Mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, yn amlygu’r prif bwyntiau yn ein Maniffesto i’r Sector Gwirfoddol ar gyfer yr etholiadau tyngedfennol i Gymru yn 2021.
Bydd etholiadau’r flwyddyn nesaf yn dyngedfennol o ran pennu dyfodol Cymru. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ganolbwyntio ar adferiad Cymru o bandemig presennol y coronafeirws a’r dirwasgiad dilynol, yn ogystal â gwneud y gorau o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Credwn y gall gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol chwarae rhan arwyddocaol yn hynny o beth. Gydol y pandemig, mae gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol wedi bod wrth wraidd ymateb Cymru, o ddosbarthu meddyginiaethau a bwyd drwy gydol y cyfyngiadau symud, i gefnogi’r rheini sy’n ddi-waith o ganlyniad i’r pandemig.
Mae’r maniffesto hwn yn amlinellu sut gall y Llywodraeth Cymru nesaf, waeth beth fydd ei chyfansoddiad, weithio gyda’r sector gwirfoddol fel y gall y ddwy ochr gael mwy o effaith ar fywydau pobl yng Nghymru.
Mae’n ceisio adeiladu ar yr ymchwydd diweddar mewn gwirfoddoli, a’r ysbryd cymunedol anhygoel sydd wedi ffynnu drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Mae hefyd yn amlinellu sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r sector gwirfoddol i chwarae rôl yn y gwaith adfer o COVID-19 sydd cyn gryfed â’r rôl a chwaraewyd ganddo yn ystod y cyfyngiadau symud a llifogydd Storm Dennis yn gynharach y flwyddyn hon.
Yn ein holl drafodaethau â’r sector gwirfoddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae mudiadau o’r sector gwirfoddol wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo y gallant adeiladu ar eu profiadau diweddar a mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu Cymru yn y dyfodol, fel y dirwasgiad i ddod a’r newidiadau i’r economi fyd-eang, y newid yn yr hinsawdd, a’r cynnydd mewn anghyfartaledd. Mae pob un ohonom yn credu y gall y sector gwirfoddol, gyda’r gefnogaeth gywir, gynnal yr ysbryd gwirfoddol a chymunedol sydd wedi ein helpu i gyd drwy’r flwyddyn ddiwethaf.
Mae ein maniffesto yn cynnwys cynigion fel:
- Buddsoddi mewn gwirfoddoli ieuenctid, gan gefnogi’r gwaith o ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael o fewn mudiadau cyfredol a mudiadau sy’n dechrau o’r newydd.
- Deddfwriaeth a chyllid newydd i gefnogi’r gwaith o rymuso cymunedau, gan gynnwys Cronfa Cyfoeth Cymunedol newydd.
- Sicrhau bod llais dinasyddion yn ganolog wrth gynllunio gwasanaethau a datblygu polisïau. Dylid rhoi sylw penodol i gynnwys grwpiau wedi eu hymyleiddio yn y gwaith hwn.
- Manteisio i’r eithaf ar brofiad y sector gwirfoddol o gynorthwyo pobl i ddychwelyd i waith, a chynnwys hyn mewn rhaglenni economaidd newydd.
Mae’r maniffesto yn edrych hefyd ar sut gall y Llywodraeth Cymru nesaf gefnogi’r sector i fod yn fwy gwydn yn y dyfodol.
Ar ôl yr etholiad nesaf, bydd Cymru yn ffynnu os gallwn ddatblygu partneriaeth ystyrlon rhwng y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae CGGC yn credu y gall y Maniffesto hwn i’r Sector Gwirfoddol helpu i gyflawni hynny.
Ydych chi eisiau siarad â ni ynghylch ein maniffesto, neu awgrymu syniadau ar beth ddylai’r Llywodraeth Cymru nesaf ei flaenoriaethu yn eich tyb chi? Rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at policy@wcva.cymru.