P’un a ydych wedi ymuno yn ddiweddar neu os hoffech ddysgu mwy am eich aelodaeth, dyma flog byr am sut i gael y gorau o fod yn aelod o CGGC.
MYNNWCH GYFRIFON I’CH CYDWEITHWYR
Mae gan aelodau fynediad i ardal Aelodau o’n gwefan lle gallwch ddod o hyd i:
- restr bersonol o hoff gynnwys ar wefan CGGC (gweler isod)
- erthyglau a blogiau ar gyfer aelodau yn unig
- dolenni i fuddion aelodau a digwyddiadau i aelodau yn unig,
- gwybodaeth am eich cyfrif
Fel aelod, gallwch gael faint fynnwch chi o fewngofnodion unigol ar gyfer eich cyfrif. Gall eich cydweithwyr bennu eu henw defnyddiwr a’u cyfrinair eu hunain (dim mwy o negeseuon e-bost yn gofyn am fanylion mewngofnodi!) a chreu rhestr unigryw o ‘hoff gynnwys’ yn arbennig ar eu cyfer hwy.
Gall aelod-sefydliadau gael mwy nag un mewngofnod heb unrhyw gost ychwanegol. Cofiwch gysylltu â ni i dargnafod sut i sefydlu cyfrifon ychwanegol.
CREU LLYFRGELL O GYNNWYS CGGC A DDEFNYDDIR YN FYNYCH
O gael cyfrif, gallwch bennu ‘hoff’ eitemau ar ein gwefan fel y gallwch gael mynediad cyflym atynt.
Pan rydych wedi mewngofnodi, defnyddiwch y logo seren hoffi i ychwanegu tudalen neu adnodd i’ch hoff gynnwys . (Gallwch hefyd ddad-glicio’r seren i dynnu’r cynnwys oddi ar eich rhestr).

Gellir gweld rhestr o’ch nod tudalennau yn Ardal yr Aelodau sy’n unigryw i’ch cyfrif chi.

YMUNWCH Â’N RHESTR BOSTIO I AELODAU
Fel aelod o CGGC cewch fynediad i Y Gwahaniaeth a’n Crynhoad Polisi a Materion Cyhoeddus.
- Bydd porth Y Gwahaniaeth yn eich cysylltu ag aelodau eraill o CGGC ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnwys a digwyddiadau a buddiannau i aelodau.
- Mae’r Crynhoad Polisi a Materion Cyhoeddus yn rhoi trosolwg bob pythefnos i chi ar y datblygiadau diweddaraf o ran polisi a gwleidyddiaeth sy’n effeithio ar sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.
Tanysgrifiwch i restrau postio aelodau.
Gallwch ddad-danysgrifio neu reoli eich dewisiadau ar unrhyw adeg gan ddefnyddio’r dolenni yn ein negeseuon e-bost.
(Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein rhestri postio eraill fel cylchlythyr wythnosol CGGC a diweddariadau hyfforddiant. Mae’r rhain ar gael i bawb – Gweld beth sydd ar gael a thanysgrifio).
GWAHODDIAD I DDIGWYDDIADAU I AELODAU
Fel aelod-sefydliad, bydd gennych fynediad i o leiaf wyth digwyddiad aelodau yn unig bob blwyddyn. Mae’r digwyddiadau unigryw hyn yn trafod pynciau neu themâu penodol, ac rydym yn gweithio gyda chyflenwyr dibynadwy a siaradwyr gwadd i gyflwyno gwybodaeth arbenigol a hwyluso trafodaethau ymysg ein haelodau. Mae’r digwyddiadau hyn yn esgus perffaith i rannu safbwyntiau, profiadau, tanio syniadau a meithrin perthnasoedd er mwyn cydweithredu.
Mae rhai o’n digwyddiadau i aelodau yn unig yn cynnwys gweithdai yn ystod Wythnos yr Ymddiriedolwyr, ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) a’n Darlith Flynyddol a gyflwynir gan siaradwr cyffrous sy’n procio’r meddwl bob blwyddyn.
Cyhoeddir manylion digwyddiadau aelodau yn unig yn Ardal yr Aelodau ac yn ein cylchlythyrau (gweler uchod).
MANTEISIO AR OSTYNGIADAAU HYFFORDDIANT CGGC
Aelodau yn cael gostyngiad o 20% ar gostau hyfforddiant CGGC (gostyngiad o 10% i’n partneriaid). Mae ein cyrsiau hyfforddi wedi’u cynllunio yn ôl anghenion ein haelodau a’r sector gwirfoddol ehangach ac ar gyfartaledd mae 95% o’r mynychwyr yn ystyried bod ein hyfforddiant yn dda neu’n rhagorol.
Gall ein tîm hyfforddi hynod brofiadol hefyd drefnu cyrsiau hyfforddi pwrpasol wedi’u teilwra’n benodol i anghenion eich sefydliad am bris gostyngedig i aelodau.
Ewch i’n hadran hyfforddi i weld ein cynigion.
ARBED ARIAN AR NWYDDAU A GWASANAETHAU GAN EIN CYFLENWYR DIBYNADWY
Dewiswyd cyflenwyr dibynadwy CGGC yn ofalus ar sail eu gwerthoedd a’u harbenigedd yn eu maes.
Mae ein cyflenwyr dibynadwy yn cefnogi ein haelodau trwy ddarparu awgrymiadau defnyddiol trwy flogiau gwesteion, vlogs a siarad yn ein digwyddiadau – yn ogystal â chynnig gostyngiadau unigryw ar nwyddau a gwasanaethau. Gall y gostyngiadau a’r gwasanaethau hyn helpu ein haelodau i ganolbwyntio ar wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth.
Mae Cyflenwyr Dibynadwy yn cynnig cefnogaeth mewn meysydd fel yswiriant, gweddnewid digidol (e.e. help gyda gweithio o bell/o’r tŷ), datblygu arweinyddiaeth a recriwtio. Rydym yn diweddaru ein rhestr o Gyflenwyr Dibynadwy yn rheolaidd felly ewch i’r dudalen Cyflenwyr Dibynadwy i ddarganfod mwy.
LLUNIO EIN GWAITH
Mae ein haelodau yn llunio ein gwaith a gobeithiwn fel aelod o CGGC y byddwch yn ein cefnogi yn ein pwrpas: galluogi sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
Mae gan aelodau rôl bwysig yn:
- Ethol ymgeiswyr i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr
- Dewis cynrychiolwyr sector ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Cawn ein llywio gan ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr a dim ond aelodau CGGC all gynnig ymgeiswyr a phleidleisio ar ba un o’r ymgeiswyr hynny fydd yn aelod o’r bwrdd. Rydym am sicrhau bod ein bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth y sector yng Nghymru a gallwch ein helpu trwy gymryd rhan mewn etholiadau bwrdd.
Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yn ffordd y gall sefydliadau gwirfoddol siarad â Llywodraeth Cymru a chael adborth ganddi. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr rhwydweithiau sector gwirfoddol sy’n gweithio mewn 25 maes o’r gweithgaredd sector. Mae hon yn ffordd allweddol o ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth yng Nghymru a chodi materion a phryderon i’r sector. Etholir aelodau i’r TSPC bob pum mlynedd a cânt eu hethol gan aelodau CGGC.
YMUNWCH Â LLEISIAU CYFUNOL
Fe wyddom bod dau lais yn well nag un … ac yn y blaen. Mae llais cyfunol ein haelodau a’u perthnasoedd amrywiol â’r bobl all sicrhau newid yn darparu llais dylanwadol llawer mwy pwerus. Defnyddiwch gyfleoedd eich aelodaeth i gysylltu ag eraill yn y sector gwirfoddol yng Nghymru fel y gallwn wneud mwy o wahaniaeth fyth gyda’n gilydd.
Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am fanteisio i’r eithaf ar eich aelodaeth, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch aelodaeth@wcva.cymru.