Colofn Gofal Integredig IFIC. Mae pob un yn bwysig, ond gwnaeth nifer wneud i mi feddwl yn benodol am gyfeiriad ein gwaith.
DIBEN A RENNIR: DEALL Y BROBLEM CYN DYLUNIO’R DATRYSIAD
Canolbwyntiodd un o’r ymarferion cyntaf ar ddiffinio’r broblem yn hytrach na neidio’n syth i’r datrysiadau. Roeddwn ni’n gallu uniaethu â hyn oherwydd dechreuodd ein Prosiect Iechyd a Gofal yn yr un lle.
Yn 2022, gwnaethom weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i edrych ar beth sy’n rhwystro gwirfoddoli a mudiadau gwirfoddol rhag gweithio’n effeithiol fel rhan o’r system iechyd a gofal. Gwnaeth y Theori Newid a ddeilliodd o hynny nodi heriau o ran cydnabyddiaeth, llywodraethu, cyllid a chyfranogiad.
Gwnaeth yr Ysgol Haf atgyfnerthu pwysigrwydd buddsoddi amser mewn datblygu cyd-ddealltwriaeth o angen. Gwnaeth hefyd wneud i mi sylweddoli y bydd angen ei Theori Newid ei hun ar ein gwaith comisiynu cydweithredol arfaethedig.
Bydd y gwaith hwn yn edrych ar ffyrdd o gefnogi cydberthnasau comisiynu da sy’n defnyddio ymagweddau cydweithredol a bydd yn nodi comisiynwyr gofal a chymorth lleol ochr yn ochr â mudiadau’r sector gwirfoddol.
Os yw comisiynwyr, darparwyr, mudiadau cymunedol a phobl â phrofiad bywyd yn diffinio problem yn wahanol, maen nhw’n annhebygol o gytuno ar y datrysiad cywir. Mae creu diben a rennir yn golygu edrych ar angen o bob persbectif cyn symud i drafodaethau ar ddylunio gwasanaeth neu gaffael.
Mae’r wers yn un syml: mae angen treulio mwy o amser yn deall y broblem a llai o amser yn neidio i’r datrysiad.
POBL FEL PARTNERIAID: MAE CYDBERTHNASAU’N BWYSICACH NA STRWYTHURAU
Pwysleisiodd yr Ysgol Haf fod gofal integredig, yn y bôn, yn ymwneud â phobl a chydberthnasau. Mae pobl yn adeiladu partneriaethau, nid strwythurau. Gall strwythurau gefnogi cydweithrediad, ond ymddiriedaeth sy’n ei gynnal.
Dyluniwyd ein prosiect o amgylch her ymarferol: yn aml, nid oes gan bartneriaid yr amser na’r adnoddau i edrych ar ymagweddau cydweithredol, meithrin cydberthnasau dibynadwy a datblygu cyd-ddealltwriaeth o anghenion lleol.
Gwnaeth yr Ysgol Haf fy ngwneud i’n fwy hyderus bod y ffocws hwn yn gywir. Yn rhy aml mae comisiynu yn dechrau gyda manylebau a phrosesau caffael. Mae comisiynu cydweithredol yn dechrau gyda deall pobl, adeiladu ymddiriedaeth a deialog ystyrlon. Y cydberthnasau yw’r gwaith.
LLYWODRAETHU AC ARWEINYDDIAETH: GWNEUD RHAGDYBIAETHAU YN WELADWY
Mae mentrau gofal integredig yn aml yn gweithredu gyda rhagdybiaethau annatganedig am ymrwymiad, adnoddau, capasiti ac ymddiriedaeth. Anogwyd ni i ddatgan y rhagdybiaethau hyn a’u profi.
Gallaf weld rhagdybiaethau sydd angen mwy o sylw: y bydd comisiynwyr yn mabwysiadu ymagweddau cydweithredol, y bydd cydberthnasau gwell yn arwain at benderfyniadau gwell, ac y bydd cyfranogwyr yn cael amser i ymgysylltu’n ystyrlon. Mae angen cydnabod y rhain a pheidio â’u cymryd yn ganiataol.
CYLLIDO: DEFNYDDIO ADNODDAU FEL SBARDUN AR GYFER NEWID
Thema a oedd yn codi dro ar ôl tro oedd bod mudiadau yn siarad am integreiddio wrth barhau i gyllido ffyrdd tameidiog o weithio. Rhaid i ni ysgogi newid mewn ymddygiad.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol i Gymru gan fod llawer o fudiadau gwirfoddol eisiau cyfrannu’n strategol ond heb y gallu i wneud hynny. Rydym ni’n gofyn yn aml i fudiadau gymryd rhan mewn strwythurau cynllunio a phartneriaeth heb gyllido’r amser sydd ei angen iddo weithio.
Roeddem ni am fynd i’r afael â hyn trwy gydnabod a chefnogi cyfranogiad. Atgyfnerthodd yr Ysgol Haf nad yw cyllid yn ymwneud â thalu am wasanaethau yn unig; gall newid ymddygiad, cydberthnasau a diwylliant.
DYSGU A GWELLA: COFLEIDIO CHWILFRYDEDD
Cawsom ein hannog i ymdrin ag arloesedd â chwilfrydedd a gostyngeiddrwydd. Nid yw popeth yn gweithio, ac mae hynny’n iawn.
Os bydd ein cynlluniau comisiynu cydweithredol peilot yn mynd rhagddo, bydd rhai agweddau yn gweithio’n well nag eraill. Y peth pwysig yw ein bod yn dysgu o lwyddiant a methiant. Mae ein dull gweithredu arfaethedig yn cynnwys gwerthuso a dysgu a rennir oherwydd mae creu model y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer Cymru yr un mor bwysig â chyflawni’r cynlluniau peilot eu hunain.
MYFYRDODAU TERFYNOL
Roeddwn i’n disgwyl dysgu mwy am ofal integredig, ac fe wnes i. Yr hyn nad oeddwn yn ei ddisgwyl oedd faint y byddai’r profiad yn cryfhau fy hyder yng nghyfeiriad y Prosiect Iechyd a Gofal a hefyd yn fy herio i feddwl yn fwy beirniadol am gomisiynu cydweithredol.
Mae gofal integredig yn digwydd pan fydd pobl yn buddsoddi amser mewn deall y broblem, creu diben a rennir, meithrin cydberthnasau dibynadwy a pharhau i ddysgu gyda’i gilydd.
Yr un yw ein gweledigaeth hirdymor: gwirfoddoli a mudiadau gwirfoddol yn cael eu hymddiried ynddynt a’u gwerthfawrogi fel partneriaid cyfartal wrth greu Cymru iachach, fwy gwydn a mwy cyfartal.
Dangosodd yr Ysgol Haf i mi beth sydd ei angen arnom i gyflawni’r weledigaeth honno – ac fe wnaeth fy atgoffa nad yw trawsnewid yn dechrau gyda’r ateb, ond trwy ofyn y cwestiwn cywir.
*Saesneg yn unig