Yr Wythnos Elusennau Cymru hon, mae Natalie Zhivkova, Swyddog Polisi Gwirfoddoli CGGC, yn amlygu apêl gymunedol ysbrydoledig sydd wedi bod yn rhedeg am dros chwe degawd.
Wythnos Elusennau Cymru yw ein hatgoffâd blynyddol i ddathlu ymdrechion mudiadau elusennol ledled Cymru. Mawr neu fach, newydd neu hen, ffurfiol neu anffurfiol – mae pob un ohonyn nhw’n chwarae rôl bwysig yn ecosystem ein sector gwirfoddol, ond yn bwysicach na hynny, ym mywydau pobl. Wrth i ni agosáu at wyliau’r Nadolig, hoffwn fanteisio ar y cyfle i daflu goleuni ar brosiect cymunedol gwych sy’n dathlu 63 blynedd olynol o roi gwên ar wynebau plant yn ne Cymru.
BLE WYT TI NADOLIG? PAM NA ALLA I DDOD O HYD I TI?
Mae’r Nadolig gerllaw, ac i’r rheini ohonom a gafodd ein magu yn dathlu’r gwyliau, mae’n deffro emosiynau cryf. Mae’r disgwyliad a’r cyffro a ddaw yn sgil agor anrheg arbennig gan Siôn Corn yn atgof melys i lawer, ond ar yr un pryd, nid yw’r gwyliau bob amser wedi bod yn achlysur hapus i eraill.
Mae nod Apêl Nadolig Mr X yn syml: cadw hud y Nadolig yn fyw drwy roi atgof melys o’r Nadolig i blant mewn perygl o beidio â chael unrhyw beth gan Siôn Corn. Mae’n ymgyrch fendigedig sy’n caniatáu i blant gadw eu synnwyr o ryfeddod, gwybod eu bod yr un mor haeddiannol â’u cymheiriaid, a mwynhau anrheg arbennig wedi’i dewis iddyn nhw â llawer o ofal.
Mae llawer o elusennau, mentrau cymdeithasol a busnesau ffantastig yn dosbarthu anrhegion i blant, yn enwedig yn ystod y Nadolig. Yr hyn sy’n gwneud Apêl Nadolig Mr X yn arbennig yw’r ffordd unigryw y mae wedi’i rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr anffurfiol ers mwy na 60 mlynedd.
FRANCESCA
Dechreuodd y cwbl yn y 1950au gyda merch fach o’r enw Francesca. Roedd Francesca yn byw mewn cartref plant, ond weithiau, byddai’n mynd ar wibdeithiau gyda theulu lleol – teulu Mr X. Byddai Mr X bob amser yn gwneud yn siŵr bod gan Francesca anrheg ar gyfer y Nadolig. Ond buan y sylweddolodd nad oedd llawer o blant yn y cartref yn cael unrhyw beth.
Dywedodd Mr X wrth ffrindiau a chydweithwyr am y plant eraill, a dechreuodd yr anrhegion lifo i mewn. Cyn hir, roedd dieithriaid yn dod ato ar y stryd a throdd ei weithred syml o garedigrwydd yn ymdrech gymunedol i roi anrheg arbennig gan Siôn Corn i holl blant y cartref.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, symudodd Mr X i Abertawe a dechrau gweithio ar apêl yn yr ardal leol …
Eleni, bydd Apêl Nadolig Mr X yn helpu oddeutu 6,000 o blant ledled de Cymru, o Gaerfyrddin i Gasnewydd.
SUT MAE’N GWEITHIO?
Mae’r broses yn hawdd iawn:
- Mae asiantaethau gofal plant yn rhoi rhestr o blant mewn angen i Apêl Nadolig Mr X
- Mae Apêl Nadolig Mr X yn paru’r plant ag unigolion a hoffai roi anrheg Nadolig
- Caiff yr anrhegion eu rhoi i Apêl Nadolig Mr X, ac yna eu pasio i’r asiantaethau gofal plant a’u derbyn gan bob plentyn ar ddydd Nadolig
PWY YW MR X?
Fel Siôn Corn, ni chaiff Mr X ei weld rhyw lawer. Bu farw’r Mr X gwreiddiol chwe blynedd yn ôl ac mae ei fab wedi cymryd y gweithrediad drosodd. Llwyddais i anfon cwpwl o gwestiynau ato drwy un o’i goblynnod dibynadwy (helpwyr gwirfoddol).
Dywedodd y Mr X presennol ei fod wedi bod yn rhan o’r apêl mewn rhyw fodd neu’i gilydd ers yn ifanc. Byth ers iddo gymryd yr apêl drosodd, mae’n ymroi rhwng 35 i 60 awr yr wythnos rhwng mis Medi a mis Ionawr i sicrhau ei bod yn llwyddiannus. Mynna, fodd bynnag, na fyddai byth yn gallu ei gwneud heb ei lliaws o helpwyr gwirfoddol, yn enwedig Mrs X sy’n gofalu am y ganolfan ddidoli a’i gŵr, y Coblyn Cludiant, sy’n cydlynu gyrwyr gwirfoddol Clwb Rotari Treforys.
Gwirfoddolwyr anffurfiol yw’r holl goblynnod, fel Mr a Mrs X, sy’n dod yn nôl flwyddyn ar ôl blwyddyn i redeg yr apêl. Ac os ydych chi’n gofyn sut gall rhywun ffitio 60 awr o wirfoddoli i mewn i wythnos – mae Mr X wedi ymddeol bellach a dim ond yn gweithio’n rhan-amser, ond arferai ddefnyddio rhywfaint o’i wyliau blynyddol i wirfoddoli gyda’r apêl pan oedd ganddo swydd amser llawn.
CYFWELIAD Â CHOBLYN
Cefais fy nghyflwyno i Apêl Nadolig Mr X gan Goblyn cyfeillgar o’r enw Karen. Mae Karen yn helpu i redeg cangen Caerdydd yr apêl ac yn gyfrifol am gasglu anrhegion i fwy na 300 o blant lleol eleni. Mae’n treulio un i ddwy awr y diwrnod yn gwirfoddoli ar gyfer yr apêl ym mis Hydref, ond erbyn diwedd mis Tachwedd, mae’n ymroi ei holl benwythnosau ac ychydig o oriau bob diwrnod gwaith i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu holl dasgau.
Dechreuodd Karen gymryd rhan yn yr apêl fwy na 15 mlynedd yn ôl pan oedd yn gweithio mewn canolfan alwadau fawr (lle perffaith i lansio apêl gweithle!) Bellach, mae’n aelod hirsefydlog o dîm Adnoddau Dynol CGGC ac wedi bod yn rhedeg yr apêl i ni ers blynyddoedd maith.
Mae llawer o gydweithwyr CGGC yn cymryd rhan drwy gofrestru i roi anrheg i blentyn, ac mae rhai hyd yn oed yn gwirfoddoli eu cartrefi fel mannau casglu ac yn helpu â’r cludiant. Mae apêl Mr X wedi dod yn rhan annatod o’r ŵyl i staff CGGC ac yn rhywbeth rydyn ni’n edrych ymlaen ato bob blwyddyn.
Pan holwyd i Karen beth y mae hi wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd maith o fod yn rhan o’r apêl, meddai ‘pa mor garedig y gall y byd fod pan fydd o bwys.’
MAE’N CYMRYD CYMUNED
Caiff Apêl Nadolig Mr X ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr anffurfiol. Nid oes ganddi unrhyw staff a delir ac nid yw’n derbyn rhoddion ariannol. Mae’n dibynnu’n llwyr ar ewyllys da pobl sy’n dymuno rhoi anrhegion, a’r rheini sy’n gwirfoddoli eu hamser i drefnu popeth. Mae’n enghraifft ryfeddol o faint y gall gwirfoddoli cymunedol ei gyflawni. Dyma sut y mae wedi’i galluogi gan gyfranwyr gwahanol:
UNIGOLION
Mae pob unigolyn sydd wedi hyrwyddo Apêl Nadolig Mr X dros y blynyddoedd yn rym er da yn ei gymuned – boed honno’n weithle, yn floc o fflatiau neu’n grŵp diddordeb. Dyma beth sy’n cadw’r anrhegion i ddod a chadw’r cyrhaeddiad i ehangu.
SEFYDLIADAU
Mae asiantaethau gofal plant wedi gorfod bod yn hyblyg, yn ymddiriedus ac yn gydweithredol yn y broses hon er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu hatgyfeirio ar amser, cyfarwyddiadau yn cael eu rhoi a’r anrhegion yn cael eu derbyn.
CYFLOGWYR
Gwirfoddoli â chymorth cyflogwr, gweithio’n hyblyg, creu amgylchedd cymwynasgar yn y gweithle (i drefnu casgliadau cyflogeion a defnyddio safleoedd busnes fel storfeydd dros dro neu fan gollwng lle’n bosibl), a bod yn hyblyg gyda gwyliau blynyddol.
BUSNESAU
Mae llawer o fusnesau wedi helpu Apêl Nadolig Mr X dros y blynyddoedd – o hysbysebu’r ymgyrch, lansio apeliadau gyda’u cwsmeriaid a rhoi anrhegion yn uniongyrchol i gynnig eu safleoedd fel mannau casglu neu hyd yn oed hybiau dosbarthu.
Mae Apêl Nadolig Mr X wedi bod yn ymdrech tîm go iawn ac yn enghraifft wych o gydweithio traws-sector. Mae wedi creu cymuned o unigolion, sefydliadau, perchnogion busnes a chyflogwyr sy’n dod ynghyd (mewn mwy o rifau bob blwyddyn) i gyflawni nod cyffredin. Gan ddilyn y pum ffordd o weithio, mae Apêl Nadolig Mr X yn creu Cymru sy’n fwy Cyfartal a Chymru o Gymunedau Cydlynus.
CYMRYD RHAN
Yn anffodus, mae’n rhy hwyr i gymryd rhan yn Apêl Nadolig Mr X eleni (mae angen i’r holl anrhegion gael eu trosglwyddo cyn diwedd mis Tachwedd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu ar amser i’r Nadolig). Ond gallwch chi osod nodyn i’ch atgoffa i gysylltu ym mis Hydref 2023!
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar dudalen Facebook Apêl Nadolig Mr X (Saesneg yn unig).
Apeliadau anrhegion Nadolig mewn ardaloedd eraill:
- Apêl Tegannau Nadolig PATCH (Gweithredu yn erbyn Caledi Sir Benfro) (Saesneg yn unig)
- Apêl Bocs Tegannau Superkids Gogledd Cymru (Saesneg yn unig)
- Apêl Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys (saesneg yn unig)
GWIRFODDOLI CYMUNEDOL
Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres i amlygu gwirfoddoli cymunedol na chaiff llawer o sylw’n aml. Darllenwch astudiaeth achos arall ar wirfoddoli cymunedol yma.
RHAGOR AM WYTHNOS ELUSENNAU CYMRU
Cynhelir Wythnos Elusennau Cymru rhwng 21-25 Tachwedd 2022, wythnos sy’n canolbwyntio ar gydnabod gwaith elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar hyd a lled Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wythnoselusennau.cymru.