Person holding a green plant

Meithrin gwirfoddoli arloesol

Cyhoeddwyd: 11/06/19 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae gymaint o engreifftiau penigamp ar hyd a lled Cymru o wirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth mawr mewn iechyd a gofal cymdeithasol – felly pam nad yw’r arfer da hwn yn cael ei ddefnyddio ym mhob man? Mae Fiona Liddell yn ystyried yr her o ‘gynyddu’ syniadau newydd.

Mae Andrew Goodall (Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru) yn ei gyflwyniad i Gymru Iachach yn traethu ar y weledigaeth o newid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol:

‘Drwy arloesedd lleol sy’n bwydo modelau newydd o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, byddwn yn cynyddu syniadau newydd a ffyrdd gwell o weithio i lefel rhanbarthol ac yna lefel cenedlaethol. Bydd Rhaglen Drawsnewid genedlaethol yn dod â chyflymder a phwrpas i sut yr ydym yn cefnogi newid ar draws yr holl system… ein gwir brawf fydd yn ein darpariaeth o wasanaethau a gwellau canlyniadau ar hyd a lled Cymru’.

Nid yw’r broses a ddisgrifir yn gryno ac yn obeithiol yn y dyfyniad yn fater syml er hynny. Er enghraifft, roedd cyflwyno ffrwythau sitrig i ddiet morwyr yn 1601 heb amheuaeth yn ‘syniad da’ ar y pryd ond fe gymrodd dan 1795 i’r arfer gael ei ddefnyddio gan y llynges Brydeinig. Cant naw deg a phedwar o flynyddoedd!

Mae’r cwestiwn o sut i ‘gynyddu’ arfer da lleol yn un a aethom i’r afael ag o mewn gweithdy mewn cynhadledd diweddar ar rôl y trydydd sector yng Nghymru i gyflawni cynllun hirdymor Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhai heriau

Roedd cyfranogwyr yn barod i adnabod (yn aml o brofiad!), y cyfyngiadau oblegid natur byr dymor yr ariannu. Yn aml mae hyn yn golygu nad oes modd o fewn y cyfnod byr yr ariennir y prosiect, i archwilio, i ddogfennu neu rannu’r gwersi a ddysgwyd gyda’r rhwydwaith ehangach.

Mae swyddi’r staff yn aml yn dod i ben yr un pryd a’r prosiect ac felly collir profiad lleol gwerthfawr. Yn fwy na hynny, mae ariannu tymor byr yn arwain at feddwl tymor byr.

Yn llwyr arwahân i’r cwestiwn o gyllid, os yw prosiect gwirfoddoli yn effeithiol mewn un ardal, beth yw’r tebygoliaeth y bydd yn gweithio mewn ardal wahanol, ble mae’r cynnwys a’r personoliaethau yn wahanol?

Os yw’n gweithio’n dda ar raddfa fach, beth yw’r tebygoliaeth y bydd yn gweithio ‘run mor dda pan fydd ar raddfa fwy?

Trawsblanwch model craidd neu weithgaredd gwirfoddoli o un amgylchedd gysgodol mewn ‘inciwbator’ i ardal fwy agored a ni all o reidrwydd ffynnu.

Byddai’n well i ni mewn unrhyw achos siarad am ‘ledaenu’ yn hytrach na ‘chynyddu’ o ran ymyriadau gwirfoddoli, gyda mwy o bwyslais ar ddyblygu rheolaidd o syniad yn hytrach na masgynhyrchu.

Gall ‘llwyddiant’ gael ei farnu drwy wahanol lensiau: o economeg, i ganlyniadau clinigol, i lesiant ungiol neu effeithionlrwydd cyflenwi gwasanaeth, yn dibynnu ar byw ydych chi – neu bwy yr ydych yn bwriadu ei argyhoeddi.

Mae her benodol yn ein hwynebu o ran sut yr ydym yn ‘pecynnu’ a chyfathrebu ymyriadau gwirfoddoli sydd wedi eu profi’n effeithiol mewn un ardal, mewn ffordd sy’n galluogi eraill i’w gwneud yr un mor effeithiol mewn ardal arall.

Lledaenu arfer da

Cynhaliodd The Health Foundation ymchwil ymhlith y rhai a oedd yn derbyn grantiau ganddynt a phartneriaid yn ystod 2017-18. Daethant i’r casgliad yn eu hadroddiad The Spread Challenge y dylid rhoi mwy o sylw i’r rôl mabwysiadwyr yn hytrach na sylw penodol i arloeswyr y modelau newydd ac arferion newydd mewn gofal iechyd.

‘I ledaenu ymyriadau gofal iechyd cymhleth yn llwyddiannus bydd gofyn eu pecynnu mewn ffordd fwy soffistigedig a dylunio rhaglenni bydd yn eu lledaenu mewn ffyrdd mwy soffistigedig.’

Gellir dadlau, bod y rhan fwyaf o raglenni gwirfoddoli yn ‘ymyriadau cymhleth’ o ganlyniad i bresenoldeb bod dynol.  

Bydd gofyn efallai hefyd i fabwysiadwyr fod yn addaswyr wrth iddynt gyfieithu, coethi, ac weithiau yn fwy neu lai ailddyfeisio ymyriad peilot.

Mae’r cam hwn yn hanfodol ac yn datblygu ein dealltwriaeth o beth yw’r elfennau hanfodol o’r prosiect, yr hy’n sydd, yn anghenrheidiol ar gyfer ei lwyddiant a beth sydd angen ei deilwra i weddu gydag amgylchiadau lleol.

Helplu yng Nghymru

Mae Helpforce, a’i brif bartner CGGC yng Nghymru, yn gweithio gyda phartneriaid ar hyd a lled y DU i feithrin a lledaenu arloesedd mewn gwirfoddoli o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd yn canolbwyntio’n fwyfwy ar sut y gall gwirfoddoli llwyddiannus gael ei ‘becynnu’ a’i ‘ledaenu’ ar gyfer buddion ehangach. Mae swydd newydd wedi cael ei chreu er mwyn datblygu’r gwaith.

Yng Nghymru gallwn ddysgu o brofiadau ar hyd a lled y DU ac o dystiolaeth a’r fethodoleg sy’n dod i’r wyneb. Byddwn yn adolygu’r llenyddiaeth a gyhoeddir gyda phartneriaid ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal â thynnu sylw at engreifftiau o wirfoddoli effeithiol sydd â photensial strategol. Os ydych yn gwybod am brosiect o’r fath, cysylltwch â ni!

Mae’r Comisiwn Bevan yn cychwyn ar raglen arall yn fuan i gefnogi’r penodiad o fabwysiadwyr arloesedd gofal iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd. Bydd rhain yn dod yn gydnabyddion clos i’r achos.

I gloi..

Gadewch i mi ddod yn ôl at gydweddiad garddwriaethol, unwaith eto er mwyn gwneud fy mhrif bwynt: er mwyn i arloesedd mewn gwirfoddoli wreiddio, mae angen i ni hefyd baratoi’r tir, hynny yw, i greu’r capasiti a’r parodrwydd ar gyfer cymryd rhan mewn gwirfoddoli.

Mae hyn yn golygu datblygu diwylliant mudiad, agweddau staff a’r polisi isadeiledd er mwyn galluogi gwirfoddoli i ffynnu. Wrth gydweithredu gyda CGGC ar lefel genedlaethol, mae Canolfannau Gwirfoddoli ym mhob sir yn cefnogi mudiadau i ddatblygu rhaglenni gwirfoddoli addas a pholisïau.

Bydd CGGC hefyd yn paratoi’r sylfaen drwy drafodaethau cenedlaethol gydag ystod o rhanddeiliaid a thrwy ddatblygiad o safonau arfer fwy cyson.

Fiona Liddell yw Rheolwr Helpforce Cymru, wedi’i lleoli o fewn CGGC. Gellir cysylltu â hi ar fliddell@wcva.cymru @FionaMLiddell 029 2043 1730.