Mae CGGC a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru wedi lleisio pryderon gan y sector gwirfoddol ynghylch cynigion i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 sy’n peri gofid.
Mae CGGC, mewn cydweithrediad â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a phartneriaid eraill, wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gyda Bil Hawliau’r DU.
Rhwng 14 Rhagfyr 2021 ac 8 Mawrth 2022, gwnaeth Llywodraeth y DU gynnal ymgynghoriad ar ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 gyda Bil Hawliau newydd i’r DU. Mae’r cynigion hyn wedi peri pryder ymhlith mudiadau gwirfoddol am resymau amrywiol.
ROEDD Y BROSES YMGYNGHORI YN RHY FYR AC NID OEDD AR GAEL I RAI GRWPIAU
Roedd amseru’r ymgynghoriad yn heriol o’r dechrau oherwydd gellid dadlau nad oedd yn cadw at God Ymarfer Llywodraeth y DU ei hun (Saesneg yn unig). Cafodd rhanddeiliaid yr amser lleiaf i ymateb, sef 12 wythnos. Fodd bynnag, yn ôl y cod, pan fydd cynigion cymhleth fel y rhain yn cael eu hystyried a/neu pan fydd y cyfnod ymgynghori yn cynnwys y Nadolig, dylid ystyried cyfnod hirach. Yn enwedig pan nad oes angen pwysicach i gyflymu’r broses datblygu polisi, fel yn yr achos hwn.
Cafodd y pwnc llosg hwn ei ddwysau ymhellach gan bryderon hygyrchedd. Nid oedd y ddogfen ymgynghori ar gael ar fformatau hygyrch nac yn Gymraeg ar y dechrau, sy’n awgrymu bod Llywodraeth y DU naill ai wedi rhuthro i lansio’r broses neu wedi methu ag ystyried hygyrchedd. Y naill ffordd neu’r llall, nid oedd yn ddelfrydol o bell ffordd, yn enwedig mewn cyfnod pan mae Strategaeth Anabledd Genedlaethol Llywodraeth y DU newydd gael ei farnu’n anghyfreithlon (Saesneg yn unig).
Cafodd y fersiynau ychwanegol hyn eu rhyddhau yn y pen draw, ond roedd y ffordd gynyddrannol y cafodd ei wneud yn broblemus. Gwnaeth cyhoeddi fersiwn ‘hawdd ei darllen’ â thestun yn unig yn hwyr ac wedyn ei dileu, cyn ei disodli â fersiwn fwy priodol ychydig iawn o amser cyn y dyddiad cau, ynghyd â’r ansicrwydd treiddiol ynghylch a fyddai’r dyddiad cau yn cael ei ymestyn o ganlyniad i hyn, gyfrannu at broses a fydd yn debygol o fod wedi hepgor mudiadau ac unigolion.
Gweithiodd CGGC gyda Sefydliad Hawliau Dynol Prydain (BIHR) a phartneriaid fel Liberty i annog Llywodraeth y DU i gynyddu tryloywder, hygyrchedd ac i ymestyn y dyddiad cau. Cafodd hyn ei wneud yn y pen draw, ond yn siomedig iawn, rhaid i fudiadau wneud cais am estyniad sy’n dangos eu bod ‘yn cynrychioli buddiannau’r rheini a fyddai’n cael eu cynorthwyo gan fersiwn clywedol neu Hawdd ei Darllen yn gyfan gwbl neu’n fawr’ (sydd, yn ddadleuol, yn anwybyddu’r ffaith y gallai gweithgareddau ehangach y sector gwirfoddol fod wedi’u gwella hefyd pe bai’r dogfennau hyn wedi bod ar gael o’r cychwyn cyntaf).
EIN HYMATEB AC ADNODDAU’R SECTOR
Gwnaeth CGGC a Chanolfan Llywodraethiant Cymru gydweithio drwy Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru gyda chydweithwyr o’r Grŵp Rhanddeiliaid Hawliau Dynol, gan gynnwys yr Athro Simon Hoffman a’r Gynghrair Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i ymgysylltu â’r sector ynghylch y cynigion.
Lleisiwyd nifer o bryderon o sylwedd, ac rydyn ni wedi crynhoi’r rhain yn yr adnodd sector hwn, y gwnaethon ni hefyd ei ddefnyddio i gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad. Yn gyffredinol, teimlwyd nad oedd angen y cynigion a’u bod yn rhoi hawliau dynol mewn perygl, yn enwedig hawliau grwpiau sy’n cael eu hymyleiddio a dan anfantais sydd eisoes yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael cyfiawnder.
Maen nhw hefyd yn lleisio pryderon sy’n ymwneud yn benodol â datganoli gan eu bod yn mynd yn groes i’r bwriad o gryfhau hawliau dynol yng Nghymru ac yn dod ar adeg pan mae COVID-19 wedi rhoi amlygrwydd syfrdannol i’r angen am fwy o fesurau diogelu i grwpiau fel pobl anabl sy’n credu bod eu hawliau yn cael eu herio ar adegau o argyfwng.
Trwy Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru, gwnaeth CGGC hefyd weithio gyda’r Consortia Hawliau Dynol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno gweminar a ddaeth â Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Naomi Long MLA, Gweinidog Cyfiawnder Gogledd Iwerddon, a Christina McKelvie MSP, Gweinidog Cydraddoldeb a Phobl Hŷn yr Alban ynghyd.
Yn y digwyddiad hwn, mynegodd Llywodraeth Cymru a’i llywodraethau cyfatebol gryn dipyn o bryder a gwrthwynebiad i’r cynnig. Mae recordiad o’r digwyddiad hwn yma a gwnaeth Llywodraethau Cymru a’r Alban hefyd ryddhau datganiad ar y cyd ac ysgrifennu llythyr ar y cyd llym iawn at yr Arglwydd Ganghellor. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad yma.
BETH NESAF?
Disgwylir i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymateb i’r broses ymgynghori yma. Fodd bynnag, nid ydyn ni’n gwybod a fydd yr holl ymatebion yn cael eu cyhoeddi, felly argymhellwn fod rhanddeiliaid yn rhannu eu hymatebion eu hunain gyda BIHR (kpealing@bihr.org.uk) sy’n ceisio casglu’r ymatebion er tryloywder.
Bydd CGGC a phrosiect Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru yn parhau i gefnogi’r sector wrth i ni symud tuag at ddylanwadu ar Fil Hawliau’r DU pan gaiff ei gyflwyno – os hoffech chi gadw mewn cysylltiad ynghylch hyn, cofrestrwch i fod ar restr bostio’r Fforwm yma.