Mae gan fenyw ei phen yn ei dwylo, mae hi'n poeni am ddod o hyd i ddigon o wirfoddolwyr

‘Mewn argyfwng, gwisgwch eich masg ocsigen eich hun yn gyntaf’

Cyhoeddwyd: 20/12/23 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Natalie Zhivkova

Mae Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau CGGC, Natalie Zhivkova yn edrych ar yr heriau recriwtio a chadw gwirfoddolwyr sy’n wynebu mudiadau yng Nghymru.

Mae yna lanw a thrai naturiol i gyfranogiad gwirfoddolwyr, a gaiff ei ddylanwadu gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol a pholisi newidiol. Roedd y miliynau o bobl a gynigiodd help llaw yn ystod pandemig COVID-19 yn arwydd o obaith ac ysbrydoliaeth, ond nawr, rydyn ni’n gweld tuedd ysgytwol o ddirywiad yng nghyfraddau gwirfoddolwyr.

FAINT O BROBLEM YW HI?

Fis diwethaf, gwnaethom gynnal arolwg o fwy na 150 o gynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol. Nododd 90% ohonynt eu bod wedi cael problemau recriwtio gwirfoddolwyr yn y chwe mis diwethaf, a disgrifiodd 31% ohonynt eu heriau o ran recriwtio gwirfoddolwyr fel ‘difrifol’. Yn ogystal â hyn, nododd 82% o bobl anawsterau wrth geisio cadw gwirfoddolwyr, gyda 14% ohonynt yn disgrifio’u problemau cadw fel problemau ‘difrifol’.

Daw’r duedd hon ar adeg pan mae mudiadau gwirfoddol yn cael anawsterau ariannol ac yn paratoi eu hunain am ymchwydd o ddefnyddwyr gwasanaethau newydd gydag anghenion mwy cymhleth yn sgil toriadau i wasanaethau cyhoeddus.

SUT MAE MUDIADAU YN MYND I’R AFAEL Â HYN?

Gwelir gallu nodweddiadol y sector gwirfoddol i addasu a meddwl yn greadigol pan fo cydweithio, newid arferion a buddsoddiadau bach wedi’u targedu wedi arwain at gronfeydd ehangach o wirfoddolwyr a chyfraddau cadw mwy sefydlog.

Mae ymgysylltu’n effeithiol â phobl ifanc, fel y gwelir ym menter Foothold Cymru, Volunteens: Be Heard. Be Helpful, yn darparu glasbrint ar gyfer creu gwirfoddolwyr y dyfodol. Mae cynnwys hybiau gwirfoddoli o fewn adnoddau arbenigol, fel ap cymunedol Insight Innovate Trust (Saesneg yn unig) ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, yn gwneud gwirfoddoli’n hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Serch hyn, mae mudiadau nad ydynt yn profi heriau recriwtio a chadw ar hyn o bryd yn poeni ynghylch lles gwirfoddolwyr a’r anghenion cymorth sydd ar gynnydd:

‘Mae’n amlwg bod hwn yn gyfnod mwy heriol […] Rydyn ni’n gweld [bod] ein gwirfoddolwyr (presennol a newydd) angen mwy o gymorth gan y tîm staff […] Nid yw eu hiechyd meddwl mor gadarn oherwydd problemau mewn rhannau eraill o’u [bywydau], ac rydyn ni’n teimlo dyletswydd i roi adnoddau ychwanegol i mewn i’w cynorthwyo.’ – Ymatebwr arolwg.

PAM NAD YW POBL YN GWIRFODDOLI?

Gwnaethom ddechrau derbyn adroddiadau o anawsterau recriwtio a chadw gwirfoddolwyr mewn rhannau o’r sector yn ôl yn 2021. Pan ddaeth cynlluniau ffyrlo i ben, collodd mudiadau lawer o’u recriwtiaid oed gweithio ac nid oedd gwirfoddolwyr oed pensiwn yn dychwelyd mewn niferoedd mawr. Ar yr un pryd, gwnaeth y galw uchel parhaus am wasanaethau roi llawer o bwysau ar wirfoddolwyr presennol, gan arwain at orflinder.

Ddwy flynedd ymlaen, ac mae’r sector yn parhau i weithredu mewn amgylchedd heriol. Mae pwysau’r argyfwng costau byw wedi cael effaith fawr. Nododd cyfranogwyr ein harolwg diweddar mai’r tri rhwystr uchaf i wirfoddolwyr newydd yw diffyg amser, diffyg ymwybyddiaeth a chyfyngiadau ariannol.

Diffyg amser: Mae llawer wedi ymgymryd â chyflogaeth ychwanegol neu ddod allan o’u hymddeoliad i ddychwelyd i’r gweithlu. Mae eraill wedi gorfod gadael eu rolau gwirfoddoli i gynorthwyo ffrindiau a theulu gyda gofal plant.

Diffyg ymwybyddiaeth: Mae’n naturiol edrych am i mewn yn gyntaf i sicrhau bod ein hanghenion sylfaenol ni ac anghenion y rheini sydd agosaf atom wedi’u diwallu mewn adegau o ansicrwydd ariannol. Mae hyn yn golygu nad yw pobl yn edrych gymaint am gyfleoedd gwirfoddoli ac efallai nad ydynt yn meddwl am y buddion cyfunol ac unigol y gellir eu cael o roi eu hamser. Nid yw ymwybyddiaeth y cyhoedd o ble i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ac o’r amrywiaeth eang o rolau sydd ar gael, gan gynnwys opsiynau digidol a thymor byr, yn ddigonol.

Cyfyngiadau ariannol: Ni all gwirfoddolwyr fforddio costau trafnidiaeth neu gostau eraill ymlaen llaw, hyd yn oed pan fydd mudiadau yn cynnig eu had-dalu’n brydlon. Mewn rhai achosion, nid yw’r ad-daliad yn adlewyrchu’r gwir gostau ac yn gadael gwirfoddolwyr ar eu colled.

Gwelir heriau tebyg pan ddaw hi i gadw gwirfoddolwyr. Nodwyd llai o argaeledd, cyfyngiadau ariannol sy’n ymwneud â’r rôl wirfoddoli ac iechyd corfforol neu feddyliol nad yw’n ymwneud â gwirfoddoli fel y tri phrif ffactor.

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae gwirfoddoli yn cyflwyno buddion di-ri, nid yn unig i’r unigolion a’r cymunedau y mae’n ei gefnogi, ond hefyd i wirfoddolwyr, ein gwasanaethau cyhoeddus ac i gymdeithas Cymru yn gyffredinol.

Mae gwirfoddoli yn cael effaith bositif ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn adeiladu cydlyniant cymunedol ac yn ein helpu i fyw bywydau mwy bodlon. Mae hyn wedi’i gydnabod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel Dangosydd Llesiant Cenedlaethol 28. Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli, sy’n gosod uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru gael ei hadnabod fel cenedl sy’n gwirfoddoli.

Ar wahân i’r effeithiau positif, mae’r un mor bwysig i ystyried beth fyddai’n digwydd pe na bai pobl yng Nghymru yn gallu troi at eu cymdogion a’u cynorthwyo mwyach. Mae gennym hanes balch o gamu i’r adwy mewn adegau o angen, o Gymdeithas Cymorth Feddygol Tredegar, a ysbrydolodd greadigaeth y GIG, i’r Urdd. Mae gwirfoddoli wedi’i ymwreiddio yn ein hanes a’n diwylliant.

Mae gwirfoddoli yn chwarae rôl hanfodol mewn atal, dilyn i fyny, rhoi cymorth arbenigol ac allgymorth cymunedol. Faint o apwyntiadau meddyg fydd yn cael eu colli am na all yrrwyr gwirfoddol ychwanegu at gyfraddau milltiredd annigonol mwyach? Faint fyddai’n dioddef yn dawel o unigrwydd, yn lle cael eu cysylltu â’i gilydd i leihau’r ynysu?

BETH ELLIR EI WNEUD I HELPU?

Y dirwedd newidiol: Gwnaeth pandemig COVID-19 sbarduno proses o newid cyflymach, gan drawsnewid bron pob agwedd o’n bywydau – sut rydyn ni’n gweithio, sut rydyn ni’n cymdeithasu a sut rydyn ni’n gwirfoddoli. Mae rolau digidol, micro-wirfoddoli a chyfleoedd hyblyg wedi dod yn fwy poblogaidd.

Mae’r hyn sy’n cymell pobl i wirfoddoli a’r disgwyliadau sydd ganddyn nhw ar gyfer eu profiad gwirfoddoli wedi newid. Cyhoeddodd CGGC adroddiad yn nodi argymhellion i’r llywodraeth, cyllidwyr a mudiadau gwirfoddol ar y camau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i addasu i’r dirwedd newydd.

Codi ymwybyddiaeth: Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) wedi ail-lansio gwefan Gwirfoddoli Cymru –platfform cenedlaethol am ddim, wedi’i optimeiddio, sydd wedi’i ddylunio i fod yn gyswllt rhwng gwirfoddolwyr a mudiadau sydd eisiau recriwtio. Dyma ein ffordd ni o sicrhau bod dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddolwyr a’u hysbysebu yn hawdd, yn gyflym ac yn reddfol.

Cafodd y lansiad lawer o sylw yn y cyfryngau cenedlaethol ar y Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, gydag eitemau ar Wales Online (Saesneg), Nation.Cymru (Saesneg), Radio Wales (Saesneg), Radio Cymru a BBC Cymru, ymhlith eraill. Rhoddodd hyn gyfle i ni siarad am yr heriau difrifol a wynebir gan fudiadau ar hyd a lled y wlad o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Bydd yr ymgyrch ar y cyfryngau yn parhau i mewn i’r flwyddyn newydd.

‘Rydych chi’n gorfod rhoi ychydig, ond rydych chi’n ennill llawer iawn, o ran cwrdd â phobl newydd, datblygu sgiliau newydd, ond hefyd o ran rhoi rhywbeth yn ôl. Ac rwy’n credu ei fod yn wir beth maen nhw’n ei ddweud – mewn bywyd, rydych chi’n cael yr hyn rydych chi’n ei roi i mewn.’ – Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC yn siarad am fanteision gwirfoddoli ar BBC Radio Wales Breakfast.

Dylanwadu ar y llywodraeth: Gwnaethom leisio ein pryderon mewn cyfarfod Partneriaeth Trydydd Sector, a arweiniodd at ddatganiad gweinidogol a thrafodaeth i ddilyn yn Siambr y Senedd. Cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gynlluniau ar gyfer dull cenedlaethol newydd o ymdrin â gwirfoddoli, a gwelsom gefnogaeth drawsbleidiol am wirfoddolwyr.

Amlygodd aelodau’r Senedd bwysigrwydd cyllid cynaliadwy i’r sector, rhaglenni hyfforddi i wirfoddolwyr, a darparu gwasanaethau cyhoeddus digonol. Rydyn ni’n parhau i amlygu’r heriau o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr fel rhan o’r pwysau ehangach sy’n effeithio ar y sector yn ein cyfathrebiadau wedi’u targedu at weinidogion.

Mae CGGC yn rhan o gynghrair sy’n galw am adolygiad o’r Taliadau Lwfans Milltiredd Cymeradwy (AMAP) (gwefan Saesneg yn unig) – Mae’r gyfradd hon wedi’i chapio ar 45c y filltir; nid yw wedi’i hadolygu ers 2012 ac nid yw’n cyfleu’r gwir gostau mwyach.

Eich awgrymiadau: Trwy ein harolwg diweddar, gwnaethom dderbyn mwy na 100 o awgrymiadau ar sut gallai newidiadau mewn polisïau, arferion, cyllido, diwylliannau ac agweddau helpu i liniaru’r anawsterau o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr. Rydyn ni wrthi’n adolygu’r data ac yn llunio cynllun gweithredu.

Os oes gennych chi sylwadau i’w rhannu ar y pwnc hwn, anfonwch e-bost at polisi@wcva.cymru.