Mae Kelly Huxley-Roberts, Rheolwr Polisi a Phartneriaethau, Cymru, gyda Sefydliad Lloyds Bank ar gyfer Cymru a Lloegr, yn myfyrio ar gofod3 eleni.
Rwy’n dal i fod yn gyffro i gyd o gynhesrwydd a phositifrwydd cynhadledd sector gwirfoddol Cymru eleni, gofod3.
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi herio pawb sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol. Mae’r bobl sy’n gwneud elusennau a mentrau cymdeithasol yr hyn y maen nhw wedi dangos mwy o hyblygrwydd, penderfyniad a chalon nag erioed o’r blaen.
Y teimlad sy’n parhau gennyf ar ôl gofod3 yw diolchgarwch. Rwy’n ddiolchgar o weld pobl frwdfrydig, ofalgar, wybodus ac ymroddedig yn dod ynghyd â phositifrwydd, meddyliau agored, eofndra, syniadau a phenderfyniad.
Fel un o brif gefnogwyr y digwyddiad, mae fy nghydweithwyr yn *Sefydliad Lloyds Bank ar gyfer Cymru a Lloegr a finnau yn ddiolchgar bod popeth wedi mynd yn dda. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a’i gyflawnodd, y rheini a oedd yn arwain sesiynau a’r rheini y tu ôl i’r llenni.
GWERTH CYDBERTHNASAU
Roedd gofod3 yn llawn dop o sesiynau drwy gydol y diwrnod, a chyda fwy na 500 o fynychwyr. Gyda thrafodaethau panel, gweithdai, seminarau a sgyrsiau dirifedi drwy gydol y diwrnod, yr unig beth siomedig oedd na allem ni fynd i bopeth!
Fel y gynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf ers 2019, roedd yn gyfle ffantastig i weithio mewn partneriaeth ystyrlon gydag CGGC, partneriaid elusennol, Llywodraeth Cymru a phobl eraill o’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
I ni fel Cyllidwr, roedd hefyd yn gyfle i gysylltu wyneb yn wyneb â phartneriaid elusennol (presennol a blaenorol), partneriaid datblygu sy’n cefnogi ein helusennau, a chyllidwyr eraill yng Nghymru. Roedd hefyd yn gyfle i hybu *ein cyfleoedd cyllido newydd a’n rhaglen datblygu sefydliadol, ac yn gyfle i *ddweud wrth bobl am ein Prif Swyddog Gweithredol newydd.
GWNEUD CYSYLLTIADAU
Gwnaeth Lesley Griffiths ei hanerchiad cyntaf i’r sector ers cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a gwelsom Lindsay Cordery-Bruce yn hwylio’n ddidrafferth drwy’r diwrnod fel Prif Weithredwr newydd CGGC.
Collais gyfrif o nifer y sgyrsiau y digwyddais gael ar y ffordd i ystafelloedd eraill, i’r car, neu wrth fwyta’r cacennau bach blasus a gynigiwyd gan dîm y Cinio Mawr. Ni ellir curo’r egni o fod yno’n bersonol, ac roedd yn amlwg cymaint yr oedd pobl eisiau cysylltu.
Mae’n werth nodi nad yw bob amser yn hawdd na’n bosibl i rai pobl ddod i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, boed hynny oherwydd pellter, cost, diffyg opsiynau trafnidiaeth hygyrch neu resymau iechyd. Wrth symud ymlaen, rhaid i ni i gyd barhau i ystyried tegwch wrth i ni ailgydio mewn digwyddiadau fel gofod3.
GWERTH Y SECTOR GWIRFODDOL
Roedd yn wych clywed lleisiau amrywiol o’r sector, gan gynnwys lleisiau’r rheini nad ydynt bob amser yn cael sylw, gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol bach.
Codwyd syniadau ardderchog – a heriau – drwy gydol y diwrnod, ac un thema a wnaeth fy nharo i oedd pa mor werthfawr yw’r sector gwirfoddol. Mae angen i’r rheini sy’n gwybod hyn weithio gyda’i gilydd yn frwd i gyfleu’r gwerth hwnnw, ac mae angen i’r sector gyfan fynnu cydnabyddiaeth er mwyn cadw’r ansawdd yn uchel a sicrhau na fydd cenedlaethau’r dyfodol wedi clywed am orflinder.
GWERTH BOD YN FACH
Fel cyllidwr, rydym yn mynd ati’n benodol i gefnogi elusennau bach a lleol, a ni sy’n cynnal Fforwm Elusennau Bach Cymru. Creodd y Fforwm sesiwn o’r enw ‘Dod o hyd i’r Da’, gan ofyn y cwestiwn: beth yw’r tendr mwyaf manteisiol mewn gwirionedd?
Daeth llawer i’r sesiwn, a gwnaethom rannu adnodd dwyieithog a oedd yn cynnwys ein hargymhellion ar arferion da wrth gomisiynu. Mae’r argymhellion hyn wedi dod o arweinwyr elusennau bach eu hunain, pobl sydd â phrofiad bywyd a dysgedig o’r hyn y mae’n ei gymryd i gynnig gwasanaethau sydd o bwys i gymunedau.
Mae ein hargymhellion ar arferion da wrth gomisiynu wedi hysbysu Cod Ymarfer Cyllido diwygiedig Llywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu cynnwys yn y Pecyn Cymorth Caffael Cenedlaethol, a grëwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a phartneriaid eraill. Gwahoddwn bobl i ddefnyddio ein hadnodd ‘Dod o hyd i’r Da’ er mwyn ysgogi sgyrsiau comisiynu ledled Cymru.
GWERTH GOBAITH
Mae cymdeithas a’r sector yn parhau i newid. Mewn rhai ffyrdd, ar ôl cyfnod heriol a thrawsnewidiol, mae cwrdd wyneb yn wyneb â phobl am ddiwrnod mor brysur ac egnïol yn teimlo ychydig fel ailosod.
Ond ni ddylem esgus nad yw’r gorffennol wedi digwydd, a bod popeth yn berffaith nawr. Gadewch i ni ddysgu o’r hyn sydd wedi gweithio’n dda fel y gallwn ni gryfhau’r sector, mewn modd sy’n adeiladu ar yr hyn a’n daeth â ni i’r fan hon. Y cryfderau rwyf i’n gweld yn helaeth yw: gonestrwydd, ymrwymiad, meddylfryd i ddysgu a phrofiad.
Y peth arall rwyf yn ei weld yw gobaith, sydd efallai’n ddim mwy na phenderfyniad i barhau i gredu y bydd da yn ennill y dydd. Fe adawaf i’r gair olaf i’r wraig wych, Menai Owen-Jones, y gwnaeth ei geiriau yn ystod y drafodaeth banel ynghylch heriau yn y sector gwirfoddol fy nharo fel pethau gwir ac anghenraid:
’Mae’n rhaid i ni weithio gyda gobaith.’
MWY YNGHYLCH SEFYDLIAD LLOYDS BANK
*Kelly Huxley-Roberts sy’n arwain gwaith Polisi a Phartneriaethau Sefydliad Lloyds Bank yng Nghymru a hi yw cyfarwyddwr bwrdd y Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal sgwrs gomisiynu yn eich ardal, anfonwch e-bost at khuxleyroberts@lloydsbankfoundation.org.uk.
*Saesneg yn unig