Aelod o staff Utility Aid yn cael sgwrs â mynychwr yn ddigwyddiad gofod3 2024

Mudiadau gwirfoddol yn brwydro costau rhedeg uwch

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Emily Berry

Mae Emily Berry, Rheolwr Partneriaethau yn Utility Aid, yn myfyrio ar gofod3 a’r heriau sy’n wynebu mudiadau yng Nghymru wrth geisio rheoli eu prisiau ynni.

Mae *Utility Aid yn falch o gefnogi gofod3, y digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Cefais i’r fraint o fynychu gofod3 2024, roedd hi’n wych gweld elusennau, mudiadau masnachol, arweinwyr a chynrychiolwyr cyngor mewn un ystafell.

I fi, mae digwyddiadau fel Gofod3 yn hanfodol i roi’r gofod i ymddiriedolwyr, aelodau staff a gwirfoddolwyr fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Cefais gyfle i siarad â chynrychiolwyr a deall eu problemau; mae’n amlwg nad yw rhedeg elusen lwyddiannus erioed wedi bod yn dasg hawdd, ond mae’r heriau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

EICH HERIAU

Yn gofod3, clywsom yn uniongyrchol gan fudiadau gwirfoddol yng Nghymru am rai o’ch heriau, gan gynnwys:

  • Cyrraedd Sero Net heb lawer o amser na chyllideb.
  • Rheoli costau ynni uwch a sicrhau cyllideb.
  • Rheoli a datrys anghywirdebau mewn biliau cyflenwyr.

COSTAU UWCH

Yn ôl arolwg newydd, amcangyfrifir bod *costau cyfleustodau un rhan o dair o elusennau lleol yn y DU wedi cynyddu mwy na 60%. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun nifer sylweddol o fudiadau yn profi amrywiadau seismig yn eu costau rhedeg.

Ar yr un pryd, rydym wedi gweld mwy o ffocws ar leihau ein hôl troed carbon. Yn dilyn COP26 a’r argyfwng hinsawdd rydyn ni’n ei wynebu, mae ôl troed carbon pob mudiad o dan chwyddwydr, fel y dylai fod.

Mae hyn yn cyflwyno deuoliaeth gadarn rhwng cyrraedd Sero Net a brwydro costau rhedeg uwch. Ni fu hi erioed mor bwysig i elusennau ystyried cydweithio ag eraill ac i fudiadau masnachol sefydlu hirhoedledd a sicrwydd cyllideb er mwyn cyflawni eu cenhadaeth.

SUT GALLWN NI HELPU

Yn un o Gyflenwyr Dibynadwy CGGC, Utility Aid yw brocer ynni ac ymgynghoriaeth mwyaf y DU ar gyfer y sector nid-er-elw. Mae ein tîm ymroddgar yn cynnig gwasanaeth lefel uchel i reoli a chynnal eich portffolio, gan gynnwys caffael, gwasanaethau canolfan, rheoli cyfrifon llawn, archwiliadau hanesyddol, adrodd ar garbon, a chynllunio sero net. Mae ein gwasanaethau dilysu anfonebau wedi arbed dros £6.7 miliwn i’n cwsmeriaid elusennol. ​

Cysylltwch â mi os hoffech wybod mwy.

Neu fel arall, anfonwch ymholiad atom drwy fynd i *www.utility-aid.co.uk/contactform/WCVAGofod3.

*Saesneg yn unig