I aelodau CGGC, mae ein Rheolwr Sgiliau Digidol, Hannah Bacon yn myfyrio ar yr anghenion a’r rhwystrau y mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn eu hadrodd o ran digidol a’r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael.
Rydym wedi bod yn gysylltiedig â darn o waith yn ddiweddar yn siarad â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i fapio’r heriau, yr anghenion a’r agweddau tuag at ddigidol. Er bod llawer o rwystrau i’w goresgyn, rydym wedi gweld bod mudiadau yng Nghymru yn awyddus i gofleidio digidol ac rydym yn gysylltiedig â nifer o fentrau a allai eich cynorthwyo chi i wneud hynny.
EIN GWAITH YMCHWIL YNG NGHYMRU
Fel rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector, ein prosiect mewn partneriaeth â mudiad Cwmpas a ProMo-Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, gwnaeth ProMo-Cymru gynnal gwaith ymchwil gyda mudiadau gwirfoddol ar beth sydd ei angen arnynt i ddatblygu eu capasiti digidol.
Gan ganolbwyntio ar ansawdd dros faint, gwnaeth ein hymchwil fynd ati’n fanwl i archwilio’r pwnc gydag 11 o benderfynwyr elusennau o wahanol faint ledled Cymru â lefelau amrywiol o aeddfedrwydd digidol.
Gwnaeth ein gwaith ymchwil ganolbwyntio ar:
- Yr heriau y mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn eu hwynebu
- Beth sy’n mynd ag amser i ffwrdd o gefnogi eu defnyddwyr gwasanaethau neu fuddiolwyr?
- Problemau y gall digidol helpu i’w datrys
- Heriau na ellir eu datrys yn ddigidol
- Sut mae mudiadau gwirfoddol yn adeiladu gwasanaethau
- Dealltwriaeth mudiadau o ddigidol
- A oes gwahaniaeth rhwng mudiadau â lefelau gwahanol o aeddfedrwydd
- Dyheadau o ran sut gallai mudiadau gwirfoddol edrych yn ddigidol ymhen pump i ddeng mlynedd
BETH WNAETHOM NI EI DDYSGU
Straen ar y sector
Mae mudiadau yn wynebu mwy a mwy o alw am eu gwasanaethau, ac mae’r costau byw cyfredol ac anghenion cynyddol defnyddwyr gwasanaethau yn gwneud y broblem yn waeth. Caiff y straen ei waethygu’n waeth fyth gan yr adnoddau cyfyngedig a’r gormodedd o bobl sydd angen gwasanaethau cyhoeddus. Cawsom wybod am iechyd meddwl sy’n gwaethygu, pobl yn dod yn fwyfwy ynysig, llai o wirfoddolwyr a diffyg cyllid cynaliadwy.
Baich gweinyddol
Daeth tuedd ofidus i’r amlwg o fudiadau sy’n treulio maint anghymesur o amser ar weinyddiaeth. Roedd hen systemau, prosesau aneffeithlon a gofynion adrodd yn ei gwneud hi’n anodd i fudiadau gyflawni eu gwaith creiddiol gyda defnyddwyr gwasanaethau. Clywsom y gall digidol helpu, ond mae hyn hefyd wedi dod yn faich oherwydd systemau hen ffasiwn, ond mae mudiadau yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r amser i ddatrys hyn.
Capasiti i arloesi
Y rhwystr mwyaf i drawsnewid digidol a rannwyd amlaf oedd prinder amser i arloesi neu ailfeddwl am bethau. Mewn mudiadau llai, nid oedd ganddynt y capasiti staff a/neu’r sgiliau i roi’r datrysiadau cywir ar waith ac mewn mudiadau mwy, roeddent yn dioddef o systemau lluosog, prosesau rhy cymhleth a dyblygu data. Cydnabu’r rhan fwyaf o’r mudiadau fod ffordd well o wneud pethau (a ychwanegodd at y rhwystredigaeth), ond nid oeddent yn teimlo bod ganddynt yr amser, y lle ac, mewn rhai achosion, y sgiliau i roi newidiadau ar waith.
Sgiliau digidol
Mae sgiliau digidol a hyder hefyd yn rhwystrau i rai mudiadau. Er bod rhai mudiadau’n ddigidol aeddfed, nododd rhai nad oedd ganddynt sgiliau digidol sylfaenol fel defnyddio Teams, calendrau ar-lein neu gysylltu ag argraffwr.
Cyllid
Mae cyfyngiadau cyllido yn arwain at gapasiti cyfyngedig i fuddsoddi amser ac adnoddau mewn trawsnewid digidol. Mae mudiadau yn cael anhawster sicrhau cyllid cynaliadwy, yn enwedig ar gyfer costau craidd. Ychydig iawn o gyllid sydd ar gael i helpu mudiadau wneud y gwaith mewnol sydd ei angen i wella ac ailfeddwl eu systemau a’r ffordd y maen nhw’n darparu gwasanaethau.
Gobaith
Serch yr heriau hyn, roedd archwaeth a brwdfrydedd dros ddysgu am ddigidol a’i gofleidio. Mae cyfle enfawr yma i ddefnyddio digidol i gynorthwyo mudiadau i symleiddio gweithrediadau, gwella effeithlonrwydd ac, yn y pen draw, rhyddhau amser.
Mae’r sector angen cymorth â digidol
Oherwydd y cyd-destun presennol y mae pobl yn gweithio o’i fewn, mae’n hollbwysig i ddarparu cyngor, arweiniad, cymorth a datrysiadau sy’n berthnasol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gallwch ddarllen Adroddiad Darganfod 2024 Newid ar wefan Newid.
EDRYCH AR DDATRYSIADAU
Rydym yn defnyddio canfyddiadau’r gwaith ymchwil i hysbysu’r cymorth rydym ni’n ei gynnig i’r sector gwirfoddol.
O’n dadansoddiad, gwnaethom ddarganfod tri pheth i’ch helpu chi.
- Graddfa Mabwysiadu Aeddfedrwydd digidol, a addaswyd o un a gynhyrchwyd gan dîm adrodd Sgiliau Digidol Elusennau. Bydd hon yn eich helpu i ddeall ble mae eich mudiad ar hyn o bryd ar ei daith i fabwysiadu technoleg ddigidol, a pha gamau nesaf y gallwch chi eu cymryd i symud ymlaen i’r cam nesaf.
- Templed Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) y gall mudiadau ei ddefnyddio, ynghyd â chanllawiau ar sut i’w ddefnyddio. Rydym yn cydnabod bod gan bob mudiad anghenion unigryw o ran datrysiadau CRM. Cafodd y templed hwn ei greu i allu cael ei addasu ar unwaith, ac mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.
- Teclyn hunanasesu sy’n caniatáu i fudiadau weld ble maen nhw ar eu taith ddigidol a’r camau nesaf ymarferol y gallant eu cymryd.
CYMORTH ARALL GYDA DIGIDOL
Rydym yn cefnogi prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector Pro-Mo-Cymru. Gall aelodau CGGC sydd eisiau datblygu eu capasiti digidol gysylltu â’r prosiect am:
- Gefnogaeth un-i-un gydag unrhyw heriau sy’n ymwneud â digidol
- Cefnogaeth, hyfforddiant a chyllido pwrpasol i fudiadau gwirfoddol i greu gwasanaethau digidol wedi’u cydgynllunio
- Cynnwys i ddangos beth yn union yw digidol da yn y sector gwirfoddol
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Newid yn newid.cymru a chofrestru i gael ein cylchlythyr i weld y cyfleoedd digidol diweddaraf. I ddysgu mwy am y prosiect, Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, ewch i wefan y prosiect.